Mark Isherwood: Wel, gobeithiaf fod eich ymateb yn golygu y byddwch yn mynd i'r afael â hyn yn awr o fewn y llwybr gyda'ch swyddogion. O ystyried eich ymateb blaenorol, efallai eich bod wedi clywed am Project 360°—partneriaeth rhwng Age Cymru, yr elusen i gyn-filwyr Woody's Lodge, a Chynghrair Henoed Cymru—sy'n darparu lle croesawgar i gyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar a...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, wrth ymateb i'ch datganiad yma yr wythnos diwethaf—
Mark Isherwood: O'r gorau. Wrth ymateb i ddatganiad eich cyd-Aelod y Gweinidog yr wythnos diwethaf ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, cyfeiriaf hefyd at 'Good Work Plan' Llywodraeth y DU. Mae hwn yn dilyn argymhellion a wnaed gan Matthew Taylor, prif weithredwr cymdeithas frenhinol y celfyddydau, sydd â chenhadaeth i gyfoethogi cymdeithas drwy syniadau a gweithredoedd, felly, yn amlwg, nid yw'n adroddiad...
Mark Isherwood: Diolch. Agorodd Gweinidog yr wrthblaid, Janet Finch-Saunders, y ddadl drwy dynnu sylw at yr angen i gydnabod a chefnogi oedolion ifanc sy'n ofalwyr yng Nghymru, i gydnabod adroddiadau annibynnol, a chydnabod argymhellion blaengar y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i ofalwyr ifanc yng Nghymru. Fel y dywedodd, ni ddylai oedolion ifanc sy'n ofalwyr fod o dan anfantais,...
Mark Isherwood: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn gyntaf ar ddiagnosis a rheoli canser y prostad yng Nghymru? Ddeuddeg diwrnod yn ôl, diweddarodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu NICE, eu canllawiau ar gyfer diagnosis a rheoli canser y prostad yng Nghymru a Lloegr, gan argymell, ymysg pethau eraill, y dylid cynnig gwyliadwriaeth weithredol fel dewis...
Mark Isherwood: Diolch am eich dyfalbarhad. Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu cyfiawnder ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n wynebu erlyniad a'u hymgysylltiad, os o gwbl, â Llywodraeth y DU, ynglŷn â hyn? Y penwythnos hwn, gorymdeithiodd cannoedd o brotestwyr drwy Gaerdydd i gefnogi cyn-filwyr sy'n cael eu herlyn am droseddau hanesyddol yng Ngogledd...
Mark Isherwood: Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei chyfarfod a'i chyfarfod briffio cyn hynny ar y glasbrintiau cyfiawnder hyn ar gyfiawnder ieuenctid a throseddu ymhlith menywod y bore yma. O ystyried y materion hyn, yn ogystal â throseddu ehangach, mae'n iawn inni ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Fel y clywsom gan y Dirprwy Weinidog, canfu adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ym mis...
Mark Isherwood: A gaf i ofyn un cwestiwn, os caf i? Wrth ystyried hyn, sut ydych chi wedi ystyried adroddiad 2012 y sefydliad ymchwil adeiladu am ddadansoddiad cost a budd systemau chwistrellu preswyl, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, a oedd yn ailadrodd canfyddiadau'r adroddiad cyfatebol o 2002 i'r Dirprwy Brif Weinidog yn y DU, sef er nad oedd systemau chwistrellu yn effeithiol mewn tai deulawr, y...
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymgysylltiad diwylliannol yng Ngogledd Cymru? OAQ53889
Mark Isherwood: Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i helpu pobl â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru wrth ddyrannu cyllid ar gyfer cyllideb 2019-20?
Mark Isherwood: Nododd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2019-20 gyllid cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, yn cynnwys cyllid cyfalaf cyffredinol o £193 miliwn, gan ostwng i £183 miliwn yn y flwyddyn ganlynol, ond gan gynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Gŵyr pob un ohonom fod tywydd garw wedi effeithio ar...
Mark Isherwood: Ar ôl i Lywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer amgueddfa bêl-droed genedlaethol, dywedais yma ddwy flynedd yn ôl fod pobl gogledd Cymru yn haeddu cael amgueddfa bêl-droed genedlaethol ar garreg eu drws. Fel roeddwn wedi’i ddweud yma yn y Cynulliad blaenorol, 'Mae gan Wrecsam amgueddfa leol ardderchog... Ond un yn unig o saith safle Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle y...
Mark Isherwood: Wel, er iddi etifeddu argyfwng economaidd a choffrau gwag, mae Llywodraeth ddarbodus y DU ers 2010 wedi llwyddo i fanteisio ar gyfleoedd i wireddu potensial economaidd y DU. Y mis hwn, mae ffigurau swyddogol ar gyfer y DU wedi dangos bod allbwn adeiladu wedi codi, allbwn cynhyrchiant wedi codi, allbwn gwasanaethau wedi codi, cyfraddau cyflogaeth wedi codi i fod cyfuwch â’r ffigur uchaf a...
Mark Isherwood: 6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi eu heithrio o'r ysgol? OAQ53939
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo pobl sydd â nam ar y synhwyrau? OAQ53938
Mark Isherwood: Diolch. Fis Awst diwethaf, fe'i gwnaed yn glir am y tro cyntaf mewn dyfarniad llys nodedig mewn achos o wahardd o'r ysgol fod yn rhaid i bob ysgol sicrhau eu bod wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer plant awtistig neu blant ag anableddau eraill cyn y gallant droi at wahardd. Yn ddiweddar, yn ystod y pythefnos diwethaf, cefais lythyr gan etholwr, tad y bûm yn gweithio gydag ef ers rhai...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, yn union fel pobl heb nam ar y synhwyrau, nid oes un ffordd sy'n addas i bawb o ddarparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau. Mae rhai awdurdodau lleol yn ariannu sefydliadau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth i breswylwyr, gan alluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, ac mewn rhai achosion, pobl sy'n drwm eu clyw neu wedi colli eu clyw, tra bo...
Mark Isherwood: Mae Llafur, 'plaid y GIG' fel y mae'n galw ei hun, yn gyfrifol am saith bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru, ac mae'n gywilyddus fod pump o'r rhain mewn mesurau arbennig o ryw fath. Ni fydd y mwyaf o'r rhain, sy'n gwasanaethu tua miliwn o bobl, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, yn dathlu'r ffaith y bydd hi'n bedair blynedd ddydd Sadwrn nesaf ers iddo gael ei roi mewn...
Mark Isherwood: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig cydsyniol hwn sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth, cyllideb a chynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, ac i'r Senedd hon yng Nghymru ysgogi atebolrwydd ar y cynnydd a wnaed ar yr agenda trechu tlodi. Er bod polisi Llywodraeth y DU ar faterion sydd heb eu datganoli yn berthnasol ar y ddwy ochr i'r ffin, nid yw polisi Llywodraeth Cymru ond yn...
Mark Isherwood: A ydych yn cydnabod ymchwil, sydd yr un mor bryderus, yn 2008 gan Sefydliad Bevan ac Achub y Plant, a ganfu fod un o bob pedwar plentyn yng Nghymru'n byw mewn tlodi—y mesur tlodi cymharol—a bod 90,000 yn 2008 yn byw mewn tlodi difrifol, sef y lefel uchaf yn y DU? Felly, nid yw hon yn broblem newydd, ac mae'n sicr yn broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi.