Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy nghwestiwn heddiw, hoffwn eich holi sut y byddwch yn asesu rôl yr economi sylfaenol yn y gwaith o leihau tlodi. Er enghraifft, a ydych yn cytuno y gallai swyddi a grëwyd yn y sector sylfaenol fod yn un ffordd o fesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? Yn ogystal â hyn, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Welsh Hills Bakery yn fy etholaeth am eu llwyddiant yn...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae mynd allan i’r awyr agored mor dda i ni, nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol. Mae’n mynd â ni o straen y byd technolegol yr ydym yn byw ynddo ac yn ôl at symlrwydd a natur i roi seibiant mawr ei angen i’n hymennydd. Dyna eiriau un o fy etholwyr, Tracy Purnell o’r Drenewydd, Aberpennar, a gurodd bron i 500 o ymgeiswyr i ddod yn hyrwyddwr yr...
Vikki Howells: Brif Weinidog, ceir sylfaen dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn fwy tebygol o fod eisiau ymarfer yn yr hirdymor yn y lle maen nhw wedi hyfforddi ynddo. Felly, rwy’n croesawu menter bwrdd iechyd Cwm Taf, lle, mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae 60 o fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn wedi cael cyflawni rhan gynnar eu hyfforddiant mewn meddygfeydd...
Vikki Howells: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(5)0109(ERA)
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod bod gan y sector ynni adnewyddadwy botensial aruthrol i hybu’r economi a thrwy rwydweithiau cyflenwi effeithlon, gellir lledaenu unrhyw fanteision ledled Cymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i fwrw ymlaen â’r prosiectau hyn? Rwy’n meddwl yma ynglŷn â chymorth uniongyrchol ar gyfer cynhyrchu cymunedol,...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ar gyfer fy sylwadau cloi, rwyf am ddechrau drwy amlinellu ychydig o resymau pam y mae’r economi sylfaenol mor wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘ungnwd o economeg prif ffrwd’, lle y cafodd twf ac arloesedd eu gwthio i mewn i un polisi ar gyfer pawb, bydd ffocws newydd ar yr...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, o ganlyniad i ailbrisio, mae’r gwerth ardrethol cyfartalog yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng gan 6.1 y cant. Gan fod hwn yn batrwm eithaf cyffredin ar draws yr ardal, pa effaith allai hyn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru tuag at hybu ffyniant economaidd ar draws Cymoedd y De?
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar...
Vikki Howells: Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith...
Vikki Howells: 2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(5)0029(CG)
Vikki Howells: Diolch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod materion fel tipio anghyfreithlon, baw cŵn a sbwriel yn bryder go iawn i lawer o bobl. A fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylai’r cosbau a roddir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn gymesur â’r pwyslais y mae’r cyhoedd yn ei roi ar yr angen i atal ymddygiad o’r fath?
Vikki Howells: Rwyf wrth fy modd yn siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Yn wir, gallaf wneud hynny o safbwynt unigryw, sef yr unig Aelod Cynulliad sy’n aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Gyda’i gilydd, mae gwaith y pwyllgorau hyn yn rhoi trosolwg trawsbynciol o arwyddocâd economi las Cymru i mi. Yn ystod y Cynulliad diwethaf,...
Vikki Howells: Gwnaf.
Vikki Howells: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Ac rwy’n meddwl mai dyna beth sydd angen i’r cynllun morol ei gwmpasu mewn gwirionedd. Ac mae fy ngalwad am ddulliau gwell o gasglu data yn gysylltiedig â hynny hefyd. Credaf fod angen i’r holl bethau hynny weithio gyda’i gilydd. I fynd yn ôl at y gadwyn gyflenwi, felly, mae Tidal Lagoon Power wedi cyfeirio at graidd...
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)
Vikki Howells: Bore dydd Iau diwethaf, rhoddodd arweinyddion rhagorol cynghorau RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorwyr Andrew Morgan a Huw David, dystiolaeth ar fetro de Cymru i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roeddent yn dadlau bod angen i'r metro gysylltu ar draws y Cymoedd gogleddol ac nid cryfhau cysylltiadau i Gaerdydd ac oddi yno’n unig. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ac ymrwymo i...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi sylw i 62 o danau glaswellt ers dydd Gwener, gyda llawer ohonynt yn Rhondda Cynon Taf, a'r awgrym yw fod llawer wedi eu cychwyn yn fwriadol. Her arall i’r gwasanaethau tân hefyd oedd ffyrnigrwydd y tanau, a oedd yn achos perygl i ddiogelwch personél y gwasanaeth, ac i'n cymunedau. Mae ffigurau...
Vikki Howells: 1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf OAQ(5)0144(EI)
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion y bydd canolfan Trafnidiaeth Cymru ynghyd â swyddfeydd rhaglen bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn newyddion ardderchog i fy awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, gallent olygu cannoedd o swyddi o safon ar gyfer y Cymoedd, ac atgyfnerthu’r adfywiad economaidd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn...