Mark Isherwood: Fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, a wnewch chi gydnabod bod yr un astudiaethau wedi dweud y byddai gogledd Cymru ar ei hennill?
Mark Isherwood: Wel, clywsom fod 40 o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen anogaeth genedlaethol nurtureuk i ysgolion, i adeiladu dull anogaeth ysgol gyfan, ond hefyd, yn ôl ymchwil nurtureuk, yn 2015, roedd 144 o ysgolion yng Nghymru yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth anogaeth, cynnydd o 101 yn 2007. O ran gwaith ysgolion yng ngogledd Cymru, clywsom gyfeiriad gan Jack at Ysgol Tŷ Ffynnon yn...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu gwasanaethau gofal iechyd integredig?
Mark Isherwood: A gaf i alw am dri datganiad byr, os caf i? Mae'r cyntaf yn ymwneud â gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth. Ar 23 Medi, wythnos yn ôl i ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig gyda'r teitl hwnnw, sy'n teilyngu datganiad llafar neu hyd yn oed dadl yn amser Llywodraeth Cymru. Mae'n nodi, er enghraifft: Mae rhai yn ystyried mai'r ateb yw cyflwyno deddfwriaeth awtistiaeth,...
Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio, rwy'n credu, yn agos i'r dechrau, at risgiau dirwasgiad. Wrth gwrs, yn yr Almaen, sy'n pweru economi'r UE, mae 10 i 15 y cant o'i chynnyrch domestig gros yn dibynnu ar y gallu i fynd i farchnadoedd yn y DU, gan gynnwys Cymru, ac rydym ni'n deall o sylw yn y wasg yn ystod yr haf y gallen nhw fod ar drothwy dirwasgiad eu hunain. Felly mae'n...
Mark Isherwood: Os caf i gloi gyda'r cwestiwn hwn. Yn gynharach yn y mis, dywedodd cyfarwyddwr masnach de Môr Iwerddon Stena Line, awdurdod y porthladd yng Nghaergybi, fod y DU bellach wedi'i pharatoi'n well o lawer ar gyfer Brexit nag yr oedd ym mis Mawrth, y dyddiad gwreiddiol ar gyfer Brexit, ac mae'n dweud nad yw rhai o'r ofnau gwaethaf a allai fod wedi cael eu gwireddu yn mynd i ddigwydd. Dywedodd...
Mark Isherwood: Iawn. Sut y byddwch chi'n sicrhau neu a ydych chi'n sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y gogledd yn ymwybodol o'i ddatganiad y bydd tarfu am ddiwrnod neu ddau oherwydd ansicrwydd, ond mai dim ond am gyfnod byr iawn y bydd hynny?
Mark Isherwood: 12. Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE? OAQ54409
Mark Isherwood: Wrth gwrs, mae'r angen i Lywodraeth y DU geisio cytundeb amgen yn deillio o'r ffaith bod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y cytundeb blaenorol dair gwaith yn Nhŷ’r Cyffredin. Sut yr ymatebwch i'r datganiadau a wnaed yn gynharach y mis hwn gan gyfarwyddwr masnach de môr Iwerddon ar ran Stena Line, awdurdod porthladd Caergybi, sef Mr Davies, a ddywedodd, pan ofynnwyd iddo a fydd tarfu,...
Mark Isherwood: 'Sut yr ymatebwch i'r datganiad gan—?'
Mark Isherwood: Mae gogledd Cymru wedi'i bendithio â rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol. Mae'r arwyr a anghofir yn rhy aml mewn grwpiau lleol sy'n ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar yr adfywio economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil y seilwaith hwn yn haeddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth. Maent yn brwydro bob dydd gyda'r heriau ymarferol ac ariannol o sicrhau y gall...
Mark Isherwood: Pan nododd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod gan Gymru'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar wedi codi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, maen nhw wedi gostwng gan 16 y cant yn Lloegr, dywedasant fod angen ymchwil i geisio egluro cyfradd carcharu uchel Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen...
Mark Isherwood: Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae Ynys Môn yn un o bum awdurdod lleol lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw gwirfoddol, a lefelau ffyniant y pen ar Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner lefelau ffyniant y pen yng Nghaerdydd. Eto i...
Mark Isherwood: Yn ystod toriad y Cynulliad dros yr haf, cyhoeddodd Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth adroddiad, 'Leadership development and talent management in local authorities in Wales', a luniwyd ar ran Academi Wales, sefydliad datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth cyhoeddus, sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru. Nodai'r adroddiad fod rhai awdurdodau o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru...
Mark Isherwood: A gaf fi ddweud, nid wyf yn canolbwyntio ar geisio nodi sut beth yw arweinyddiaeth dda, ond yn hytrach ar sut y datblygwn arweinyddiaeth dda. Ac yn fy nghefndir proffesiynol, byddem yn bradychu pobl, o'r swyddi isaf i'r swyddi uchaf, pe na bai gennym system rheoli perfformiad ar waith a oedd yn gwbl ryngweithiol, ac a oedd yn parchu pobl ac yn cytuno ar ffyrdd ymlaen, fel y gallent...
Mark Isherwood: Wel, mae systemau arfarnu i fod i ddarparu cipolwg fel rhan o system rheoli perfformiad. Ni ddylai system arfarnu ddatgelu canlyniadau annisgwyl. Ni ddylai unrhyw gyflogai ar unrhyw lefel gael ei feirniadu na'i ganmol am rywbeth nad oeddent eisoes yn ymwneud ag ef. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn datblygu hynny'n rhan o'r gwaith rheoli perfformiad, yn hytrach na systemau arfarnu'n unig....
Mark Isherwood: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb rhannol. Yr hyn sy'n anhygoel yw nifer y bobl yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n edrych i'r Undeb Ewropeaidd ymyrryd ac yn disgwyl iddo wneud hynny fel pe byddai'n gefnogwr o hunan-benderfyniad democrataidd cenedlaethol, pan mewn gwirionedd na fydd yn croesawu pleidlais ar annibyniaeth genedlaethol yng Nghatalonia ddim mwy nag y gwnaeth groesawu ein...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ynghylch y rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru 2014-20, sydd, fel y gwyddoch, yn annog rhanbarthau i gydweithio i fynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin. Yng Nghymru, y ddau ranbarth INTERREG yw gogledd Cymru, gyda phoblogaeth o ychydig dros 696,000, a gorllewin Cymru, gyda 630,000—felly, nid poblogaethau annhebyg....
Mark Isherwood: Fel y gwyddoch, mae'r Gorchymyn ardrethu annomestig yn nodi'r telerau rydych newydd eu disgrifio—ar gael i'w osod am 140 diwrnod, wedi'i osod am 70 diwrnod—er mwyn bod yn fusnes hunanddarpar. Ac fe gyfeirioch chi at y rôl y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei chwarae fel ceidwad y porth a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ganddynt, a'u bod wedi ymchwilio i ychydig o achosion a gyfeiriwyd...
Mark Isherwood: Daeth £5 miliwn, rwy'n credu, o'r buddsoddiad o £22 miliwn yn Tomlinsons yn 2017 gan Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n codi cwestiynau ynglŷn â lefel y warchodaeth gytundebol i'r bunt gyhoeddus. Ond fel y clywsom, dyma'r ail safle prosesu llaeth yng Nghymru i gau, sy'n golygu y bydd mwy na hanner y cynnyrch llaeth bellach yn gorfod cael ei gludo i rywle arall. Cafodd y bwrdd...