Canlyniadau 901–920 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rhaglenni a Ariennir gan yr UE (17 Tach 2020)

Caroline Jones: Prif Weinidog, roedd llawer o fusnesau yng Nghymru yn teimlo bod rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE yn y gorffennol yn cael ei dal yn ôl gan lawer gormod o reolau a phrosesau rhy fiwrocrataidd ac, o ganlyniad, bod rhai rhaglenni wedi methu â chyflawni eu nodau datganedig, sef cynyddu ffyniant economaidd Cymru a'n pobl. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Tach 2020)

Caroline Jones: Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai ynglŷn â digartrefedd yn ystod y pandemig. Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd y Gweinidog fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu ar y stryd a sicrhau bod llety brys ar gael—cam yr oeddwn i a llawer o rai eraill yn ei groesawu ar y pryd. Fodd bynnag, wrth i'r pandemig barhau i fynd rhagddo, rydym unwaith eto yn gweld...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Tata Steel (17 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'r gweithwyr dur a'u teuluoedd yn fy rhanbarth i'n pryderu llawer iawn am benderfyniad Tata i wahanu busnesau'r DU a'r Iseldiroedd. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i ni ei gwneud yn flaenoriaeth i sicrhau bod gweithfeydd Tata yn y DU yn hunangyllidol? Mae'n rhaid sicrhau bod gan Bort Talbot swyddogaeth yn y dyfodol o ran darparu...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyngffydd (17 Tach 2020)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Mae Wythnos Rhyngffydd yn rhoi cyfle i ni gynyddu dealltwriaeth rhwng y crefyddau, a hefyd gyda'r rhai heb unrhyw gredoau crefyddol o gwbl. Dirprwy Weinidog, ydych chi'n cytuno mai anghydfodau rhyngffydd fu prif achos y rhan fwyaf o wrthdaro arfog, a bod cynyddu dealltwriaeth yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi gwrthdaro a...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (18 Tach 2020)

Caroline Jones: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig parhaus yn ei chael ar gynllunio awdurdodau lleol ar gyfer y gaeaf?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Bioamrywiaeth (18 Tach 2020)

Caroline Jones: Weinidog, mae colli bioamrywiaeth yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein rhywogaethau. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau, ac mae poblogaethau bywyd gwyllt pwysicaf y DU wedi gostwng 60 y cant ers 1970, sy’n syfrdanol. Bydd y difrod ecolegol yn cael effaith aruthrol ar ddynoliaeth a'n gallu i fwydo ein hunain. Rydym eisoes wedi gweld effaith ein tresmasu ar gynefinoedd...

8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19 (18 Tach 2020)

Caroline Jones: Pan godais fater y feirws newydd a oedd yn dod i'r amlwg yn Tsieina am y tro cyntaf, ynghyd â'i botensial i fygwth y tiroedd hyn, nid oeddwn yn credu na fyddem wedi cael rheolaeth arno bron i 10 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â'r rheolau, sy'n gallu bod yn ddryslyd iawn. Cysylltodd un etholwr â mi'n ddiweddar i ofyn pam na allai gyfarfod â ffrindiau yn gymdeithasol yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Rha 2020)

Caroline Jones: Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Addysg ynghylch addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae llawer o rieni pryderus wedi cysylltu â mi sy'n teimlo bod y cwricwlwm newydd arfaethedig yn mynd yn rhy bell. Maen nhw hefyd yn bryderus iawn na all rhieni eithrio eu plant o wersi o'r fath mwyach. Mae miloedd o rieni'n credu'n briodol fod addysg rhyw yn dechrau ac yn gorffen yn y...

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: Parhad ( 9 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Bydd fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, ac rydym yn anghytuno â chasgliadau llawer o bobl fod y Bil marchnad fewnol yn tanseilio datganoli yn llwyr. Byddwn yn dadlau i'r gwrthwyneb—heb ymagwedd synhwyrol tuag at fasnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng y gwledydd cartref gallem weld symudiad rhydd nwyddau yn dod i ben, a allai arwain at...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan. Mae COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar bob un ohonom, ac fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi'n briodol, mae wedi gosod beichiau ofnadwy ar ysgwyddau rhieni newydd i blentyn a anwyd yn ystod y pandemig hwn. Mae'n werth ailadrodd fod y cyfnod o feichiogi i 2 oed yn gyfnod tyngedfennol, pan osodir...

7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr ( 9 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i ymdrin â'r cynnig ei hun, rhaid imi gofnodi fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi cael ei drin. Etholwyd y Senedd hon i ddeddfu er budd gorau pobl Cymru, ond oherwydd y dirmyg a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, mae galw arnom unwaith eto i amenio penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Cawsom ein hethol i gynrychioli ein...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynd i'r Afael â Phandemig y Coronafeirws (15 Rha 2020)

Caroline Jones: 2. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r cyngor y mae wedi'i gael ynghylch mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws? OQ56051

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynd i'r Afael â Phandemig y Coronafeirws (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Drwy gydol y pandemig, rydych chi wedi dilyn y cyngor a roddwyd i chi gan y gell cyngor technegol, ac eto mae'r pandemig yn ymledu'n ffyrnig ac allan o reolaeth yn llwyr yng Nghymru. Felly, mae llawer o bobl yn dod i'r casgliad bod problem naill ai gyda'r cyngor neu gyda'i weithrediad. A gan na allwn ni weld y cyngor a roddir i Weinidogion, dim ond crynodebau,...

17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Diolch i'r Prif Weinidog am roi copi i ni o gynllun rheoli coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, Cymru bellach sydd â'r cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU, a thros y saith diwrnod diwethaf, y gyfradd heintio dreigl fesul 100,000 oedd 450.4. Ledled Cymru, roedd cyfradd profion cadarnhaol bron 20 y cant, ac mae hyn er bod Cymru o dan y cyfyngiadau lefel 3 a amlinellwyd yng...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Fel y mae'n sefyll, ni allwn gefnogi'r Bil cwricwlwm. Os bydd y Bil yn parhau i ddileu hawliau rhieni fel prif addysgwyr, ni allaf, â chydwybod clir, bleidleisio i gefnogi ei gyflwyno, ni waeth beth fo'r gwelliannau eraill a ddaw yn ei sgil i addysg yng Nghymru. Mae gorfodi addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ddirmygus ac mae wedi'i wrthod gan...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Os yw'n cael ei gyflwyno, os yw'n cael ei gyflwyno'n genedlaethol, maen nhw wedi gweld—

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Caroline Jones: Mae hynny wedi'i gofnodi. Mae athrawon wedi dweud yn gyfrinachol wrthyf i nad ydyn nhw wedi cael hyfforddiant yn y pwnc hwn, a byddai'n well gan rai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn addysgu'r pwnc, gan nad ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i'w addysgu. Ac rwy'n credu'n angerddol y dylid caniatáu i blant fod yn blant ac nad oes angen datblygiadol i addysgu rhywioldeb a chydberthynas...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.