Lynne Neagle: Hoffwn ddiolch i Llyr am ei sylwadau caredig i mi, a diolch iddo hefyd am ei gwestiynau, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb. Cytunaf yn llwyr mewn perthynas ag atal. Rydym yn gwybod ei fod yn gwbl allweddol ym mhob math o feysydd, ac mae’n rhywbeth y mae angen i ni geisio gwneud mwy ohono bob amser. Rwy’n meddwl mai dyna un o’r rhesymau pam y bydd ein hymchwiliad i’r 1,000...
Lynne Neagle: Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am y cwestiynau hynny. Hyd y gwn i, ni chawsom unrhyw dystiolaeth gan ysgol John Summers oherwydd bod ein hymchwiliad yn ymwneud yn benodol â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i uno’r cronfeydd a roddwyd i gefnogi dysgu Sipsiwn/Teithwyr a dysgu lleiafrifoedd ethnig i mewn i un grant mawr, a elwir yn grant gwella addysg. Bu’n ymchwiliad gweddol fyr ac rydym i...
Lynne Neagle: 10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd mannau gwyrdd a pharciau yng Nghymru? OAQ(5)0086(ERA)
Lynne Neagle: Diolch. Roeddwn ar ben fy nigon pan enwyd Parc Pont-y-pŵl yn barc gorau Cymru ar gyfer 2016, yn dilyn pleidlais gyhoeddus gan elusen Meysydd Chwarae Cymru tuag at ddiwedd y llynedd. Hefyd, cafodd y parc ei gynnwys ar restr fer o blith 214 o geisiadau am wobr parc gorau’r DU, gan golli o drwch blewyn i Barc Glen Rouken yn yr Alban. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono ym Mhont-y-pŵl, ac...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella cymorth i gymunedau yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad cyntaf ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn gofnodi fy niolch i’r 1,500 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru a roddodd eu barn i’r pwyllgor. Roedd eu tystiolaeth yn glir iawn fod gwasanaethau ieuenctid yn bwysig iawn i lawer o bobl ifanc, a gall wneud gwahaniaeth...
Lynne Neagle: Yn ystod yr ymchwiliad, nododd y pwyllgor nifer o faterion allweddol yr oedd angen i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt ar frys. Roeddent yn cynnwys diffyg cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, methiant i gynnwys y sector a phobl ifanc yn ddigonol wrth ddatblygu polisïau, a’r angen am fwy o gydweithredu rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol i wneud y gorau o...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at drafodaeth ragorol ar ein hadroddiad y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch i Darren Millar am ei sylwadau cadarnhaol am ganlyniad yr ymchwiliad, sylwadau sydd i’w croesawu’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn llwyr gefnogi’r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y senedd ieuenctid. Roeddwn innau hefyd yno heddiw i dderbyn yr...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddangos fideo byr, os gwelwch yn dda.
Lynne Neagle: Diolch. Rwy’n gwybod bod rhai o’r Aelodau a fynychodd lansiad yr adroddiad ‘Cyflwr Iechyd Plant’ ar gyfer 2017 a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, wedi gweld y fideo, ond roeddwn yn credu ei bod yn sicr yn werth ei dangos yn ehangach. Hoffwn ddiolch i Naomi Lea a sefydliad Fixers am ganiatáu i ni ddangos y ffilm heddiw, ffilm o’r enw ‘Spot the Signs’, ac...
Lynne Neagle: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Nhorfaen? OAQ(5)0459(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Dorfaen yr wythnos diwethaf i agor dwy ysgol gynradd newydd yng Nghwmbrân yn swyddogol: Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam ac Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, ac adeiladwyd y rhain yn rhan o'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Gydag Ysgol Panteg, sydd i fod i agor i ddisgyblion yn...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a diolch hefyd iddo am ei ymgysylltiad â mi fel aelod o'r meinciau cefn sydd wedi bod yn poeni'n ddirfawr am y cynigion hyn, a hefyd am gyfarfod â’m hawdurdod lleol? Yn gyntaf rwyf yn awyddus i gofnodi fy niolch, a thalu teyrnged i'r staff sy'n darparu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i, sydd wedi gwneud gwaith cwbl wych. Gwn...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru?
Lynne Neagle: Diolch i chi am ildio. Tybed a fyddech yn cyfaddef bod hwnnw’n gyhuddiad annheg iawn, oherwydd ar yr achlysuron hynny, fe wnaethom bleidleisio am y byddai cynnwys contractau dim oriau wedi arwain at her yn y Goruchaf Lys i ddeddfwriaeth bwysig iawn ar bethau fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’n bod bob amser wedi gwneud ein gwrthwynebiad yn glir i’r mathau hyn o...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i wella'r amgylchedd lleol yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn 2017 Llywodraeth y DU i grant bloc Cymru? OAQ(5)0110(FLG)
Lynne Neagle: Weinidog, rwy’n croesawu’n fawr y ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol, yn wahanol i’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n dal i fod yn wir fod y pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn enfawr. Rwy’n gobeithio eich bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i ddefnyddio’r arian...
Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i feithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0540(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gyfarfod â mi y mis diwethaf i drafod fy mhryderon am yr effaith y mae rhoi arian y gronfa deulu i mewn gyda’r gronfa gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy wedi ei chael ar blant anabl a'u teuluoedd. O gofio bod yr arian ychwanegol hwn ar gael gennym bellach, ac o gofio eich sicrwydd i mi yn y cyfarfod hwnnw, ac mai’r rhain yw rhai o'n teuluoedd incwm...