Caroline Jones: Diolch am y diweddariad, Gweinidog, ac rwy'n meddwl am bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae'r ffaith bod yr adolygiad annibynnol wedi canfod y byddai dwy ran o dair o'r menywod yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael canlyniadau gwahanol iawn pe baent dim ond wedi cael gofal gwell yn wrthun, ac mae'n rhaid bod y canfyddiad hwn yn rhoi mwy o straen ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, a gobeithiaf fod...
Caroline Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r confensiwn ar amrywiaeth fiolegol? OQ56228
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, rwy'n ymwybodol iawn fod dirywiad syfrdanol wedi bod yng nghadernid yr ecosystem yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ond mae hon yn broblem gynyddol ledled y byd, ac mae angen gosod targedau cyfreithiol rwymol. Bydd y gynhadledd ar y...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rydym yn cefnogi'r cynnig wrth gwrs. Marwolaeth yw un o'r unig bethau sy'n anochel mewn bywyd. Mae galluogi pob un ohonom i farw'n dda yn nodwedd o gymdeithas dosturiol. Yn anffodus, nid ydym bob amser wedi darparu'r gofal diwedd oes gorau, ac mae hyn wedi'i waethygu gan ddyfodiad feirws SARS-CoV-2. Y llynedd, gwelsom...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe hoffwn i, unwaith eto, ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y dasg enfawr hon yn bosibl a phawb a fydd yn gwneud y gwaith aruthrol o'n brechu ni i gyd yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n falch o ddweud, ddydd Iau diwethaf, ym Margam, fod 100 y cant wedi cadw eu hapwyntiadau, sy'n ganlyniad rhagorol. Ymhen ychydig wythnosau, fe fyddwn ni wedi rhoi...
Caroline Jones: Er ein bod yn cytuno â'r teimlad sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, ni allwn ei gefnogi. Mae angen inni roi diwedd ar newyn plant, ond ni wnawn hynny drwy ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn, sef pen draw rhesymegol y cynnig sydd ger ein bron. Mae ein hadnoddau'n gyfyngedig a rhaid eu targedu at y rhai mwyaf anghenus. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru. Rwy'n...
Caroline Jones: 8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosteg canser yn sgil pandemig y coronafeirws? OQ56376
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r gostyngiad dramatig yn nifer y bobl â symptomau canser sy'n ceisio triniaeth wedi bod yn ganlyniad trasig y mesurau i reoli lledaeniad COVID. Mae'r astudiaeth a gynhaliwyd gan Cancer Research UK wedi darganfod nad oedd bron hanner y bobl â symptomau canser posibl wedi cysylltu â'u meddyg teulu yn ystod ton gyntaf y pandemig. Ar wahân i atgyfnerthu'r...
Caroline Jones: Byddaf i'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Efallai mai'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol yw'r her fwyaf yr ydym ni yn ei hwynebu, ond y cenedlaethau iau a chenedlaethau'r dyfodol fydd yn gorfod ymdrin ag effaith a chostau ein diffyg gweithredu ni hyd yma. Ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, nid mater amgylcheddol yn unig yw'r effaith yr ydym ni wedi ei chael ar ein hinsawdd ac ar...
Caroline Jones: Y rhan hon o'r Bil sydd wedi rhoi'r pryder mwyaf i mi. Pe na byddai'r Bil wedi dileu hawliau rhieni i gael tynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu y byddai wedi cael llai o wrthwynebiad. Meddyliais yn ofalus ac yn hir am gyflwyno gwelliannau i alluogi rhieni i dynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond dywedwyd wrthyf y byddai...
Caroline Jones: Fel addysg Gydberthynas a Rhywioldeb, cynhyrchodd addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg lawer iawn o ohebiaeth gan rieni pryderus, yn enwedig gan y rhai y mae eu plant yn mynychu ysgolion ffydd. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu dymuniadau rhieni a oedd eisiau gallu tynnu eu plant allan o wersi a oedd yn mynd yn groes i'w crefydd, eu gwerthoedd a'u moeseg. Ac nid gwaith y...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau bach yng Ngorllewin De Cymru i adfer yn sgil pandemig y coronafeirws?
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. O oedran ifanc, dysgais wers werthfawr—nad yw mwy bob amser yn well. Efallai fy mod yn 12 oed pan gafodd fy ysgol gymunedol fach ei huno ag un lawer mwy o faint. Collasom y berthynas bersonol gyda'n hathrawon, a dod yn wyneb arall yn y môr o wynebau. Diolch byth, yn ôl bryd hynny, roedd uno o'r fath yn ddigwyddiad...
Caroline Jones: Prif Weinidog, beth bynnag fo'ch cynlluniau ar gyfer helpu busnesau Cymru, a wnewch chi sicrhau eu bod nhw'n deg ac yn gyfiawn? Rwyf i wedi codi trafferthion arcedau'r stryd fawr o'r blaen, y mae eich Llywodraeth yn gwrthod eu helpu. Mae'r busnesau hyn wedi dioddef yr un colledion â busnesau hamdden eraill, ac eto rydych chi'n gwrthod unrhyw hawl iddyn nhw gael cymorth busnes. Mae...
Caroline Jones: Er bod rhai agweddau ar gyllideb Llywodraeth Cymru sydd i'w croesawu, megis yr arian ychwanegol ar gyfer y GIG, yn gyffredinol mae llawer yn y cynllun gwariant hwn i fod yn anfodlon yn ei gylch. Un o'm prif bryderon yw diffyg cymorth busnes. Nid argyfwng iechyd yn unig fu'r pandemig coronafeirws; mae wedi bod yn drychineb economaidd. Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf mewn anweithgarwch...
Caroline Jones: Weinidog, er ei bod yn hanfodol ein bod yn datgarboneiddio ein seilwaith ynni a thrafnidiaeth cyn gynted â phosibl, mae hefyd yr un mor bwysig nad ydym yn creu problemau eraill yn ein hymdrech i leihau allyriadau carbon. Er bod biomas yn garbon niwtral, gall hefyd greu problemau gydag ansawdd aer oherwydd bod mwy o ronynnau'n cael eu rhyddhau. Bydd symud i drafnidiaeth drydan yn mynd i'r...
Caroline Jones: Weinidog, er bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged tai fforddiadwy ar gyfer tymor y Senedd hon, a ydych yn derbyn bod y targed hwn yn druenus o annigonol? Rwy’n eich llongyfarch am wneud mwy na Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond rwy’n siomedig eich bod wedi methu mynd i’r afael â’r gwir angen sy’n bodoli am dai cymdeithasol. Cafodd y cartrefi newydd a...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn y Nadolig ac am bum wythnos ar ôl hynny, roedd fy ngŵr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws a gwelodd drosto'i hun y straen ar holl staff y GIG. Mae arnom ddyled enfawr iddynt. Rydym wedi trafod droeon yr angen i recriwtio a hyfforddi meddygon a nyrsys o'r boblogaeth leol, ac yma yng Nghymru, mae hyn yn...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Gofynnaf i'r cyhoedd wrando ar fy nghyfraniad yn ei gyfanrwydd, gan fod David Rees wedi ceisio camddehongli fy nghyfraniad yn fwriadol er ei fudd gwleidyddol ei hun.
Caroline Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y cŵn a gaiff eu dwyn yng Nghymru? OQ56467