Huw Irranca-Davies: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch a fydd yn gofyn i'r cyd-gyngor dros frechiadau ychwanegu gweithwyr angladd rheng flaen, technegwyr corffdai a phereneinwyr at y rhestr o staff gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru y mae imiwneiddio galwedigaethol â'r brechiad COVID-19 yn cael ei argymell iddyn nhw? Rwy'n deall bod Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud hynny o fewn...
Huw Irranca-Davies: 5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau rhwng y cyflenwad o frechlynnau a'r capasiti i ddefnyddio'r brechiadau hynny yng Nghymru? OQ56124
Huw Irranca-Davies: Diolch, Weinidog, ac mae’n braf clywed y sicrwydd hwnnw, gan ein bod, wrth gwrs, wedi clywed gwahanol straeon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf am heriau gyda'r cynhyrchiant a'r gadwyn gyflenwi, a dylem ragweld y bydd camgymeriadau bach wrth inni fynd yn ein blaenau; nid yw pethau'n mynd i fod yn berffaith. Yn gyntaf, clywsom am heriau gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, gan y bu oedi dros...
Huw Irranca-Davies: 4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau ar gyfer adolygiad ar ôl Brexit o hawliau gweithwyr y DU? OQ56170
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch am eich ateb. Codais hyn, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau, ond yn ystod yr wythnos ddiwethaf, er gwaethaf y gwadu cychwynnol, rydym ni bellach wedi gweld Ysgrifennydd busnes y DU yn cadarnhau cynigion ar gyfer coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr y gweithiwyd yn galed i'w hennill, er gwaethaf addewidion mynych gan Brif Weinidog y DU...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses WelTAG sy'n archwilio amlder cynyddol ar lwybr rheilffordd Maesteg-Pen-y-bont ar Ogwr? OQ56169
Huw Irranca-Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch effaith ehangu llwybrau llongau uniongyrchol o Iwerddon i'r UE ar economi Cymru? OQ56168
Huw Irranca-Davies: Weinidog, a gaf fi groesawu eich ymateb? Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i chi, eich swyddogion, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymwneud ar y mater hanfodol hwn, sef cynyddu amlder y gwasanaeth ar reilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-baid drosto, fel y gwyddoch—er rhwystredigaeth i...
Huw Irranca-Davies: Mewn gwirionedd, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol rhwng y Gweinidog â chymheiriaid yn y DU, ond wyddoch chi, mae'n rhaid i mi siarad yn ddi-flewyn ar dafod yma. Weinidog, roedd y bobl a oedd yn dweud y byddai gennym fasnach ddirwystr ar ôl ymadael â'r UE a fyddai'n caniatáu i'r llwybrau tir hyn ledled y DU barhau naill ai'n rhy wirion i sylweddoli'r hyn roeddent yn ei ddweud wrth y...
Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser dilyn Nick a Dai, a gwaith y grŵp trawsbleidiol eleni, sydd wedi gweithio gyda chymorth y Gymdeithas Strôc, a ddarparodd y gefnogaeth i'r ysgrifenyddiaeth, i fynd allan a gwrando ar bobl sydd eu hunain wedi cael strôc yn ystod y pandemig, ond hefyd eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a'u hanwyliaid hefyd. Mae wedi bod yn anodd, ac mae'r ystadegau'n dangos pa mor anodd y...
Huw Irranca-Davies: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru? OQ56244
Huw Irranca-Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae Cymru yn gartref, ac wedi bod ers cryn amser, i bobl o bob rhan o'r UE; maen nhw wedi sefydlu eu teuluoedd yma, wedi magu eu teuluoedd, maen nhw wedi gwreiddio eu hunain yn ein diwylliant yng Nghymru, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi ei gyfoethogi gyda'u diwylliant hwythau hefyd. Mae llawer ohonyn nhw wedi gweithio drwy gydol y...
Huw Irranca-Davies: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch defnyddio llety brys i bobl ddigartref yn ystod y pandemig? OQ56229
Huw Irranca-Davies: Weinidog, diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, a diolch i chi hefyd am ymgysylltu â mi ynghylch ymholiadau gan fy awdurdodau lleol, y mae rhai ohonynt yn draddodiadol wedi defnyddio'r hyn rydym yn ei adnabod fel darpariaeth lloches nos mewn argyfwng, a oedd, ar un adeg, yn ffordd briodol ymlaen. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn ymdrin â phandemig, heb sôn am ddull sy'n ei gwneud yn...
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, ym mis Tachwedd, dathlwyd 20 mlynedd o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae'n rhaglen sy'n caniatáu i undebau llafur gefnogi gweithwyr yn ôl i ddysgu, ac, ers mis Ebrill yn unig, yn 2020, mae'r gronfa wedi cefnogi mwy na 5,000 o weithwyr gyda dysgu, cyngor, arweiniad, ar sgiliau hanfodol a chynnydd gyrfaol. Felly, gyda'r newyddion pryderus bod y Ceidwadwyr yn torri cyllid Cronfa...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, a gaf i ganmol Dr Sarah Medlicott o feddygfa Bron-y-Garn a meddygon teulu eraill a gysylltodd â mi dros wythnos yn ôl yn mynegi eu dymuniad i ddechrau brechu grŵp cymharol fach o feddygon heddlu rheng flaen, sydd mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â'r feirws mewn maes gwaith arbenigol iawn? Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, daethom wyneb yn wyneb â phroblem rwystredig ar...
Huw Irranca-Davies: Gan adeiladu ar sylwadau fy nghydweithwyr Dawn Bowden a Mick Antoniw, mae'n bendant yn wir, Gweinidog, fod y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn batrwm i'r DU o sut y gall busnesau ac undebau, gweithwyr a Llywodraeth, gydweithio'n adeiladol â'i gilydd ynglŷn â swyddi, a'r economi, a'r agenda sgiliau, a llawer mwy na hynny. Nawr, nid wyf i'n dymuno bod yn rhy feiddgar, ond a gaf i ofyn...
Huw Irranca-Davies: 11. Pa ddarpariaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar waith i alluogi disgyblion i ddal i fyny ar addysg y mae mesurau'r pandemig wedi effeithio arnynt? OQ56251
Huw Irranca-Davies: Weinidog, tybed a gaf fi ofyn i chi roi sylw arbennig i effaith colli cronfa gymdeithasol Ewrop a chronfeydd strwythurol ar ein rhaglenni gwaith a sgiliau yng Nghymru. Rwy'n clywed sibrydion braidd yn ddigalon—wel, maent yn fwy na sibrydion—fod bwriad yn awr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganoli eu rhaglenni gwaith. Nawr, rydym wedi cael rhaglenni gwaith rhagorol yma yng Nghymru, yn...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, rwy'n falch o glywed hynny, a gwn y byddwch yn ymuno â mi i ganmol yr athrawon, y penaethiaid, yr holl bobl sydd wedi gwneud ymdrechion enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf i barhau i addysgu ar ryw ffurf neu'i gilydd, ac i ddarparu cymorth lles a chymorth bugeiliol hefyd drwy ein system addysg. Ond rwy'n gwybod fy mod yn cael athrawon yn fy ardal fy hun yn dweud wrthyf yn awr, er eu...