Huw Irranca-Davies: Fy ymddiheuriadau, nid wyf yn bwriadu ymyrryd gormod. Ond a fyddai’n cytuno hefyd mai un o’r cyfleoedd cyffrous sy’n deillio o hyn, gyda’r twf cynt gynt mewn data mawr, yw’r hyn y gallem ei wneud mewn gwirionedd ar yr agwedd amgylcheddol, gan y gellid cael gwared ar y rowndiau diddiwedd o arolygu, archwilio, adolygu a monitro, monitro ar ei ffurf draddodiadol, i ryw raddau, yn sgil...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Gadeirydd. A gaf fi ddweud bod hon wedi bod yn drafodaeth dda dros ben? Rydym wedi cael saith cyfraniad, gan fy nghynnwys i fy hun, ac Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs, a chefais fy nharo gan lefel y consensws ynglŷn â’r potensial sydd i’r dechnoleg hon yng Nghymru, ac, fel y dywed Lee Waters, a gyflwynodd y ddadl, i ddefnyddio’r hyn a alwodd rwy’n credu yn ‘ffwrnais...
Huw Irranca-Davies: Yn bendant iawn yn wir. Pwynt da, ac mae eraill wedi nodi hynny hefyd. Mae’n rhaid cael cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant—diwydiant mawr, diwydiant bach—y byd academaidd, unedau ymchwil, ond hefyd yr ymarferwyr partner pen blaen hynny, y ffermwyr eu hunain yn y cae, a byddaf yn dychwelyd atynt mewn munud. Siaradodd Jenny Rathbone fy nghyd-Aelod—ac roeddwn yn meddwl ei...
Huw Irranca-Davies: Roeddwn i eisiau troi, ac nid wyf yn siŵr, Fadam Ddirprwy Lywydd, faint o funudau sydd gennym—
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Os felly, fe geisiaf ei wneud yn gyflym. Cefais ymweliad hyfryd—tua dwy flynedd yn ôl, rwy’n credu, dair blynedd yn ôl efalllai—â Phrifysgol Harper Adams, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffermio Manwl. Gwnaed gwaith aruthrol yno yn eu canolfan arloesi peirianneg amaethyddol, a gallwch weld y defnydd a wneir o hyn, y data mawr, rhyngrwyd o bethau. [Torri ar...
Huw Irranca-Davies: Croesawaf safbwynt cadarn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y Goruchaf Lys. Teimlaf yn gryf fod hynny’n iawn ac yn briodol. A fuasai’n cydnabod bod y meysydd cymhwysedd y cyfeiriodd atynt, wrth gwrs, yn cynnwys amaethyddiaeth a datblygu gwledig, sy’n faes cymhwysedd amlwg iawn yng Nghymru? Er ei bod yn iawn y dylai’r hyn a ddaw o’r...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Adam am ildio. A fuasai’n nodi nad arloesedd unigryw mewn busnesau newydd yn unig yw hyn, ond cwmnïau stryd fawr sefydledig, mewn gwirionedd, sy’n gallu edrych fel ffenestri blaen siopau stryd fawr traddodiadol iawn hefyd? Ymhlith y rhain mae siop esgidiau yn fy etholaeth i, yn nyffryn Garw, ym Mhontycymer, sy’n edrych fel siop draddodiadol iawn, os nad braidd yn hen ffasiwn...
Huw Irranca-Davies: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ne Cymru? OAQ(5)0311(FM)
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r newyddion hynny, ac mae'n hynod gadarnhaol. Mae'n hanfodol bwysig i’m hetholwyr i gan fod yr amser ymateb i’r problemau hynny sy’n bygwth bywyd yn gwneud gwahaniaeth mawr, yn amlwg, i'w bywydau, ond hefyd i'w teuluoedd, o wybod bod y sicrwydd ganddyn nhw y bydd ambiwlans, ar alwad goch, yno mewn da bryd. Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod gennym ni’r broblem barhaus...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Heddiw, yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion yr athrawon a'r llywodraethwyr, a’r bobl ifanc yn fy ysgol leol; cyflawnodd rai ohonynt y canlyniadau TGAU gorau erioed yn gynharach eleni. Ac rwy’n dweud hynny oherwydd bod PISA yn bwysig, ond mae cymryd arnom mai dyma'r unig ddangosydd o lwyddiant yn gwbl anghywir. Nawr, rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am...
Huw Irranca-Davies: Cyn trafod mân fanylion y gyllideb hon, neu, yn wir, unrhyw gyllideb, mae'n bwysig edrych ar y cyd-destun. Cyd-destun y gyllideb hon yw’r blynyddoedd—y blynyddoedd diddiwedd, mae'n ymddangos—o doriadau a thoriadau, a thoriadau eto, gan Lywodraeth San Steffan i Gymru, ac mae’n cael ei sbarduno gan ddau ormodedd afresymol sef dileu diffyg—nid lleihau, ond dileu; dyna fu polisi...
Huw Irranca-Davies: Yn wir, un o’r byrddau iechyd hynny sydd â brwdfrydedd mawr mewn perthynas â hyn yw Cwm Taf. Yn wir, mae cwestiwn David wedi fy atgoffa am fy ymweliad yr wythnos diwethaf â fferyllfa Sheppards yn Llanhari lle y gwnaed argraff fawr arnaf gan y modd y mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn cofleidio’r cyfleoedd newydd hyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymdrin â mân anhwylderau ac...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Nick am ildio. Yn sicr, mae cael pobl mewn gwaith yn beth da. Mae’n rhaid i ni gytuno ar hynny. Ond tybed beth y mae’n ei wneud o ragolwg diwygiedig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awr ar gyflogau, twf a buddsoddiad? Oherwydd yr hyn y maent yn ei ddangos yn glir yw bod nifer enfawr, nid is-ddosbarth bach o bobl, ond nifer fawr o’r bobl rydym yn eu cynrychioli yn mynd i fod...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am ildio yno, yn wir, a hoffwn ddweud yn syml, yn ôl yn 2007-08 pan oeddwn yn Aelod Seneddol, rwy’n cofio sefyll gyda changhellor yr wrthblaid ar y pryd i gefnogi’r Llywodraeth Lafur am y ffordd roedd yn rheoleiddio. Roedd y ddwy ochr yn anghywir ar reoleiddio llai dwys. Roedd y ddwy ochr yn anghywir. Ond rhaid i mi dynnu sylw’r gŵr bonheddig at y ffaith fod...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. Mae’n iawn fod angen i ni, yn y pen draw, os nad sicrhau cydbwysedd yn gyfan gwbl, o leiaf symud tuag at strwythur mwy cytbwys o fewn y trefniadau ariannol. Ond a yw’n rhannu fy mhryder yn y cyfnod hwn o dynhau gwregysau, y bydd y twf mewn anghydraddoldeb cyfoeth rhwng y rhai ar y brig sydd i’w gweld wedi gwneud yn eithriadol o dda—a bydd y...
Huw Irranca-Davies: Cafwyd ychydig o feirniadaeth heddiw ynglŷn â rhai ar yr ochr hon i’r Siambr sydd wedi bod ychydig yn besimistaidd wrth siarad—y gwydr hanner llawn ac yn y blaen. Wel, rwy’n mynd i siarad y prynhawn yma dros y bobl y mae’r gwydr, yn wir, yn hanner gwag. Pan fydd gwleidyddion fel ni yn meddwl tybed pam y mae pobl yn gwrthdaro yn erbyn y sefydliad, rwy’n meddwl, weithiau, fod yr...
Huw Irranca-Davies: Na, dyna bwynt lle rydym yn anghytuno. Gallwn ymdrin â chamfanteisio ar weithwyr drwy ymdrin â chamfanteisio ar yr holl weithwyr. Gallwn ymdrin mewn ffordd briodol, mewn ffordd resymol, â mudo dan reolaeth ac wedi’i reoli’n dda. Ond gadewch i ni beidio â rhoi’r bai am yr holl ddrygau a amlygodd Mark Carney a sylwebwyr gwybodus eraill ar fewnfudwyr. Os gwelwch yn dda. Cawsom...
Huw Irranca-Davies: Na, oherwydd mae fy amser yn brin, Lywydd. A gaf fi ddweud—mae fy amser yn mynd i ddod i ben fan hyn—ein bod yn gwybod nad oes disgwyl i enillion cyffredinol gwirioneddol godi mwy na £23 yr wythnos rhwng 2015 a 2020? Mae hyn yn golygu y bydd y cyflog blynyddol cyfartalog £1,000 yn is yn 2020 nag a ragwelwyd wyth mis yn ôl yn unig. I’r bobl hynny, mae’r gwydr yn hanner gwag neu hyd...
Huw Irranca-Davies: Mae’n ymyriad byr iawn. A fyddai’n ymuno â mi i ganmol siopau coffi fel yr un—ni wnaf ei henwi, ond mae’n odli gyda hosta—a anfonodd lythyr at fy mab 17 oed yn dweud bod y cyflog i bobl sy’n faristas—ac mae ef yn un; nid bargyfreithiwr, ond barista—yn codi? Roeddent yn dweud, ‘Dyma fyddwn yn ei dalu i rai 25 oed, ond rydych chi’n farista hefyd; gallwch wneud y gwaith,...
Huw Irranca-Davies: 6. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cysylltiad/cangen rheilffordd Heathrow? OAQ(5)0332(FM)