Lesley Griffiths: I am working closely with the industry to develop a distinctly Welsh agricultural policy to ensure the long-term prosperity of Wales’s farming communities post exit. A series of workshops with a wide range of stakeholders have been held to consider the risks and opportunities as well as the way forward for Wales.
Lesley Griffiths: We are working to support the farming industry to become more profitable, sustainable, resilient, and professionally managed. Practical support is delivered through schemes such as Farming Connect, the rural development programme and Glastir. The strategic partnership group is currently developing a road map for agriculture to deliver our shared vision.
Lesley Griffiths: I welcome this report and the findings it contains. It provides five recommendations to further improve coastal policy and programme, all of which I have accepted. Work to address these is already ongoing through improvements to our project guidance and establishment of a new flood and coastal erosion committee.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae’r camau i rwystro taflu sbwriel yn canolbwyntio ar raglenni gorfodi ac ar gydweithredu rhwng sefydliadau partner allweddol sy’n gweithio i newid agweddau ac ymddygiad cyhoeddus drwy ymwneud y gymuned a thrwy addysg. Bydd annog pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol a rhoi camau ar waith eu hunain yn arwain at welliannau cryfach a mwy parhaol.
Lesley Griffiths: Nid fy lle i yw egluro i bobl Ynys Môn pam y maent yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos; lle Cyngor Ynys Môn yw esbonio hynny. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod hi’n wythnos ailgylchu, ac os yw pobl yn ailgylchu’n gywir, o gofio bod gennym gasgliadau ailgylchu wythnosol—credaf fod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu yng Nghymru; ni yw’r bedwaredd...
Lesley Griffiths: Yn sicr, nid ydym am weld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ac rwy’n eich canmol am drefnu tasglu sbwriel. Fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y maent yn trefnu eu casgliadau sbwriel ac ailgylchu a mater i’r awdurdodau lleol hefyd yw sut y maent yn gorfodi’r gyfraith mewn perthynas â sbwriel, gan...
Lesley Griffiths: Cyfeiriaf yr Aelod at fy nau ateb blaenorol. Mater i Gyngor Conwy yw penderfynu a yw Cyngor Conwy yn cael casgliadau bob pedair wythnos, bob tair wythnos, neu bob pythefnos. Nid wyf yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Mewn perthynas ag awdurdodau lleol a’r 0.2 y cant, fel rwy’n dweud, mae taflu sbwriel yn drosedd a mater i’r...
Lesley Griffiths: Yn hollol. Rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt pwysig iawn mewn perthynas â’r broblem sydd gennym gyda hyn. Rwy’n hynod o falch o glywed am y dull cydweithredol iawn oedd gennych yn eich cynllun yn Sir Benfro. Rwy’n credu ei bod yn ffordd hawdd o wella ansawdd ein hamgylchedd, fesul tamaid ar y tro. Nid yw dwy funud yn llawer iawn o amser i ofyn i bobl wirfoddoli. Felly, er mai un...
Lesley Griffiths: Diolch. Lansiwyd gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr eleni i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n darparu budd lleol. Mae ein cefnogaeth barhaus ers 2010 wedi helpu cymunedau i gyflawni wyth cynllun sydd wedi eu cwblhau. Mae wyth arall yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda naw arall i’w hadeiladu erbyn diwedd 2017.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae fy swyddogion yn monitro effaith polisi ynni Llywodraeth y DU yn gyson er mwyn sicrhau y bydd y sector yn gallu parhau i gyflawni dros Gymru. Rwy’n credu bod diffyg cynnydd wedi bod oherwydd y newid yn y cymorth a welsom gan Lywodraeth y DU. Rydym yn edrych ar fodelau a all gynnal parhâd datblygiad ynni adnewyddadwy. Felly, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno ers i mi gael y portffolio, ond gwn fod fy swyddogion yn cael y trafodaethau hynny, nid yn unig gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd.
Lesley Griffiths: Gallaf. Roeddwn yn y pwyllgor y bore yma, a bydd Simon wedi fy nghlywed yn dweud hyn, ond roeddwn yn Morrisons yn Wrecsam ddydd Sadwrn, ac fel y gwyddoch, ymwelais â Puffin Produce ym Mhenfro dros yr haf, lle mae ganddynt ddeunydd pacio sy’n hawdd iawn i’w adnabod. Felly, prynais gennin a thatws newydd, yn ogystal â blodfresych—dyna dri. Prynais gig oen Cymru. Rwy’n ceisio cofio’r...
Lesley Griffiths: Halen Môn—ie.
Lesley Griffiths: Mae’r Aelod dros Ynys Môn yn gywir mewn gwirionedd.
Lesley Griffiths: Ie, wel, fel y mae’r Aelod yn gwybod o’r pwyllgor y bore yma, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn awr. Mae llawer iawn o waith a gweithgaredd wedi digwydd dros yr haf gyda’r sector ffermio, yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, mae’r materion sy’n ymwneud â chymhorthdal yn bwysig iawn i’n diwydiant ffermio, ac mae’n...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod wedi dweud ‘y tu hwnt i 2020’. Yn hollol; gwyddom ein bod yn cael yr arian hwnnw tan 2020. Mae gennym y sicrwydd hwnnw, ac yn bendant, dyna’r achos. Mewn perthynas â’ch cwestiwn ynglŷn â gweithwyr mudol, rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae’r sector amaethyddol, a’r sector prosesu bwyd i raddau mwy yn ôl pob...
Lesley Griffiths: Fel y gwyddoch, mae gennym ein cynllun dileu, ac rwyf eisoes wedi dweud ein bod yn edrych yn fanwl ar hwnnw, a byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr hon y mis nesaf.
Lesley Griffiths: Yr hyn nad yw’r Aelod yn ei ddweud hefyd yw ein bod wedi gweld gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr achosion newydd mewn buchesi, ac er nad wyf am weld cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd, o ystyried y ffaith ein bod yn cynnal cymaint o brofion, nid wyf yn credu y gallwn ddisgwyl peidio â gweld cynnydd mewn gwartheg adweithiol. Rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn ystyried pob...
Lesley Griffiths: Rwy’n credu ei fod eisoes yn cael ei drin yn y modd a nodwch, ac wedi cael ei drin felly ers sawl blwyddyn. Mae’r mater a grybwyllwyd gennych ynglŷn â masnach ar ôl i ni adael yr UE, rwy’n credu, yn un perthnasol iawn ac yn un rwyf eisoes wedi ei drafod gyda’r sector a byddaf yn parhau i’w drafod ar lefel weinidogol a gyda fy swyddogion hefyd.
Lesley Griffiths: Yn amlwg, nid oedd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gwrando ar fy atebion i Paul Davies. Nid wyf yn cytuno â chi nad oes gweithredu wedi bod o gwbl. Unwaith eto, rydych yn dyfynnu’r 43 y cant, ond nid ydych yn sôn am y gostyngiad o 16 y cant yn nifer yr achosion newydd mewn buchesi hefyd.