Mandy Jones: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53027
Mandy Jones: Diolch am yr ateb hwnnw. Arweinydd y Tŷ, ym mis Mawrth, cynigiodd Llywodraeth Cymru dri dewis ar gyfer uno awdurdodau lleol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny bod angen newid radical. Eto i gyd, mae wedi methu â bwrw ymlaen gyda hyn oherwydd pwysau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Arweinydd y Tŷ, a ydych chi'n credu bod angen newid radical, ac os felly, pryd?
Mandy Jones: Mae llawer ohonoch chi'n gofyn am bleidlais y bobl er eich bod yn gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael. Sut gallwch chi fynd am ail bleidlais—pleidlais y bobl—pan nad yw'r bleidlais gyntaf wedi'i gweithredu eto? Yn ail, pe byddech chi'n cael ail refferendwm—pleidlais y bobl—gyda Chymru'n pleidleisio dros adael unwaith eto, a fyddech chi'n anrhydeddu'r canlyniad hwnnw?
Mandy Jones: Pa gynllunio ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit?
Mandy Jones: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniadau iechyd yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru?
Mandy Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti TG mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ53153
Mandy Jones: Diolch, Lywydd, a blwyddyn newydd dda.
Mandy Jones: Diolch. Weinidog, rydym wedi gweld penawdau sy'n peri pryder, cyn ac ar ôl y Nadolig, ynglŷn â'r sector addysg. Heddiw, hoffwn drafod yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Cymwysterau Cymru ddiwedd y llynedd ar ddysgu TG, yn enwedig y cyfeiriad at y galedwedd, y feddalwedd, ac mewn rhai achosion, y sgiliau sydd wedi dyddio. Weinidog, a allwch roi sicrwydd fod gan ysgolion yn fy rhanbarth y...
Mandy Jones: Onid yw hi'n amser am arloesi gwirioneddol erbyn hyn—cartrefi modiwlaidd, cartrefi cynhwysydd, cartrefi parod sydd dros dro ac ar gael i symud os, dyweder, y bydd tir yn cael ei werthu gan gynghorau neu berchnogion tir preifat? Yn ddiweddar, aeth Cyngor Dinas Bryste yn erbyn ei bolisi cynllunio ei hun ar gyfer datblygiad bach o gartrefi un person. Fe'i hanogwyd i osod cynseiliau newydd gan...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru?
Mandy Jones: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mandy Jones: Bydd hawl taid yn dod yn weithredol ar lawer o'r cytundebau masnach rydd hyn sydd gennym ni a'r UE ar y cyd, felly bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael hawl taid gyda ni'n gwahanu ac yn llofnodi ein henwau arnynt yn ogystal.
Mandy Jones: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo perchentyaeth?
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n defnyddio Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru? OAQ53254
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer?
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Weinidog, gyda phrosiectau mawr fel Wylfa a'r morlyn llanw yn ei chael hi'n anodd cychwyn, ymddengys i mi ei bod bellach yn bryd canolbwyntio ar gynhyrchu ynni ar raddfa lai yn y gymuned, fel y gall cymunedau fod yn gyfrifol am gynhyrchu eu hynni, ac yn bwysicach, mwynhau'r arian a gaiff ei arbed. Pa gynlluniau sydd gennych i annog mwy o gyrff y sector cyhoeddus, grwpiau...
Mandy Jones: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Nghymru?
Mandy Jones: 1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru? OAQ53278
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Caerdydd wedi bod yn hysbyseb wych i Gymru ledled y byd drwy gynnal digwyddiadau mawr. Mae'r digwyddiadau yn gyfle perffaith i arddangos popeth sydd gan Cymru i'w gynnig a hybu twristiaeth yn ystod y digwyddiad. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu efelychu llwyddiant Caerdydd mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i?