Canlyniadau 881–900 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' (16 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser gennyf ddilyn y siaradwr diwethaf a hefyd fy Nghadeirydd ar y pwyllgor, John Griffiths. Rwy'n codi'n syml iawn i gefnogi'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r adroddiad a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion, oherwydd credaf fod yr adroddiad yn gytbwys iawn mewn gwirionedd. Nid yw'n rhyfygus nac yn ideolegol nac yn ffocysu'n ormodol ar bwynt terfyn penodol....

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Tybed a allai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog amlinellu'r canlyniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol pe bai'r Siambr hon yn peidio â rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn gael ei ruthro ymlaen gan Lywodraeth y DU. Ac, a allai hefyd egluro pam y dylai hyn fod o bwys mawr i'r busnesau, y ffermwyr, y cynhyrchwyr bwyd, y myfyrwyr a'r etholwyr mewn etholaeth fel fy un i yn Aberogwr?

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19) (22 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am y datganiad a chroesawu'n fawr y ffaith bod y trafodaethau pedair gwlad wedi dechrau, ond hoffwn ofyn iddo a yw'n siŵr ac yn hyderus y bydd yna gyfarfodydd rheolaidd a dibynadwy yn digwydd nawr, ac nid unwaith yn unig? Ac a gaf i ddiolch iddo hefyd am yr ymgysylltu hynod ddwys a gafodd, nid yn unig ag Aelodau'r Senedd, ond ag arweinwyr yr awdurdodau lleol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Llywodraethiant Prosiectau Cyhoeddus (23 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, fel rydym eisoes wedi clywed o'r cwestiynau hyn, un o fanteision llywodraethu prosiectau cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yw bod atebolrwydd uniongyrchol yma ar lawr y Senedd ac yn agos at bobl Cymru, a dyna'r ffordd y dylai fod. Mae hefyd yn golygu bod prosiectau'n cael eu gweld drwy baradeim polisi Cymreig, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015....

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Hyrwyddo Canolbarth Cymru Fel Cyrchfan i Dwristiaid (23 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Ddirprwy Lywydd, ymddiheuriadau am yr oedi, nid oedd y cyrchwr yn caniatáu i mi agor y meic. Weinidog, pan fyddant yn caniatáu i mi adael Pen-y-bont ar Ogwr ar ryw bwynt, pan fyddwn wedi llwyddo i drechu'r feirws hwn, rwy'n edrych ymlaen at wisgo fy sanau cerdded a mynd ar hyd Ffordd Cambria drwy ganolbarth Cymru. Mae'n drysor gwych ac wrth gwrs, y llynedd, ynghyd â'r Cerddwyr, lansiwyd...

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Etholiadau'r Senedd (23 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lywydd, tybed a gaf fi ofyn i chi p'un a gafwyd unrhyw drafodaethau yn y Comisiwn, yn eich gwaith yn hysbysu'r etholwyr am etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, ynglŷn â chymhwysedd pleidleisio drwy'r post, yn enwedig wrth inni weld y cyfyngiadau coronafeirws ar waith mewn mwy a mwy o rannau o Gymru. Rwy’n sylweddoli mai mater i'r Comisiwn Etholiadol yw hwn yn...

14. Cyfnod Pleidleisio (23 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Huw Irranca-Davies yma. Wrth inni fynd drwy hyn, rwy'n ymwybodol, er mwyn y cofnod, fod gwelliant 3 yn y set flaenorol o bleidleisiau'n cael ei ddangos fel un a basiwyd cyn y prif welliant. Felly, er cywirdeb y cofnod, rwyf am wneud yn siŵr fod hynny'n iawn.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Buddsoddi Rhanbarthol (29 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: 2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru? OQ55600

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Buddsoddi Rhanbarthol (29 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Wel, Prif Weinidog, rwy'n siomedig o weld nad oes unrhyw drafodaethau wedi eu cynnal ar y lefel uchaf honno o Lywodraeth, ond nid wyf i'n rhoi'r bai arnoch chi o gwbl. Yng Nghymru, gyda'n model cadw pwerau sefydledig o ddatganoli a'r blaenoriaethau gwario yn deillio o fframwaith polisi eglur, a gyfansoddwyd yn gyfreithiol, yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015,...

16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (29 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf wedi mwynhau darllen y fersiwn ddiweddaraf hon, a fydd yn arwain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, at 'Dyfodol Cymru: cynllun cenedlaethol 2040'. Fel y dywedodd Mike Hedges, y mae ei bwyllgor ef a phwyllgor arall wedi bod yn dilyn hyn yn fanwl—fel yr wyf i o'r meinciau cefn—mae'n gam gwirioneddol ymlaen. Mae wedi datblygu llawer o'r themâu a nodwyd yn...

16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (29 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: O, un peth felly: a gaf i ofyn yn fawr iawn i chi, os gwelwch yn dda, ganolbwyntio ar fater capasiti'r grid? Mae'n rhy ddrud i ddatblygu capasiti presennol y grid. Nid oes gen i ffydd yn Ofgem y gallan nhw, mewn gwirionedd, ddefnyddio eu dull prisio o dan Lywodraeth y DU i greu mwy o gysylltedd grid mewn gwirionedd. Felly, a dweud y gwir, boed hynny yn wynt, PV, alltraeth, ar y tir neu unrhyw...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Meddwl a Lles (30 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau coronafeirws ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru? OQ55601

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysg yn y Cartref (30 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, gall addysg yn y cartref fod yn ddewis gwybodus a chadarnhaol i deuluoedd a phlant, felly mae'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr. Ond ym mis Mehefin, fe gyhoeddoch chi, yn sgil pwysau ymateb i argyfwng COVID, na fyddai modd bwrw ymlaen â'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad ar ganllawiau statudol ar gyfer addysg yn y cartref a rheoliadau drafft y...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Meddwl a Lles (30 Med 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, edrychwn ymlaen at y datganiad hwnnw, oherwydd po hiraf y bydd y coronafeirws gyda ni a pho hiraf y bydd yn rhaid inni addasu ein bywydau, y mwyaf dwys yw'r effaith bosibl ar iechyd meddwl a lles. Ond effeithiwyd yn fwy difrifol ar rai oherwydd ynysigrwydd cymdeithasol gorfodol a'r angen i warchod, oherwydd colled ariannol neu golli swyddi, a'r pryder parhaus ynglŷn â dod i...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, a gaf i gymeradwyo'r ymgysylltu yr ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â hyn, ond hefyd yr elfen radical sy'n britho'r adroddiad hwn a'r datganiad hefyd? Y rheswm am hynny yw, wrth i mi eich cymell ar ddechrau hyn, nid aethoch chi at yr wynebau arferol, ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio o fewn uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, sy'n...

6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 ( 6 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: Dim ond un cwestiwn sydd gen i, ond dim ond i ddweud, gan fy mod i'n dod o ardal sydd wedi bod yn destun y mesurau lleol hyn ers cryn amser, gyda Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr, mae fy rôl i, a rôl pobl eraill yn yr ardal, i raddau helaeth wedi bod i egluro wrth bobl pam mae'r mesurau yn angenrheidiol a'u hannog i gadw atyn nhw, er mor anodd yw hynny i fusnesau ac unigolion. Yr...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol' ( 7 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol ar gefnogaeth ar gyfer adfer ac ailgodi ar ôl COVID-19 yn y dyfodol? OQ55638

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau Lletygarwch ( 7 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r sector bragdai yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru, o ficrofragdai i'r nifer gynyddol o fragwyr annibynnol, cynhenid sy'n ychwanegu at frand Cymru fel lle ar gyfer bwyd a diod lleol o'r radd orau, fel Brecon Brewing yn Aberhonddu ac—arhoswch am hyn—yn Ogwr, i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol' ( 7 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am ymuno â mi'n ddiweddar mewn digwyddiad ar-lein lle roeddech yn bwrw iddi'n feddylgar iawn i ateb dwsinau o gwestiynau gan y cyhoedd ar adfer ac ailadeiladu ar ôl COVID? Felly, gan gydnabod yr heriau aruthrol cyn y pandemig a senarios 'cytundeb' neu 'dim cytundeb' yr UE, a heb fod yn Johnsonaidd a pharablu optimistiaeth ffantasïol am fod yn 'orau yn y...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd — 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' ( 7 Hyd 2020)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth Dawn Bowden am gadeirio pwyllgor ar fater dadleuol sydd o bwys arbennig i weithrediad y Senedd hon, Senedd Cymru, yn awr ac yn y dyfodol? Gwnaeth hynny'n fedrus tu hwnt, a chyda chymorth tîm bach rhagorol o glercod, er gwaethaf y tarfu annisgwyl yn sgil y pandemig a rhai heriau gwleidyddol lleol. Cadwaf fy sylwadau ar hynny at rywdro eto, ond nodaf yn syml fy...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.