Canlyniadau 81–100 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid
(12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu ymagwedd sy’n fwy seiliedig ar ddeddfwriaeth o ran lles anifeiliaid yn y Cynulliad hwn. Cofiaf yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau, ein bod wedi cael deiseb yn galw am gofrestr cam-drin anifeiliaid, a fyddai’n cynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, pe bai gofyn wrth gwrs....

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Ofnaf i mi golli’r ddadl fer gan Huw Irranca-Davies ar y mater hwn, gan fy mod yn cadeirio grŵp trawsbleidiol, ond hoffwn gofnodi fy mod yn cefnogi pob un o’i argymhellion, yn enwedig y rhai ynglŷn â chyfarwyddwyr a chyfyngu heriau cyfreithiol i hysbysiadau atal, nid yn lleiaf oherwydd y gallai hynny fod o fudd mewn ffyrdd eraill, megis mewn cloddio glo brig....

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe clywsom gan eich Llywodraeth sut rydych yn bwriadu mynd i’r afael â throseddau casineb. Yn anffodus, mae’r hinsawdd wleidyddol yn awr yn golygu bod troseddau casineb wedi’u cyfreithloni’n rhannol gan y rhethreg a ddaw gan lawer o wleidyddion ac elfennau o’r cyfryngau. A allwch ddweud wrthym heddiw pa un a ydych yn credu bod mewnfudo i Gymru wedi...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Prin y cefais amser i eistedd. [Chwerthin.] Rwy’n falch eich bod yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwnaeth y Llywodraeth flaenorol yn San Steffan benderfyniad i wrthod arian cyhoeddus i lawer o ymfudwyr, gan gynnwys rhai o wledydd A8. Arweiniodd hyn at adroddiad Amnest Rhyngwladol yn 2008 a nododd ei fod wedi arwain at fenywod yn methu â chael mynediad at loches wrth ffoi rhag...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er gwaethaf yr enghreifftiau trawmatig a roddais yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, nid oedd unrhyw effaith ar y polau piniwn ynglŷn â mewnfudo, gyda lleiafrif sylweddol yn credu nad oedd unrhyw reolaethau’n bodoli hyd yn oed, er gwaethaf yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Felly, mae hyn yn dangos nad yw tawelu’r dde eithaf yn gweithio ar ei delerau ei hun....

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Iechyd Meddwl (12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd ar iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl, yn amlwg, ei bod wedi bod yn her i ni drafod hyn, ond yn fwy o her i bobl allu darparu gwasanaethau yn y maes hwn, ac i siarad am brofiadau personol, fel y mae llawer wedi’i wneud yn yr ystafell hon heddiw. Fel arfer, rwy’n dechrau trwy siarad am hawliau a diogelu’r dioddefwyr, ond...

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Iechyd Meddwl (12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Roeddwn eisiau nodi’r pwynt a wnaethoch am ardaloedd difreintiedig. Ymwelais â ffrind sy’n gweithio mewn ysgol breifat yn Llundain i siarad ag ef am lawer o’r materion hyn, ac mewn gwirionedd, roedd yna ynysu oddi wrth eu rhieni yno am eu bod yn byw i ffwrdd oddi wrthynt, ac roeddent yn dioddef problemau iechyd meddwl, yn union fel pobl mewn ardaloedd difreintiedig.

6. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr, ac rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon, gan fod llawer o fy etholwyr yma heddiw. Mae’r diwrnod y mae lluniau ysgol yn dod adref yn uchafbwynt blynyddol i bob rhiant—fel y gallwch ddychmygu, rwy’n siŵr—sy’n eu rhannu gyda balchder i’w teulu fel y gall pawb gymharu’r plant â sut roeddent flwyddyn yn ôl a sylwi cymaint y maent wedi tyfu. Felly, dychmygwch lun...

6. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (12 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Fel y dywedais, gallwn edrych ar gyflyrau eraill yn nes ymlaen. O ddifrif, nid wyf yn credu y dylem ei ddiystyru oherwydd bod cyflyrau eraill y byddai angen deddfu ar eu cyfer o bosibl. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan dynnwyd yr adran anghenion dysgu ychwanegol o’r ddeddfwriaeth benodol honno, ac nid oedd ond yn ymdrin â phobl yn y system addysg. Mae...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Darpariaeth Canolfannau Celfyddydol
(18 Hyd 2016)

Bethan Sayed: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth canolfannau celfyddydol ledled Cymru? OAQ(5)0208(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Darpariaeth Canolfannau Celfyddydol
(18 Hyd 2016)

Bethan Sayed: Yn amlwg, byddwch yn sylweddoli, ledled Cymru, mai un o'r ffyrdd cyntaf y gall pobl gael mynediad at y celfyddydau yw mewn canolfannau celfyddydau ar raddfa fach. Felly, roeddwn i’n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu cau Canolfan Gelfyddydau Pontardawe am un diwrnod yr wythnos—y diwrnod o'r wythnos y mae grwpiau cymunedol yn defnyddio'r...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Digartrefedd yn Ne Cymru
( 1 Tach 2016)

Bethan Sayed: Brif Weinidog, mae analysis gan Shelter Cymru yn dweud bod yna wahaniaethau mawr rhwng awdurdodau lleol yng nghyd-destun y targedau y maen nhw’n eu cael o ran osgoi cael pobl mewn i ddigartrefedd. Er enghraifft, mae’r llwyddiant gorau yng Ngwynedd, lle mae 84.6 y cant o bobl yn cael eu helpu cyn iddyn nhw fod yn ddigartref, ond, ym Merthyr, mae e’n 44.4 y cant, sef y gwaethaf dros...

7. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Tach 2016)

Bethan Sayed: Roeddwn yn meddwl tybed a allem ni gael rhywfaint o eglurhad gennych ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiadau, oherwydd efallai eich bod wedi sylwi—yn amlwg byddwch wedi sylwi—bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyhoeddi y byddai cyffordd 41 ym Mhort Talbot yn aros ar agor, ac rwyf wrth gwrs yn croesawu hynny, ond dim ond ar ôl i bobl fel fi ddefnyddio’r...

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy ( 1 Tach 2016)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn a diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Ni fyddem, yn amlwg, yn dadlau â’r ffaith bod targed o’r natur yr ydych wedi cyrraedd i'w groesawu, ond byddwn yn adleisio rhai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â pha un a oes problem o ran y ffigur fel ag y mae. Rwy'n dweud hyn nid ar ran fy hunan yn unig—rwy’n ei ddweud oherwydd bos y sector wedi cyfleu...

11. 7. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd ( 1 Tach 2016)

Bethan Sayed: Rwyf bob amser yn dechrau trwy geisio—. Yn enwedig fel rhywun, os ydym ni eisiau cyhoeddi ein bod yn dod o'r Cymoedd, rwyf eisiau dechrau o’r pwynt lle gallwn wneud gwelliannau, ond rwyf yn ofni—ac rwy’n dymuno bod yn adeiladol —rwyf yn ofni, ar ôl darllen hwn, ei fod yn rhoi sylwebaeth o bell. Rwy'n gweld cryn dipyn o eiriau pert, rwy’n gweld llawer o sôn am gydweithio a...

13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016 ( 1 Tach 2016)

Bethan Sayed: Diolch, ac rwy’n ymddiheuro mai fi sydd yn codi bob tro ar gyfer Plaid Cymru heddiw; rwy’n siŵr bod pobl wedi cael digon o glywed fy llais i. Ond rwyf yn hapus i groesawu cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru drwy dynnu sylw at y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal y momentwm tuag at Gymru decach a fwy cynhwysol, a hefyd drwy dynnu sylw, wrth gwrs, at beth...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cod Trefniadaeth Ysgolion
( 2 Tach 2016)

Bethan Sayed: Yn amlwg, mae’r cod anghenion addysgol arbennig fel y mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn rhan o’r cod trefniadaeth ysgolion. Wrth ei ddarllen, roedd yn amlwg i mi ei fod yn dweud y dylid ateb anghenion plant, y dylid ceisio barn plant a’i hystyried a bod rôl rhieni yn hanfodol. Os awn â chi’n ôl at y ddadl a gawsom ar y Bil awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan gyfarfûm â...

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Newid yn yr Hinsawdd ( 2 Tach 2016)

Bethan Sayed: Rwy’n awyddus i wybod sut rydych chi’n dylanwadu ar y gyllideb, fel Aelod Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn, os ydych mor flin ynglŷn â sut y mae Plaid Cymru yn dylanwadu ar y gyllideb?

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Newid yn yr Hinsawdd ( 2 Tach 2016)

Bethan Sayed: Rwyf am ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, ond yn gyntaf roeddwn am grybwyll rhywbeth a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â’r ffermydd gwynt a chau’r pyllau yn Aberdâr. Dylai fod yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cloddio glo brig yn dal i ddigwydd yng Nglofa’r Tŵr, ac mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn droi cefn arno yma yng Nghymru, a dyna pam y credaf fod canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Tach 2016)

Bethan Sayed: Roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad yn amser y Llywodraeth ar ymateb eich Llywodraeth i’r ffaith na fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr Tata yn India pan fydd yn ymweld yno. Dywedodd nad oedd yn bosibl iddi drefnu cyfarfod, ac rwy’n bryderus iawn am hyn, o ystyried y ffaith bod y gweithrediadau yn y DU yn hynod bwysig i'n heconomi, fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.