Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. I lawer o bobl, nid anifail anwes yn unig yw eu ci, maen nhw'n aelod o'r teulu, ac mae cael yr aelod hwnnw o'r teulu wedi ei rwygo yn ddisymwth oddi wrthych chi fel y gall rhywun wneud elw y tu hwnt i'm dychymyg i, ac rwy'n siŵr bod pob person sydd â gronyn o dosturi yn teimlo felly. Ni allaf ddychmygu y gofid calon y mae'r bobl hynny yn ei ddioddef. Felly, er fy mod...
Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r gwelliannau i'n targedau allyriadau. Gan ein bod ni'n wynebu un o'r bygythiadau mwyaf i'r blaned, ein cenedl a'n ffordd o fyw, nid oedd yr ymateb blaenorol yn ddigon i fynd i'r afael â'r bygythiad yn uniongyrchol. Diolch byth, mae'r ddadl wedi symud ymlaen o weld a yw gweithgarwch dynol wedi niweidio'r hinsawdd yn anadferadwy i'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w wneud yn ei gylch....
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Efallai fod y pandemig coronafeirws wedi dechrau fel argyfwng iechyd corfforol, ond mae wedi dod yn argyfwng iechyd meddwl. Mae canlyniadau ymdrin â feirws SARS-CoV-2 wedi effeithio'n ddwfn ar iechyd meddwl pobl o bob oed ac o bob cefndir ym mhob cwr o Gymru. Ac nid ydym yn unigryw: mae astudiaethau wedi dangos yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl ar...
Caroline Jones: Yma yng Nghymru, rydym wedi cael rhai o'r cyfnodau hwyaf yn y byd o gyfyngiadau ar ein gweithgaredd cymdeithasol, felly nid yw'n syndod ein bod wedi profi rhai o'r effeithiau mwyaf. At ei gilydd, rydym yn anifeiliaid cymdeithasol, ac mae treulio amser gyda ffrindiau a theulu yn rhan hanfodol o'n llesiant emosiynol a meddyliol. Mae gorfod torri'r holl gyswllt wyneb yn wyneb am 212 diwrnod wedi...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae Aberafan yn dal i fod ag un o'r cyfraddau cyflogaeth isaf yng Nghymru, gyda chwarter y trigolion yn economaidd anweithgar. A ydych chi'n derbyn bod eich polisïau economaidd wedi siomi pobl Aberafan a rhanbarth cyfan Gorllewin De Cymru? Felly, yr hyn sydd ei angen ar bobl yn fy rhanbarth i yw mwy o gymorth i fusnesau domestig, yn enwedig y rhai hynny sy'n mynd ar drywydd...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro amrywiolion newydd o feirws SARS-CoV-2?
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i anghenion iechyd meddwl pobl ifanc?
Caroline Jones: Mae fy ngrŵp yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn gryf gan ein bod yn teimlo eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Effaith y cynigion hyn fydd amddifadu Aelodau annibynnol o'r cyfle i gydweithio ar faterion cyffredin, amddifadu Aelodau annibynnol o'r gallu i fwydo i mewn i waith y sefydliad hwn, ac amddifadu Aelodau annibynnol o'r un cyfleoedd ag sydd gan y rhai mewn pleidiau gwleidyddol sefydledig,...
Caroline Jones: Hoffwn fynegi cydymdeimlad fy ngrŵp â'i Mawrhydi a'r teulu brenhinol i gyd. Roedd Dug Caeredin yn ŵr ffyddlon, yn dad a thaid cariadus, a bydd y golled yn dilyn ei farwolaeth drist yn cael ei theimlo'n ddwfn gan bawb a oedd yn ei garu, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda chi ar yr adeg drist hon. Mae marwolaeth Dug Caeredin yn golled i’w deulu ac i’w ffrindiau, fel y mae i bawb...