Caroline Jones: Weinidog, fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, un o'r pethau da sydd wedi ymddangos o'r pandemig hwn yw'r ysgogiad i'r Llywodraeth roi diwedd ar felltith digartrefedd. A ddoe mynychais gyfarfod rhithwir gyda Chyngor Abertawe, a hoffwn longyfarch yr arweinydd a chynghorwyr Cyngor Abertawe am sicrhau llety i lawer o bobl heb gartrefi, yn ogystal â darparu gwasanaeth cofleidiol pwysig...
Caroline Jones: Nid yw'r byd wedi profi bygythiad o'r fath gan elfen fiolegol ers 1918. Ysgubodd ffliw Sbaen drwy'r byd, gan adael marwolaeth a dinistr yn ei sgil, ac ymhell ar ôl i'r meirw gael eu claddu, teimlwyd yr effeithiau economaidd. Credai llawer fod ffliw Sbaen wedi arwain at y Dirwasgiad Mawr. Roedd lledaeniad coronafeirws anadlol aciwt difrifol hefyd yn bygwth bod yn argyfwng tebyg i ffliw 1918,...
Caroline Jones: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru'r adnoddau i ymdrin â phandemig yn y dyfodol? OQ55394
Caroline Jones: 1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol? OQ55374
Caroline Jones: Diolch, Llywydd.
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno ein bod ni wedi ein tanbaratoi'n druenus ar gyfer COVID-19. Er gwaethaf SARS a MERS, roedd ein cynllunio ar gyfer pandemig yn dal i fod yn seiliedig ar achosion o'r ffliw. Fodd bynnag, fe wnaeth ein gwaith cynllunio barhau i fethu â blaenoriaethu capasiti profi. Mae'r pandemig presennol hwn wedi dangos bod y gwledydd hynny a oedd â...
Caroline Jones: Trefnydd, a wnewch chi ofyn i Weinidog yr economi gyflwyno datganiad i gadarnhau pwy yn union sydd â'r hawl i gael pecyn cymorth busnes gan y gronfa adfer economaidd yn ystod y pandemig? Mae llawer o ddryswch yn parhau ynglŷn â phwy sy'n gymwys. Er enghraifft, yn achos un o fy etholwyr i sydd â thri busnes, ac sy'n talu treth dair gwaith, oherwydd eu bod yn cael eu rhedeg o'r un...
Caroline Jones: Diolch, Gweinidog. Roedd awdurdodau lleol eisoes yn cael trafferthion ariannol cyn y pandemig. Roedd gwasanaethau'n cael eu torri, ac eto roedd ein hetholwyr ni'n gweld eu biliau treth gyngor yn cynyddu ar raddfa eithriadol. Mae'r coronafeirws wedi rhoi straen enfawr ar awdurdodau lleol gan mai y nhw sydd ar y rheng flaen o ran amddiffyn y cyhoedd rhag y pandemig. Mae cynghorau ledled Cymru...
Caroline Jones: 2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei chanllawiau ar y defnydd o orchuddion wyneb gan aelodau o'r cyhoedd? OQ55432
Caroline Jones: Diolch, Brif Weinidog. Gwyddom bellach y gellir lledaenu’r feirws SARS-CoV-2, nid yn unig gan beswch a thisian, ond y gellir ei gario mewn microddiferion ac y gall cludwyr asymptomatig ei ledaenu. Caiff microddiferion eu cynhyrchu trwy anadlu a siarad. Rydym hefyd yn gwybod y gall gorchuddion wyneb helpu i ddal microddiferion ac atal lledaeniad coronafeirws. Felly, pam y mae Cymru yn un o'r...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch i waith caled ac ymroddiad ein staff iechyd a gofal, yn ogystal â'r aberth enfawr gan y cyhoedd yng Nghymru, rydym dros y gwaethaf o'r argyfwng coronafeirws yn awr. Fel y mae'r prif swyddog meddygol yn dweud, a hynny'n gywir, gallem wynebu bygythiad o'r newydd gan COVID-19 erbyn yr hydref. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau y gall y...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, daw'r bygythiad mwyaf y gaeaf hwn o ymdrin â thymor annwyd a ffliw gwael ochr yn ochr â COVID. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ehangu argaeledd y brechlyn ffliw a sicrhau ei fod ar gael yn gynharach? Bydd cyfyngiadau’r pandemig yn ei gwneud yn llawer anoddach i ddosbarthu'r brechlyn ffliw nag mewn blynyddoedd blaenorol, felly mae angen inni ddechrau paratoi...
Caroline Jones: Weinidog, mae hon yn ergyd drom arall i fy rhanbarth ac mae'n hynod o siomedig. Ond o ran sefyllfa Ineos, roedd gan y Grenadier oes silff fer iawn ac wrth inni fynd ati i gael gwared yn raddol ar injans tanwydd ffosil, a hynny mewn hinsawdd economaidd ansicr, roedd eu dyfodol yn ansicr. Ond serch hynny, mae'n destun gofid i fy etholwyr a fy rhanbarth. Brif Weinidog, mae'n amlwg fod y sector...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Cymru yw un o'r ychydig leoedd ar y ddaear lle nad yw gwisgo masgiau wyneb yn orfodol. Ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd y gymdeithas frenhinol ddau adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo gorchuddion wyneb yn gyhoeddus. Mae masgiau wyneb yn...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr nad yw gofalwyr ei mab yn cael eu profi fel mater o drefn. Mae ei mab yn agored iawn i niwed ac mae hi wedi cymryd pob rhagofal i sicrhau ei fod yn cael ei amddiffyn rhag y feirws, ond mae angen cefnogaeth ei ofalwyr arnyn nhw. Mae hi'n poeni y gallai un ohonyn nhw drosglwyddo COVID yn ddiarwybod....
Caroline Jones: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu capasiti profi COVID-19 yng Nghymru?
Caroline Jones: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod gan awdurdodau lleol y modd i orfodi cyfyngiadau symud lleol? OQ55513
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Y gwir trist yw bod COVID-19 yn parhau i ledaenu, ac mae llawer gormod o bobl yn methu bod o ddifrif ynglŷn â'r clefyd hwn, gan arwain yn anochel, yn anffodus, at glystyrau lleol o'r haint. Yr unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn mewn ffordd deg a chytbwys yw gosod cyfyngiadau hyperleol. Disgwylir bellach i lywodraeth leol, sydd eisoes dan bwysau eithafol ers cyn y...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Byddaf yn ei chefnogi, ynghyd â gwelliannau Plaid Cymru y teimlaf eu bod yn ceisio cryfhau'r ddadl. Rwyf wedi bod yn galw am wneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig ers dyddiau cynnar y pandemig,...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich—