Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ(5)0352(FM)[W]
Siân Gwenllian: Diolch. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith os ydyw’r Gymraeg i gryfhau ac rydym yn credu mewn datblygu ardaloedd trefol penodol, megis ardal y Fenai. A ydych yn cytuno bod angen bachu ar bob cyfle i greu sefydliadau cenedlaethol newydd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a...
Siân Gwenllian: Mae yna ffordd arall o edrych ar hyn, wrth gwrs, ac mae yna ddadl gref dros ailstrwythuro’r flwyddyn ysgol a dosbarthu gwyliau’n fwy cytbwys ar hyd y flwyddyn. Mi fuasai dosbarthu gwyliau ysgol dros y flwyddyn yn hytrach na’u cael yn un bloc mawr dros yr haf yn helpu i wella lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion ac yn ei gwneud hi’n haws i rieni sy’n gweithio. Mae llawer o arbenigwyr yn...
Siân Gwenllian: Diolch. Mae fy nghwestiynau i Weinidog y Gymraeg. Roeddech chi, ddydd Gwener diwethaf, yn siarad ar y cyfryngau ac yn sôn eich bod chi’n credu bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhy gymhleth a bod angen adolygu’r ffordd y caiff y safonau iaith eu dylunio a’u gweithredu. A fedrwch chi ymhelaethu ychydig ar y safbwynt yna, os gwelwch yn dda?
Siân Gwenllian: Diolch. Wrth gwrs, nid oes dim byd yn bod efo edrych ar y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio a’i symleiddio os yn bosib, ond mae’n rhaid bod yn ofalus oherwydd, hyd yn hyn, mae yna gwestiwn efallai ynglŷn â pharodrwydd ac ewyllys gwleidyddol y Llywodraeth i weithredu’r Ddeddf, ac felly mae’n bwysig mai pwrpas unrhyw adolygu ydy symleiddio’r broses o weithredu’r Ddeddf ac nid...
Siân Gwenllian: Rydych yn sôn yn fanna am weithredu ac mae’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ffordd o weithredu. Mae’r rhain rŵan wedi cael eu cyflwyno gan holl awdurdodau addysg Cymru, ond yn ôl y sôn, maen nhw’n siomedig, a dweud y lleiaf. Nid oes rhaid i mi eich atgoffa chi pa mor allweddol bwysig ydy cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd yr uchelgais o 1 miliwn o siaradwyr...
Siân Gwenllian: Mae yna bryderon cyffredinol ynghylch dyfodol y sector addysg uwch yng Nghymru, nid yn unig o ganlyniad i Brexit, wrth gwrs; mae cynaliadwyedd y sector wedi bod yn fregus ers blynyddoedd erbyn hyn. Ond, mae goblygiadau Brexit ar gyfer ein prifysgolion yn golygu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn fuan i ddiogelu dyfodol y sector. Fel mae...
Siân Gwenllian: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ffordd osgoi Caernarfon/Bontnewydd? OAQ(5)0367(FM)[W]
Siân Gwenllian: Mae tipyn o sôn wedi bod bod posibilrwydd y bydd y lwfans gweini, sef yr ‘attendance allowance’, yn cael ei ddatganoli i Gymru o San Steffan. Mae tua 100,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn y budd-dal yma, ar gost o tua £400 miliwn y flwyddyn. Os bydd y budd-daliadau yma’n cael eu datganoli i Gymru, mi fydd yn rhaid penderfynu wedyn beth fydd rôl yr awdurdodau lleol. Ac mae Plaid Cymru...
Siân Gwenllian: Mi ges i gyfarfod ddoe efo’r contractwyr ar gyfer y cynllun yma, sef Jones Brothers a Balfour Beatty, ac maen nhw’n bryderus iawn nad oes yna ddyddiad wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynny, yn ei dro, yn mynd i olygu oedi os nad oes yna symudiad buan iawn ar gyfer hynny. Mae’r cynllun wedi’i oedi 12 mis yn barod, fel y byddwch chi’n gwybod, oherwydd dadlau...
Siân Gwenllian: Mae hi bron i saith mlynedd ers i’r Ceidwadwyr ffurfio Llywodraeth yn San Steffan—saith mlynedd ers iddyn nhw gyflwyno eu polisïau llymder dinistriol; saith mlynedd ers i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu torri i’r byw o ganlyniad. Siomedig oedd gweld Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi’r siartr llymder cyn etholiad cyffredinol 2015. Mae’r crebachu ar y...
Siân Gwenllian: Buaswn i’n leicio dechrau fy nghyfraniad i heddiw drwy atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur 2016 y wladwriaeth Brydeinig pan gyflwynwyd hi yma yn ystod y Cynulliad diwethaf, oherwydd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru’n credu yn gryf ym mhwysigrwydd gwaith yr undebau llafur yn y gymdeithas ac yn eu cefnogi nhw. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr,...
Siân Gwenllian: Ynghyd â’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, mi fues i’n rhoi tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad statudol cyntaf y Grid Cenedlaethol ar gysylltiad gogledd Cymru, sef y cynllun a fyddai’n creu llinell o beilonau ar draws Môn ac Arfon. Yn Arfon, yn benodol, roeddem ni yn galw am dwnel o dan yr afon Menai yn hytrach na pheilonau newydd oherwydd yr effaith weledol hollol negyddol y byddai...
Siân Gwenllian: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weledigaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygu economaidd teg ar draws Cymru?
Siân Gwenllian: Y farn gyffredinol ydy bod y cerbydau sy’n cael eu defnyddio gan y fasnachfraint drenau bresennol yng Nghymru o safon wael. Mi fydd angen buddsoddiad sylweddol ynddyn nhw er mwyn gwella ansawdd y stoc sy’n effeithio’n negyddol ar brofiadau teithwyr. Ond, yn ogystal â hynny, erbyn 1 Ionawr 2020, mi fydd angen i’r cerbydau gydymffurfio â’r rheolau newydd ar fynediad ar gyfer pobl...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cydweithio rhanbarthol rhwng cynghorau sir er mwyn cryfhau'r Gymraeg?
Siân Gwenllian: Mewn cyfarfod ym Mangor neithiwr mi ges i’r fraint o ddweud bod Cymru yn wlad sydd yn croesawu y rhai sydd yn ffoi rhag rhyfel a newyn ac erledigaeth. A ydych chi’n cytuno mai un ffordd o ymateb i ffieidd-dra Trump yw trwy gyhoeddi’n glir iawn ein bod ni yng Nghymru yn genedl oddefol ac chroesawgar, ac mai drwy weithredoedd o estyn dwylo y mae profi hynny? Mae yna waith da yn digwydd...
Siân Gwenllian: Mae’r Papur Gwyn a’ch agwedd gynhwysol chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i’w croesawu. Mae’r cynghorau sir yn sicr wedi croesawu cael dweud eu barn, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Papur Gwyn i raddau. Er enghraifft, mae’r ffordd y maen nhw i gael hyblygrwydd o fewn rhai meysydd cydweithio ac o ran y map y gallan nhw ei ddefnyddio yn ymateb i rai o’r pryderon a...
Siân Gwenllian: Rydym ni fel Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau ar eu newydd wedd. Rydych chi wedi sôn eu bod nhw wedi cael eu gwrthod gan y pedwerydd Cynulliad. Nid oeddwn i yma bryd hynny, ond mi oedden nhw’n rhai gwan, ac fe godwyd nifer o bryderon gan fudiadau myfyrwyr a Phlaid Cymru bryd hynny. Mi fuodd ychydig o oedi pellach cyn y Nadolig—wythnos yn unig, rwy’n prysuro i ddweud—ar gais...
Siân Gwenllian: Mae’r ddadl am yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb yn amserol, o ystyried yr hyn sy’n digwydd nid yn unig ym Mhrydain yn yr oes ôl-Undeb Ewropeaidd hon ond yn yr Unol Daleithiau hefyd, gydag agwedd gwahaniaethol a hiliol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn erbyn ffoaduriaid Mwslemaidd. Mi fydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych ar y cyfnod yma mewn hanes ac mi fyddwn ni, yn benodol, fel...