Canlyniadau 821–840 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Profedigaeth (12 Maw 2019)

Mark Isherwood: 4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran y ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth? OAQ53536

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Profedigaeth (12 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Mae 40 y cant o'r 33,000 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn yn marw yn y gymuned, 55 y cant yn yr ysbyty. Er y cyfeirir at gymorth profedigaeth yn dilyn marwolaeth plentyn mewn unedau gofal dwys pediatrig yng nghynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael, nid yw'r cynllun yn cyfeirio at bwysigrwydd gofal profedigaeth i deuluoedd lle mae...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Parlys yr Ymennydd (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: 8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl â pharlys yr ymennydd? OAQ53573

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Disgyblion ar y Sbectrwm Awtistaidd (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Mae fy ngwaith achos yn llawn o deuluoedd mewn argyfwng am nad yw anghenion cyfathrebu, cymdeithasol, synhwyraidd a phrosesu eu plant wedi cael eu deall na'u nodi. Mae gennyf blant nad ydynt wedi bod yn yr ysgol ers misoedd, blynyddoedd hyd yn oed, a heb ddarpariaeth amgen ar waith. Mae gennyf ferch 11 oed, ac mae'r cyngor yn mynnu ei bod yn cael gyrrwr tacsi gwrywaidd. Oherwydd ei...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Parlys yr Ymennydd (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch i chi am hynny. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o gynnal digwyddiad i lansio cofrestr parlys yr ymennydd Cymru yn y Senedd. Bydd y gofrestr, sef y gofrestr genedlaethol gyntaf ym Mhrydain, yn cofnodi symptomau, asesiadau a gofal parhaus ar gyfer pobl sy'n byw gyda pharlys yr ymennydd wedi'u casglu gan weithwyr iechyd proffesiynol a'u storio'n ddienw ar systemau'r GIG. Bydd yn...

Grŵp 3: Ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd: Adennill costau (Gwelliannau 30, 6, 8, 9) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Hoffwn eglurhad ar un pwynt, os caf. Er y rhoddir mwy o fanylion ynghylch adennill costau o dan y gwelliannau hyn a bod peth cyfyngu wedi bod ar y cwmpas a'r amgylchiadau lle gall darparwr gofal iechyd osgoi atebolrwydd am rwystro a dirmyg o dan welliant 8, a all yr Aelod cyfrifol ddarparu unrhyw eglurhad pellach ynglŷn â'r rhesymau polisi sy'n sail i'r newidiadau a wnaed o dan welliant 8?

Grŵp 4: Archwilydd Cyffredinol: Gosod y cyfrifon ardystiedig (Gwelliant 49) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 49, sy'n ymwneud â'r cyfnod o bedwar mis o hyblygrwydd i Swyddfa Archwilio Cymru allu ei roi ar gyfer cyfrifon yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, a fewnosodwyd yng Nghyfnod 2. Er bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gofyn am y newid hwn yng Nghyfnod 1, mae yna gwestiynau ynglŷn â sut y byddai hyn yn berthnasol i gyrff cyhoeddus eraill y tu allan i...

Grŵp 4: Archwilydd Cyffredinol: Gosod y cyfrifon ardystiedig (Gwelliant 49) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Y bwriad oedd i hwn fod yn welliant ymchwilgar. Fel y dywedais, rydym yn gweld bwriad da yn sail i gael gwared ar y terfyn amser o bedwar mis o fewn y Bil. Ond rwy'n gresynu nad atebodd y Gweinidog fy nghwestiynau penodol wrth ymateb, sef diben y gwelliant ymchwilgar, sy'n anodd. Gan ddilyn ymlaen o ymateb yr Aelod cyfrifol fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at sicrhau...

Grŵp 8: Egwyddorion Nolan (Gwelliant 46) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant hwn o Gyfnod 2, am fy mod yn dymuno gofyn am sicrwydd gan yr Aelod cyfrifol y bydd yr ombwdsmon yn ystyried egwyddorion Nolan pan fydd ei swyddfa'n cynnal ymchwiliadau i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus. Fel yr amlinellais yng Nghyfnod 2, er y gall yr ombwdsmon ystyried hefyd fod egwyddorion Nolan yn rhai tra phwysig, nid yw'n gallu dwyn cyrff...

Grŵp 8: Egwyddorion Nolan (Gwelliant 46) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch ichi, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog a'r Aelod cyfrifol. Yn amlwg, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi, a chydag eraill heb amheuaeth, yn mynegi pryderon am eu profiadau eu hunain lle roedd eu cwynion, nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â swyddog neu swyddogion, er hynny'n cynnwys honiadau'n ganolog iddynt ynghylch ymddygiad swyddog neu swyddogion, ac felly, daethpwyd â'r mater...

Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion (Gwelliannau 47, 11, 48) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 11 gan ein bod yn credu y dylai'r Cynulliad gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar unrhyw newidiadau sylweddol y gallai'r ombwdsmon eu gwneud i'r datganiad o egwyddorion cyn belled ag y bo'n ymarferol. Cyflwynwyd gwelliant 48, lle mae angen cadarnhad i sicrhau bod yr ombwdsmon yn ystyried adnoddau cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 48 yn...

Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion (Gwelliannau 47, 11, 48) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. O ran gwelliant 47, y cryfder mwyaf a gafodd gydnabyddiaeth yn y Bil yng Nghyfnod 1 oedd y natur gadarnhaol o'i fewn, a dyna pam y cynigir y gwelliant hwn, gan nad oes fawr o gyfle i'r Cynulliad graffu ar yr egwyddorion cyn eu cyflwyno, ar y datganiad o egwyddorion cyntaf fan lleiaf. Gallai hynny fod yn destun pryder. Deallaf mai swyddfa'r ombwdsmon, ar ôl derbyn beth bynnag...

Grŵp 9: Gweithdrefnau ymdrin â chwynion (Gwelliannau 47, 11, 48) (13 Maw 2019)

Mark Isherwood: Rwy'n cynnig.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hyrwyddo Twristiaeth (19 Maw 2019)

Mark Isherwood: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ53591

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hyrwyddo Twristiaeth (19 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch am yr ymateb yna. Ond gyda bargen dwf gogledd Cymru yn symud ymlaen gobeithio, a dull Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel tîm gogledd Cymru y dylai Croeso Cymru fuddsoddi mwy i gefnogi'r rhanbarthau i dargedu ein marchnad gartref yn y DU gan adael Croeso Cymru i ganolbwyntio ar broffil Cymru yn rhyngwladol, sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'n sefydliad marchnata...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Maw 2019)

Mark Isherwood: Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar ariannu prentisiaethau, wythnos yn ôl, yn y Siambr, cyflwynodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod ei gyfraniad, dywedodd bod tric consurio yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ariannu prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i ni i adlewyrchu...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth y DU gylch o anobaith, gyda diweithdra a dibyniaeth aml-genhedlaeth wedi gwreiddio'n ddwfn mewn gormod o leoedd, a Chymru ar ei hôl hi. Nawr mae gennym ni fwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen ac mae cyflogau yn y DU yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers mwy na degawd. Ac mae'r ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, byddaf yn sôn am hynny yn ystod gweddill fy araith, ac rwyf innau hefyd wedi bod yn ysgrifennu at Weinidogion San Steffan am y materion a godwyd yn fy mhrofiad i gydag etholwyr. Dywedodd Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin yn 2012, Mae cefnogaeth eang i'r egwyddorion y tu ôl i gredyd cynhwysol, ac rydym ninnau o'r un farn. A dywedodd Ysgrifennydd cysgodol Gwaith...

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (20 Maw 2019)

Mark Isherwood: Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gyhoeddiad Llywodraeth y DU na fydd unrhyw ffin ffisegol yn Iwerddon pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Paratoadau Brexit Llywodraeth Leol (20 Maw 2019)

Mark Isherwood: Efallai mai'r enghraifft de facto orau o baratoadau llywodraeth Leol ar gyfer Brexit yng Nghymru yw bargen twf gogledd Cymru a chais twf gogledd Cymru, yn seiliedig ar gyllid uniongyrchol ac anuniongyrchol gan y ddwy Lywodraeth, ond hefyd datganoli mewnol i fod yn gyfwerth â'r hyn a ddatganolwyd gan Lywodraeth y DU i Bwerdy Gogledd Lloegr. Deallwyd y byddai penawdau telerau'n cael eu cytuno...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.