Caroline Jones: Mae’n ddrwg gennyf?
Caroline Jones: Beth bynnag, roeddwn yn mynd i ddweud, fel cyn-berchennog busnes, gallaf eich sicrhau bod parcio ceir—fod cwsmeriaid wedi dweud wrthyf ei fod yn hanfodol iddynt, oherwydd gallent fynd i rywle arall gyda meysydd parcio tu allan i’r dref, a’i fod yn effeithio’n sylweddol, yn enwedig pan fydd gennych wardeiniaid traffig ar eich gwarthaf am fod ddwy funud dros eich amser. Felly, mae’n...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw am gyflwyno’r ddadl fer hon ac am gytuno i roi munud o’i amser i mi. Diolch byth, i fy etholwyr yn Ne Corneli a’r ardaloedd cyfagos, mae cwmni South Wales Wood Recycling wedi tynnu cynlluniau ar gyfer creu safle yn y pentref yn ôl. Mae’r cwmni wedi wynebu pob math o broblemau gyda thanau yn eu cyfleusterau ym Mhen-y-bont a Chasnewydd a...
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion ar draws fy rhanbarth i. Yn ogystal â chyllidebau ysgolion, mae cyngor Abertawe hefyd wedi cynyddu'r swm y mae’n ei godi am gytundebau lefel gwasanaeth, sy'n effeithio ar allu ysgolion i ddarparu pethau fel gwersi cerddoriaeth, gwersi nofio a'r cyflenwad o lyfrau llyfrgell. Mae gan Abertawe...
Caroline Jones: Diolch i chi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf hon i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu'r cynllun cyflawni terfynol ddoe. Pan y gwnaethom drafod y cynllun drafft ym mis Gorffennaf, codais fater mynediad at therapïau seicolegol. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol, yn gwella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt....
Caroline Jones: 13. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd polisïau ynni Llywodraeth Cymru yn arwain at arallgyfeirio o ran y cymysgedd ynni? OAQ(5)0045(ERA)
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nifer y digwyddiadau a welwyd mewn safleoedd tebyg ledled Cymru a phryderon ynglŷn â goblygiadau iechyd y cyfeintiau mawr o ddeunydd gronynnol a gynhyrchir yn y math hwn o gyfleuster, a fydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried cyflwyno moratoriwm ar y math hwn o safle? A wnewch chi hefyd ystyried cyflwyno prosesau monitro llymach ar gyfer deiliaid...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae fy rhanbarth wedi cael ei ddifetha gan ddiwydiannu ynni gwynt o ganlyniad i TAN 8 ac mae’n cael ei dargedu ar gyfer echdynnu nwy anghonfensiynol. Hefyd bydd gennym forlyn llanw cyntaf y byd. Mae arnom angen cymysgedd ynni gwirioneddol amrywiol, ond ni ddylid trin technoleg adnewyddadwy fel gweithfeydd pŵer yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennydd y...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, gan ein galluogi i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif fod un o bob pedwar ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae’n amlwg fod angen i ni roi blaenoriaeth uchel i...
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae gan Gymru boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio sy'n rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fel y gall y rhai hynny ohonom a lofnododd y presgripsiwn brys ar gyfer ymarfer cyffredinol dystio, mae pwysau llwyth gwaith ar feddygon teulu yn tanseilio diogelwch gofal cleifion. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cais Cymdeithas Feddygol Prydain i...
Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fel rhan o gynllun amgylcheddol Comisiwn y Cynulliad, rydym yn annog y defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy. Rydym yn cydnabod datblygiad ceir trydan a’u costau sy’n gostwng ac rydym yn ystyried dichonoldeb pwyntiau gwefru o fewn yr ystad ym Mae Caerdydd. Bydd y galw, yn rhannol, yn cael ei asesu drwy’r arolwg teithio y bwriadwn ei gynnal yn fuan.
Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am wneud y pwynt hwnnw. Yn amlwg, cynhaliwyd arolwg teithio ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac yn yr arolwg teithio, rhoddwyd yr arolygon i 250 o aelodau staff a chawsant eu llenwi. Fodd bynnag, 12 y cant yn unig oedd y galw ar y pryd. Felly, ar yr ochr gadarnhaol, hoffwn ddweud wrth yr Aelod eu bod, yn wir, yn ddull carbon isel o deithio, ac mae ein system amgylcheddol Draig...
Caroline Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd yn ne Cymru? OAQ(5)0225(FM)
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae cynghorau ledled Cymru yn targedu pobl ddigartref ac yn ceisio gwahardd cysgu ar y stryd, ac eto ychydig iawn y mae’r un cynghorau hyn yn ei wneud i sicrhau llety ar gyfer yr unigolion hynny nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cysgu ar y stryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Heddlu De Cymru wedi dechrau ymgyrch i atal ymddygiad...
Caroline Jones: Nid wyf yn broffwyd. Ac atebion fel y prif amcan—
Caroline Jones: Mae'n ddrwg gennyf, gallaf. Yn hytrach na gwrthwynebu digartrefedd a rhoi pobl yn y carchar am grwydradaeth, a allwn ni gael cynllun i helpu pobl ddigartref?
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y ffordd onest, agored a thryloyw yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad hwn gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Bydd y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau mawr yn y dyfodol wrth i'n poblogaeth dyfu a heneiddio, ac mae'n iawn ein bod yn adolygu’r ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hynny yn y degawdau sydd i...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddefnyddio’r 90 eiliad i dynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan Ganolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig yn fy rhanbarth i. Sefydlwyd Canolfan Hunangymorth Sandville ym 1983 ac mae’n elusen sy’n agored i bawb sy’n dioddef o broblemau iechyd, gan gynnig cymorth mewn awyrgylch hamddenol a hapus iawn. Maent yn darparu gwasanaeth sy’n...
Caroline Jones: Rwy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint, a hoffwn i’r cynnig gael ei gynnig yn ffurfiol.
Caroline Jones: Mae’n ddrwg gennyf, ydw, rwy’n dymuno siarad.