Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd trawsffiniol yng ngogledd Cymru? OAQ53756
Jack Sargeant: Diolch. Cyn y toriad, cyhoeddodd Ysbyty Iarlles Caer benderfyniad unochrog i beidio â derbyn unrhyw atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth ddewisol i gleifion o Gymru. Weinidog, diolch i chi am gyfarfod â mi yn gynharach heddiw i drafod hyn, a gwn eich bod yn ymwybodol, yn dilyn ein cyfarfod, fod y mater hwn yn brifo pobl yn fy etholaeth i, a phobl ar draws sir y Fflint yn wir. Maent yn...
Jack Sargeant: Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i ymweld â fferyllfa gymunedol yng Nghaergwrle yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy. Ac mae'n gwneud gwaith gwych ac yn arwain y ffordd ar y cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf yng Nghymru. Mae wedi cael canlyniadau gwych eisoes drwy leihau'n sylweddol nifer y meddyginiaethau a ragnodir a lleihau'r pwysau ar...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Aelod David Melding am gyflwyno'r ddadl hynod ddiddorol hon heddiw? Roeddwn eisiau gwneud cyfraniad byr a dweud fy mod yn credu bod yr Aelod yn llygad ei le, wrth agor y ddadl hon, pan ddywedodd fod argaeledd y tueddiadau a'r talentau yn rhan amlwg o'r rheswm pam ein bod wedi gweld y fath gynnydd mewn e-chwaraeon a pham y bydd yn parhau i dyfu yn y dyfodol. Yn wir, mae...
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Aelod dros orllewin y de am gyflwyno'r cwestiwn pwysig iawn hwn? Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol o'r erthyglau newyddion diweddar y bydd gan gynghorau yn Lloegr ddyletswydd gyfreithiol bellach i ddarparu cartrefi diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig o dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Aelod, Dai Rees, am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn? Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i'r diwydiant dur—ymrwymiad parhaus i'r diwydiant dur. Ni allwn fforddio sefyllfa lle'r ydym yn colli swyddi yn y diwydiant dur fel y gwnaethom yn Shotton yn y 1980au. Mae wedi bod yn daith gyfnewidiol iawn i weithwyr a'u teuluoedd, felly unwaith eto rwy'n croesawu ymrwymiad...
Jack Sargeant: Nid wyf yn cytuno â'r sylwadau gan Gwnsler y Frenhines. Nid wyf yn credu bod y ddeddfwriaeth yn ddi-rym. Rwy'n credu ac yn cytuno â Mick Antoniw. Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi ein gwneud yn arweinydd byd o ran meddwl yn wahanol, felly a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen inni ddal ati i chwifio'r faner dros y ddeddfwriaeth hon, gan mai dyma pam y mae gwledydd yn awr, fel y nodoch...
Jack Sargeant: Rwy'n gallu gweld ein bod ni'n brin o amser, felly fe wnaf fy nghais ar unwaith. A gaf i ofyn am ddatganiad yn dilyn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr, sydd wedi canfod bod cannoedd o blant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu'n cael eu derbyn i ysbytai iechyd meddwl lle y gallant ddioddef methiannau ofnadwy o ran gofal? Er bod yr adroddiad hwnnw'n canolbwyntio ar Loegr, mae angen inni...
Jack Sargeant: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r Gymraeg yn rhyngwladol?
Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru?
Jack Sargeant: Diolch, Llywydd, ac rwyf yn gwerthfawrogi eich amynedd yn caniatáu amser ychwanegol inni. Yn anffodus, alla i ddim siarad mor gyflym â'm cyfaill da Mr Ramsay draw acw. [Chwerthin.] Prif Weinidog, credaf o ran eich penderfyniad heddiw, y bydd hanes yn edrych yn ôl ac y bydd cenedlaethau i ddod yn edrych yn ôl ac yn barnu eich bod wedi gwneud y penderfyniad cywir, felly rwy'n eich canmol...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i staff y GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ53953
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Roeddwn yn awyddus i godi'r mater hwn gan y gwyddom fod materion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y GIG yn amlwg yn broblem, fel y maent ym mhob gweithle, ac er bod y rhwydweithiau cymorth gennym ar waith, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi y gallwn wneud mwy bob amser. Lywydd, weithiau mae'n rhaid i'r amgylchiadau mwyaf trasig ein...
Jack Sargeant: I fwy na 154,000 o bobl yn Sir y Fflint a thros 675,000 o bobl ar draws gogledd Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu llawdriniaethau sy'n achub bywydau, yn gofalu am ein pobl fwyaf bregus a'n henoed, yn cefnogi ein ffrindiau a'n teuluoedd drwy drawma marwolaeth, a hefyd yn cynorthwyo mamau a thadau i ddod â bywyd newydd i'r byd hwn. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy...
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ54147
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Byddwch yn gwybod, fel y bydd Aelodau'n gwybod ar draws y Siambr, mai un effaith sylweddol ar ein strydoedd mawr ledled Cymru fu cau banciau, sydd wedi bod yn arbennig o niweidiol ym Mwcle yn fy etholaeth i. Mae gwaith ymchwil y Cynulliad yn dangos bod dros 200 o fanciau wedi cau yng Nghymru ers 2008. Llywydd, mae hon yn her enfawr i lawer,...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn gynnig munud o fy amser heddiw i gyd-Aelod ar y meinciau gyferbyn, Darren Millar. Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf arwain y ddadl fer hon ar y pwnc a ddewsiais—camau at wleidyddiaeth garedicach: cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru. Ym mis Medi y llynedd, roeddwn yn falch iawn o arwain fy nadl fer gyntaf yn Siambr y Senedd,...
Jack Sargeant: Ddirprwy Lywydd, heddiw, mae'n bleser gennyf amlinellu cynllun caredigrwydd wrth lunio polisïau fel rhan o fy ymrwymiad i ymgyrchu dros gymunedau caredicach ledled Cymru, ac wrth wneud hynny, rwy'n cydnabod gydag ymdeimlad o ddyletswydd yr angen i drechu'r anghyfiawnder a'r broblem fwyaf oll, sef nad yw bywyd yr un mor deg i bawb. I mi, mae cymunedau caredicach yn dechrau drwy gydnabod bod...
Jack Sargeant: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y swyddogaeth y mae chwaraeon yn ei chwarae wrth ddelio ag iechyd meddwl? Roedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn cael ei nodi'r wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn o arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth—ymgyrch lwyddiannus—gyda chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, AFC Club Wrecsam, Clwb Newport County AFC...
Jack Sargeant: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r iaith Gymraeg ar draws y byd?