Canlyniadau 881–900 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Practisau Meddygon Teulu (20 Hyd 2020)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ddifrifol ar ofal sylfaenol, gan gyflwyno rhwymedigaethau a beichiau ychwanegol ar weithlu a oedd eisoes mewn trafferthion. Rydym ni'n gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o feddygon teulu i ymdopi â llwythi gwaith mewn cyfnod normal, ond, wrth i ni ddechrau'r tymor annwyd a ffliw gyda COVID-19 yn dal i fod yn rhemp, bydd y pwysau yn...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Hyd 2020)

Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thrin pobl hŷn yn ystod y pandemig presennol. Ddoe, gofynnwyd imi fynd i gyfarfod gyda grŵp bach o breswylwyr byw â chymorth i drafod y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf, dim ond iddynt gael gwybod gan Tai Arfordirol fod yn rhaid iddynt gyfarfod allan yn yr awyr agored. Roedd rhai o'r...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Hyd 2020)

Caroline Jones: Roedd yn ymwneud â chyfraniad rhagrithiol Alun Davies ynghylch—

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cymorth i Fusnesau (21 Hyd 2020)

Caroline Jones: Weinidog, yn anffodus mae gormod o lawer o fusnesau'n syrthio drwy'r craciau yn y cymorth a gynigir, ac yn sicr nid yw'r gefnogaeth sydd ar gael yn gwneud iawn am yr effeithiau hirdymor y mae gwahanol gyfyngiadau wedi'u cael. Nid yw busnesau'n gwybod a fyddant ar agor neu ar gau o un wythnos i'r llall, ac nid yw llawer o ficrofusnesau'n cael unrhyw gymorth o gwbl am nad oes ganddynt gyfrifon...

7. Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru (21 Hyd 2020)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon. Rwyf wedi gwrthwynebu gwaredu gwaddodion a garthwyd o safle gorsaf bŵer niwclear Hinkley C yn y gorffennol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch diogelwch gwaddodion. Efallai fod y gwaddod a garthir yn cael ei waredu yn rhanbarth Canol De Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar fy rhanbarth i, sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd ac yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: COVID-19 mewn Ysbytai ( 3 Tach 2020)

Caroline Jones: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55809

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: COVID-19 mewn Ysbytai ( 3 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ffaith fod COVID-19 wedi cael ei adael i ledaenu yn ein hysbytai yn arwydd o fethiant clir ym mholisi'r Llywodraeth ac o esgeuluso dyletswydd Llywodraeth Cymru i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Prif Weinidog, pam nad oes ffin glir rhwng cleifion sydd â COVID a chleifion nad oes ganddyn nhw COVID? Pam ydym ni'n profi ychydig dros hanner yr holl...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 3 Tach 2020)

Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r sefyllfa barhaus yn fflatiau Henllys yn Abertawe. Yn dilyn y problemau llifogydd, bu'n rhaid rhoi rhai trigolion mewn llety dros dro ac mae'r rhai sydd wedi aros yn eu heiddo wedi cael gwybod na fydd y lifftiau yn weithredol am bythefnos neu fwy, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar lawer o drigolion...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr ( 3 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad chi, Prif Weinidog. Rydym wedi gweld bod cyfnodau clo yn difrodi bywyd a bywoliaeth y cyhoedd yng Nghymru yn aruthrol, a'r tlotaf yn ein cymdeithas ni'n arbennig felly, oherwydd cafodd llawer o bobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas eu gadael ar ôl. Mae pobl wedi colli eu gwaith ac mae busnesau wedi cau. Ac er fy mod i'n sylweddoli bod yn rhaid inni wneud yn siŵr...

12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ( 3 Tach 2020)

Caroline Jones: Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio cyfyngiadau symud ac y dylid eu hosgoi. Bydd y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi i iechyd, cyfoeth a lles pobl yn ddifrifol, ac rydym yn gweld nifer syfrdanol o fusnesau yn methu, niferoedd di-ri o bobl yn colli eu swyddi, niferoedd enfawr o bobl ifanc methu â dod o hyd i waith, ac addysg...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros ( 4 Tach 2020)

Caroline Jones: Weinidog, gyda Bae Abertawe yn dal i orfod rhoi mesurau rheoli heintiau ar waith yn Ysbyty Treforys, bydd nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn parhau i gynyddu, gan waethygu sefyllfa sydd eisoes yn enbyd yng nghyswllt amseroedd aros gormodol am driniaeth. Cyn y pandemig, roedd bron i 6,500 o bobl eisoes yn aros dros 36 wythnos am driniaeth. Felly, gyda thriniaethau cyffredin yn cael eu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoli'r Defnydd o Dân Gwyllt (10 Tach 2020)

Caroline Jones: Prif Weinidog, hoffwn innau hefyd bwysleisio'r effaith y mae tân gwyllt yn ei chael ar bobl ac anifeiliaid anwes bob blwyddyn. Mae noson tân gwyllt wedi troi'n wythnos tân gwyllt yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae tân gwyllt wedi dod yn fwyfwy pwerus. Mae cyn-filwyr ac anifeiliaid anwes yn byw mewn ofn yn ystod y cyfnod hwn wrth i ardaloedd tawel ymdebygu i barthau rhyfel. Prif Weinidog,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Tach 2020)

Caroline Jones: Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â rhaglen Dechrau'n Deg. Mae rhywun amlwg ym Mhort Talbot wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch hyfywedd y rhaglen i'r dyfodol. Nid yw cyfleusterau gofal plant ym Mhort Talbot wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau eu tâl nhw am ddarparu gofal dros y pedair blynedd diwethaf, gyda llawer...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Ngorllewin De Cymru (11 Tach 2020)

Caroline Jones: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar fusnesau yng Ngorllewin De Cymru? OQ55827

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Busnesau yng Ngorllewin De Cymru (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Mae'r pandemig wedi difetha economi fy rhanbarth, ac er y gall y feirws ddinistrio bywydau, mae'r mesurau i'w reoli wedi dinistrio bywoliaeth pobl, ac mae gormod lawer o fy etholwyr wedi colli eu swyddi a'u busnesau. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw wedi bod yn ddigon. Cysylltodd un o fy...

4. Cwestiynau Amserol: Brechlyn COVID-19 (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Weinidog, mae'r newyddion am y brechlyn Pfizer yn addawol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni ei botensial. Fodd bynnag, bydd cryn amser cyn y gallwn sicrhau'r bron i 6 miliwn dos sydd eu hangen. Gan droi at ymarferoldeb cyflwyno'r rhaglen, os yw'r brechlyn hwn a brechlynnau eraill yn bodloni safonau diogelwch ac effeithiolrwydd, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau a chylchlythyrau meddygon...

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Cynigiwyd yn ffurfiol.

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Ar y diwrnod hwn rydym yn coffáu'r diwrnod y distawodd y gynau yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn anffodus, nid dyma oedd diwedd rhyfeloedd, ond nodwn ddiwedd y rhyfel mwyaf enbyd hwn bob blwyddyn a choffáu pawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd arfog drwy gydol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, mae angen mynd i ryfel weithiau er mwyn trechu'r drwg a...

12. Dadl Fer: Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ddegawd newydd wawrio yng Nghymru, roedd ein GIG unwaith eto'n cael trafferth gyda phwysau'r gaeaf. Nid oedd Ionawr 2020 yn anarferol. Bob gaeaf dros y blynyddoedd diwethaf, llusgodd ein GIG i stop wrth iddo gael trafferth i ymdopi â thymor anwyd a ffliw. Cafodd triniaethau nad oeddent yn rhai brys eu torri wrth i'r GIG redeg allan o welyau unwaith eto....

12. Dadl Fer: Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru (11 Tach 2020)

Caroline Jones: Yn gyffredinol, yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, cafodd tua 62,000 yn llai o gleifion lawdriniaethau yng Nghymru, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol—gadawyd 62,000 o bobl mewn poen a dioddefaint heb unrhyw ddiwedd yn y golwg. Ac nid yw pobl wedi stopio mynd yn sâl. Nid yw clefyd y galon, dementia a chanser wedi diflannu. Nid COVID-19 yw lladdwr mwyaf Cymru. Yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.