Ann Jones: Symudwn at eitem 3 ar yr agenda, sef cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol. Cwestiwn 1, Simon Thomas.
Ann Jones: Diolch. Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol.
Ann Jones: Symudwn ymlaen at eitem 4 ar y rhaglen, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar effaith refferendwm UE ar Tata Steel, a galwaf ar Caroline Jones i gynnig y cynnig.
Ann Jones: Nid oes rhaid i chi gael sgwrs ar draws y Siambr. Parhewch â’ch araith os gwelwch yn dda.
Ann Jones: Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Ann Jones: Diolch, nid ydym eisiau—. Rwyf wedi dweud unwaith o’r blaen nad ydym am gael sgyrsiau ar draws y Siambr. Pe baech chi eisiau ymyrryd dylech fod wedi sefyll ar eich traed ac ymyrryd ar yr Aelod, ond rydym wedi colli’r un honno. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Ann Jones: Mae’n rhaid i chi ddirwyn i ben yn awr.
Ann Jones: Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Gallwch sefyll i wneud hynny; mae’n neis iawn. [Chwerthin.]
Ann Jones: Cynnig yn ffurfiol, diolch. David Rees.
Ann Jones: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Ann Jones: Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl. David Rowlands.
Ann Jones: Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Cafwyd gwrthwynebiad, felly fe—[Torri ar draws.] Diolch. Rwy’n gwybod bod pawb yn gynhyrfus ynglŷn â digwyddiad a allai ddigwydd heno ond os na fyddwn yn ymdawelu, byddwn yn dal yma’n pleidleisio cyn dechrau’r digwyddiad hwnnw, felly a gawn ni bleidleisio’n...
Ann Jones: Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, af ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. A oes unrhyw un sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Nac oes.
Ann Jones: Iawn, symudwn ymlaen at y pleidleisio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Caroline Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, yn erbyn y cynnig 43. Nid oedd neb yn ymatal. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Ann Jones: Galwaf yn awr am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, yn erbyn y cynnig—mae’n ddrwg gennyf, y gwelliant, mae’n ddrwg gennyf. Felly, o blaid gwelliant 1 34, yn erbyn gwelliant 1 14, neb yn...
Ann Jones: Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, mae gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.
Ann Jones: Symudwn i bleidlais ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 46, yn erbyn y gwelliant 2. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
Ann Jones: Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, yn erbyn 27, ac roedd 10 yn ymatal. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
Ann Jones: Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 44, yn erbyn y gwelliant 2, gydag un yn ymatal. Felly derbyniwyd y gwelliant.
Ann Jones: Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 34, yn erbyn y gwelliant 5. Roedd 9 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y gwelliant.