Caroline Jones: Mae'n ddrwg gennyf i.
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ymddiheuriadau am fod yn rhy awyddus i ddweud fy mhwt y tro diwethaf—i chi ac i Carwyn. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth ostwng cyfraddau heintio? Oes gennych chi unrhyw ddata ynglŷn â chyfraddau glynu wrth fesurau i fynd i'r afael â COVID-19 a faint o bobl sydd wedi cael dirwy am...
Caroline Jones: Rwyf wedi cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig hwn, oherwydd roedd angen y mesurau hyn i osgoi miloedd o farwolaethau diangen, felly wrth gwrs fy mod i yn eu cefnogi. Byddaf yn parhau i gefnogi'r holl fesurau angenrheidiol ac felly byddaf yn pleidleisio dros yr holl ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw. Fodd bynnag, mae gennyf broblemau gyda'r ffordd yr ymdrinnir...
Caroline Jones: Weinidog, mae 2020 wedi amlygu pa mor agored i niwed yw ein heconomi mewn gwirionedd—agored i COVID ac agored i hinsawdd sy'n newid. Nid ydym yn barod o gwbl ar gyfer ymdopi â'r fath sioc i'n systemau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at liniaru risgiau pandemig yn y dyfodol a'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil...
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar effaith COVID ar addysg bellach ac addysg uwch a byddaf yn eu cefnogi heddiw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pawb, ond neb yn fwy na'n pobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld oedi yn eu haddysg, eu datblygiad cymdeithasol yn cael ei lesteirio, ac sy'n wynebu un o'r marchnadoedd swyddi anoddaf ers cenedlaethau. Er...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod yn gyfle inni fynd i'r afael ag un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl—newid hinsawdd. Mae effeithiau hinsawdd sy'n newid wedi'u teimlo'n eithaf dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod coronafeirws, o bosibl, yn dominyddu penawdau 2020, mae...
Caroline Jones: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau nad yw addysg plant a phobl ifanc yn cael ei tharfu arni yn ystod y chwe mis nesaf? OQ55604
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi darganfod pa mor anodd yw cadw rheolaeth ar y coronafeirws. Yn anffodus, mae rhagor o achosion yn y dyfodol yn anochel. Yr hyn y bydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau nad yw'r achosion hynny'n tarfu ar un diwrnod o addysg. Weinidog, rydym wedi gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref o ganlyniad i heintiau,...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar ei isaf erioed ac fe'i gwaethygir gan res o addewidion a dorrwyd. Mae pobl yn colli ffydd mewn datganoli am fod datganoli wedi methu sicrhau'r manteision a addawyd. Mae methiannau polisi a gwastraff Llywodraeth wedi cyflymu'r broses o erydu ymddiriedaeth yn ein sefydliad. ...
Caroline Jones: 3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cosbau i'r rhai sy'n torri rheolau COVID-19? OQ55666
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n gwbl amlwg nad yw'r dull moron yn gweithio ac nad yw'r dirwyon sy'n cael eu gorfodi yn llawer o rwystr ychwaith. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y de yn destun cyfyngiadau symud llym unwaith eto a'r cwbl oherwydd gweithredoedd lleiafrif hunanol. Rydym ni wedi colli ein rhyddid oherwydd bod rhai pobl eisiau cael partïon yn y tŷ. Nid ydym ni'n cael ymweld â'n...
Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddau ddatganiad gan Weinidogion y Llywodraeth. Y cyntaf yw datganiad gan y Gweinidog iechyd ar ofal canser yng Nghymru yn ystod y pandemig. Er bod gofal canser brys yn parhau i raddau, mae sgrinio am ganser, fel llawer o'r GIG, wedi'i ohirio wrth i adnoddau ganolbwyntio ar achosion SARS-CoV-2—yn ddealladwy ar ddechrau'r achosion, ond nid bron naw mis yn...
Caroline Jones: Weinidog, os oes gan ein heconomi unrhyw obaith o oroesi'r pandemig hwn, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda COVID-19. Mae byw gyda'r clefyd yn golygu bod yn rhaid inni gadw ar wahân i bobl nad ydynt yn ein teulu agos a gwisgo masgiau mewn mannau caeedig. Diolch byth, mae masgiau bellach yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mae cadw ar wahân yn anos. Mae'n rhaid inni sicrhau nid yn unig y...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, ac ar wahân i wisgo pinc, hoffwn ei nodi mewn ffordd arall, fwy personol—drwy siarad am fy nhaith i gyda chanser y fron, a nodi'r ffaith y gallwch oroesi'r clefyd ofnadwy hwn, ac annog menywod ledled Cymru i fod o ddifrif ynghylch y bygythiad, ac i archwilio'n rheolaidd. Mae 13 mlynedd wedi bod ers i mi ddod o hyd i dolc...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ein pwyllgor a chlercod y pwyllgor am eu gwaith anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad hwn. Yn sicr, fe olygodd COVID-19 na fu hwn yn ymchwiliad cyffredin. Roedd gweithio o bell yn gwneud cynnal ymchwiliad o'r fath hyd yn oed yn fwy heriol. Fodd bynnag, mae'r heriau a wynebir gan aelodau'r pwyllgor yn pylu'n ddim o'u cymharu â'r heriau a wynebir...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Parcio ar y palmant yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r rhai sydd â phroblemau symudedd, mamau ifanc â chadair wthio a phlant bach, a phobl sydd wedi colli eu golwg. Dirprwy Weinidog, oni chaiff mesurau eu gorfodi'n llym, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i wynebu'r her pryd bynnag y byddant yn gadael eu cartrefi. Sut y caiff mesurau eu...
Caroline Jones: Na, Llywydd, nid wyf i wedi cyflwyno cynnig i siarad yn y ddadl hon, diolch. Mae'n ddrwg gen i.
Caroline Jones: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar adnoddau llywodraeth leol? OQ55709
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Fel y nododd Archwilio Cymru yn eu hadroddiad diweddar, bydd cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, er gwaethaf bron i £0.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac er bod pawb yn disgwyl camau gan Lywodraethau canolog i fynd i'r afael â'r pandemig, llywodraeth leol sy'n rhoi’r mesurau ar waith ac yn cadw ein hysgolion ar agor. Weinidog, pa...
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gydnabod y byddai fy ngwelliant wedi ychwanegu at y ddadl. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, roedd cyfyngiadau symud yn ddrwg angenrheidiol ar ddechrau'r pandemig hwn wrth inni adeiladu capasiti i ymdrin â'r argyfwng. Fodd bynnag, rydym wedi cael saith mis i adeiladu'r capasiti hwnnw, ac mae'n mynd yn anos cyfiawnhau'r niwed i...