Mark Isherwood: Diolch i'r Aelod cyfrifol am ei holl waith caled ac am y ffordd gydsyniol ac amhleidiol y mae wedi gweithio gyda phleidiau eraill drwy broses y Bil. Mae wedi bod yn un o'r achlysuron prin lle mae pob plaid wedi cytuno at ei gilydd ar ddarn o ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, wrth gwrs, roeddwn yn siomedig fod y gwelliannau a gynigais i yn aflwyddiannus. Mae'r ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol yn...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Daeth y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth, a gyhoeddwyd yn 1993, yn sgil deddfwriaeth cydraddoldeb ac amryw o achosion yn y llysoedd Ewropeaidd. Roedd newidiadau mewn disgwyliad oes yn cael eu hystyried hefyd. Deddf Pensiynau 1995 a arweiniodd yn gyntaf at gydraddoli, pan ysgogodd cyfarwyddeb yr UE Lywodraeth y DU i gydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod—a...
Mark Isherwood: Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna—. Iawn, yn sicr.
Mark Isherwood: Rwy'n dod at hynny, ond rwy'n ymwybodol bod hwn yn fater sy'n destun ymgyfreitha ar hyn o bryd.
Mark Isherwood: Mae hynny'n garedig iawn, diolch. Oherwydd bod hwn yn fater sy'n destun ymgyfreitha ar hyn o bryd, rwy'n ymwybodol iawn fy mod yn ceisio osgoi mynegi barn ac yn canolbwyntio yn hytrach ar yr hanes go iawn wrth wraidd hyn. Felly, cododd Deddf Pensiynau 2014 oedran pensiwn y wladwriaeth i 67 rhwng 2026 a 2028, a chyflwynodd adolygiadau rheolaidd o oedran pensiwn y wladwriaeth, a'r cyntaf...
Mark Isherwood: Oherwydd bod y mater dan ystyriaeth farnwrol ac felly wedi'i wahardd rhag cael ei drafod yn gyhoeddus mewn mannau eraill, glynais at ffeithiau hanesyddol a dyfyniadau o'r cofnod; ni fynegais farn ac nid ydym yn gwrthwynebu adolygiad barnwrol. Ond oherwydd yr amgylchiadau, nid oeddwn yn teimlo ei bod hi'n briodol creu risg o gyfraniad sub judice.
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru? OAQ53644
Mark Isherwood: Diolch. Cadarnhaodd ffigurau a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf mai Cymru oedd y lleiaf cynhyrchiol o 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU o hyd. Mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos bod diweithdra yng Nghymru, unwaith eto, yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pam mae ffigurau a gyhoeddwyd y mis hwn hefyd yn dangos, er bod y DU wedi gwario £527 y pen ar ymchwil a datblygu...
Mark Isherwood: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i warchod rhywogaethau sydd o dan fygythiad yng Nghymru? OAQ53645
Mark Isherwood: Diolch. Wel, mae'r gylfinir wedi'i restru fel rhywogaeth sy'n agos at fod dan fygythiad yn fyd-eang ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad, ac mae ar y rhestr goch o adar sy'n destun pryder cadwraethol yn y DU. Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod adroddiad 'State of Birds in Wales 2018' wedi nodi bod mwy na thri chwarter poblogaeth y...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wel, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub yng Nghymru, rydych wedi etifeddu'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 'Ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru' fis Tachwedd diwethaf, gyda'r ymgynghoriad yn cau ar 5 Chwefror. Fel y dywed ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Mae parch mawr i'r gwasanaethau tân ac achub. Afraid dweud, felly, y byddai...
Mark Isherwood: Wel, roeddent yn dweud hefyd mai'r amcan arfaethedig, yn rhyfedd braidd, yw ceisio gwarchod safonau uchel presennol y gwasanaethau tân ac achub drwy ddiwygio'r trefniadau a gynhyrchodd y safonau hynny. Ceir diffyg cysondeb yn y Papur Gwyn yn yr ystyr ei fod yn cynnig atebion i broblemau y mae'n derbyn nad ydynt yn bodoli, ac mae'r Papur Gwyn yn cyfeirio at ganfyddiad nad yw awdurdodau tân...
Mark Isherwood: Ond wrth gwrs, nid oes a wnelo hyn â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn unig, gan fod ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'r ymgynghoriad, er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb yn y Papur Gwyn—yn amlwg, credaf y bydd hyn yn digio pobl ledled Cymru—yn dweud bod aelodau presennol o'r awdurdod tân ac achub yn parhau i fod yn atebol i'w hawdurdodau cartref, ond yn y modd y maent...
Mark Isherwood: Diolch. Mae ein cynnig heddiw yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau ariannu a wynebir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol Cymru. O'u fformiwla ariannu llywodraeth leol ddiffygiol i'w diwygiadau llywodraeth leol carbwl, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gadael cynghorau i orfod...
Mark Isherwood: —ond hwy sy'n cael rhai o'r setliadau ariannol mwyaf hael. Ie, Joyce.
Mark Isherwood: Byddaf yn mynd i'r afael â hynny yng ngweddill fy araith. Gyda chronfeydd wrth gefn o £152.1 miliwn, mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn derbyn cynnydd o 0.8 y cant; mae Casnewydd, gyda chronfeydd wrth gefn o £102.3 miliwn, yn cael cynnydd o 0.6 y cant; Abertawe, gyda chronfeydd wrth gefn o £95.1 miliwn, cynnydd o 0.5 y cant. Fodd bynnag, mae'r cynghorau gyda'r toriadau mwyaf o -0.3 y cant yn...
Mark Isherwood: Mae ein cynnig yn nodi bod talwyr y dreth gyngor yng Nghymru ar hyn o bryd yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr neu'r Alban. Mae hefyd yn gresynu bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, a bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi codi ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban. Yn 1998, roedd yn rhaid i...
Mark Isherwood: Tybed a fyddai Alun Davies wedi cefnogi pleidlais y bobl pe byddai canlyniad y refferendwm wedi mynd y ffordd arall. Ond nid dyna'r ffordd yr aeth hi. Roedd 85 y cant o'r pleidleisiau a fwriwyd yn etholiad cyffredinol y DU yn 2017 dros bleidiau a oedd wedi ymrwymo yn eu maniffestos i lynu at ganlyniad y refferendwm a gweithredu Brexit. Felly mae'n anffodus iawn fod llawer yn y lle hwn wedi...
Mark Isherwood: Yn ffodus, gwelsom ein camgymeriad a newid ein polisi ar hynny, ac ni fu'n bolisi gennym bellach ers 13 o flynyddoedd. Felly, ie, da iawn am edrych tua'r gorffennol. Fodd bynnag, i adlewyrchu terminoleg Mr Corbyn, mae Prif Weinidog Cymru bellach wedi llithro'r term diystyr 'undeb tollau' i mewn yn hytrach nag 'yr undeb tollau', gan wybod yn iawn fod Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo i drefniant...
Mark Isherwood: Wel, fel y dywedwch, mae hyn yn ymwneud â gwastraff gweithgarwch uwch sydd wedi bod yn casglu dros 60 mlynedd, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Rwy'n deall ei bod hi wedi dweud bod cyfleuster gwaredu daearegol yn cynnig ateb parhaol i reoli gwastraff gweithgarwch uwch yn yr hirdymor, yn hytrach na gadael y cyfrifoldeb i...