Mark Isherwood: Galwaf am ddau ddatganiad, yn gyntaf ar ddeiet fel triniaeth ar gyfer diabetes 2, yn dilyn canlyniadau calonogol o dreialon dau ddeiet diabetig a gynhaliwyd gan ddeietegydd diabetig Claire Chaudhry yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o ymweld â'r ysbyty i gyfarfod ag arweinydd gwasanaeth deietegol diabetes Betsi Cadwaladr, ynghyd â Phennaeth Deieteg a'r...
Mark Isherwood: 2. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i'r GIG wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb derfynol 2019-20? OAQ53707
Mark Isherwood: Diolch. Yn ei ymateb i Paul Davies ddoe, dywedodd y Prif Weinidog, 'bod yn rhaid i'n cymuned meddygon teulu wneud mwy i fodloni disgwyliadau poblogaethau cleifion'. Ond aeth dros saith mlynedd heibio bellach ers i Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol lansio ymgyrchoedd wedi'u hanelu at Aelodau'r Cynulliad yn rhybuddio am y bom sy’n tician, a bod 90...
Mark Isherwood: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion? OAQ53779
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i fanteisio ar hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer athrawon?
Mark Isherwood: Diolch. Ar 6 Chwefror, buom yn trafod deiseb Deffo! Fforwm Ieuenctid Byddar Cymru a oedd yn gofyn am well mynediad at addysg i bobl ifanc fyddar, staff cymwys i weithio gyda hwy, a chymorth i ddatblygu sgiliau pobl ifanc byddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae Deffo! yn pryderu eich bod wedi dweud yn eich ymateb dilynol i lythyr ganddynt a ddaeth i'ch sylw na fydd dim o'r £289,000...
Mark Isherwood: Cred Cymorth i Fenywod Cymru fod angen i ysgolion gael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i roi cyhoeddusrwydd priodol i fanteision y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd er mwyn sicrhau ac amddiffyn hawliau plant. Sut yr ymatebwch i Cymorth i Fenywod Cymru, sydd wedi atgyfnerthu'r angen am ymarferwr arweiniol addysg cydberthynas a rhywioldeb dynodedig a hyfforddedig i ddatblygu a...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chymorth i bobl anabl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod ar y cyd rhwng y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd ac ar drais yn erbyn menywod a phlant, gan edrych ar effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar fenywod anabl....
Mark Isherwood: Wel, 38 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n cymryd rhan mewn thesis yn y brifysgol gyda dau fyfyriwr arall ar ddemocratiaeth ddiwydiannol, coeliwch neu beidio, ac yn edrych ar lawer o'r meysydd a'r arbrofion a'r cynigion hyn bryd hynny. Ond, yn y bôn, roeddem yn cydnabod bod sefydliad llwyddiannus yn gwrando ar ei gwsmeriaid, yn allanol ac yn fewnol fel ei gilydd, a bod sefydliad sy'n gwneud y mwyaf...
Mark Isherwood: Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn gytundeb rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1965 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r Confensiwn yn cwmpasu hawliau pob unigolyn i fwynhau hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, disgyniad neu darddiad cenedlaethol neu ethnig. Cadarnhaodd y DU hyn ym...
Mark Isherwood: Wrth gwrs.
Mark Isherwood: Nid wyf yn mynd i wneud sylwadau am sylwadau pleidiol digyswllt, gan fy mod i eisiau i hon fod yn ddadl unedig gyda neges unedig. Rwy'n hapus os ydym ni eisiau cael dadl bleidiol ar faterion i gymryd rhan ynddi ar y sail honno ond nid y ddadl hon. Yn y de, mae KIRAN eisiau hyrwyddo gwybodaeth a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwahanol grwpiau hil a chynhyrchu gweithgareddau i feithrin dealltwriaeth...
Mark Isherwood: Mewn gwirionedd, penododd Llywodraeth Cymru Liberty Properties Developments Ltd yn ddatblygwyr ar gyfer safle Parc Bryn Cegin ym Mangor yn 2015. Fis Medi diwethaf, dywedodd y cyn Brif Weinidog wrth y Cynulliad hwn fod 'tir datblygu Parc Bryn Cegin, Bangor yn cael ei farchnata gan ein hasiantaeth eiddo masnachol... ein cronfa ddata ar eiddo a Chyngor Gwynedd.' Yn rhyfedd iawn, yr union eiriau...
Mark Isherwood: Yr wythnos diwethaf, gwrthododd corff llywodraethu'r Blaid Lafur alwadau i'r blaid ymrwymo i ail refferendwm ar yr UE, gyda rhai uwch ffigurau Llafur yn cynghori y byddai gwneud fel arall wedi fforffedu ardaloedd Llafur a oedd yn cefnogi gadael, ond gydag eraill wedi gadael y Blaid Lafur ers hynny oherwydd methiant Mr Corbyn i gefnogi ail refferendwm—sefyllfa, os caf ddweud, y gallai...
Mark Isherwood: Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn o weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai'n helpu ymgysylltiad cymunedol. Yn 2012, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf — y Ffordd Ymlaen' Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a ganfu y dylai cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw...
Mark Isherwood: Fe wnaethoch chi gyfeirio at eich datganiad ysgrifenedig ar 24 Ebrill i'r Aelodau, yn ystod toriad y Pasg, pan wnaethoch chi gyhoeddi bod tair ffrwd ariannu a'r gronfa gynghori sengl yn cael eu cyfuno. Fe wnaethoch chi ddweud bod darparwyr yn cael eu hannog i gynllunio ac i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy cydweithredol, ac ar sail ranbarthol, rydych chi'n sefydlu rhwydweithiau cyngor...
Mark Isherwood: A gaf i alw am un datganiad ar gymorth i bobl ag enseffalomyelitis myalgig, neu syndrom blinder cronig, yng Nghymru? Ddydd Sul diwethaf, fel y gwyddoch o bosibl, oedd Diwrnod Ymwybyddiaeth ME, ar 12 Mai, a'r mis hwn yw Mis Ymwybyddiaeth ME. Fe wnes i alw am ddatganiad tebyg ar 13 Tachwedd, neu fis Tachwedd diwethaf, ar ôl imi gynnal digwyddiad yn y fan yma gyda Chymdeithas Cefnogi ME a CFS...
Mark Isherwood: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwaith teg yng Nghymru? OAQ53854
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar eich rôl fel arweinydd Llywodraeth Cymru ar bolisi a chysylltiadau â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru. Ym mis Chwefror, cynhaliais ddigwyddiad yn y Cynulliad i ddathlu lansiad Gwobrau Cyn-filwyr cenedlaethol cyntaf Cymru, i ddathlu a gwobrwyo cyn-filwyr neu gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi dychwelyd at fywyd sifil ac...
Mark Isherwood: Gwych. Fel y dywedais, maent am ysbrydoli'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn y dyfodol a dangos y gall pethau gwych ddigwydd. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU y bydd pobl sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd bellach yn gallu cael llety milwrol am hyd at flwyddyn ar ôl gadael, gan roi mwy o amser iddynt edrych am lety parhaol wrth iddynt ddychwelyd at fywyd...