Delyth Jewell: Diolch yn fawr, Weinidog. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar fod eich Llywodraeth yn datblygu llinellau coch mewn perthynas â meysydd datganoledig nad yw'n dymuno iddynt gael eu cynnwys mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth yw'r llinellau coch hynny? Dywedodd...
Delyth Jewell: Ar fore'r dydd y cyhoeddwyd yr adolygiad hwn o ddatganoli gan Brif Weinidog y DU, cefais e-bost gennych, Weinidog, a oedd yn cynnwys diweddariad ar y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud i geisio gwella gweithio rhynglywodraethol yn eich rôl fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Fe gyhoeddoch chi fod y pwyllgor wedi cytuno ar egwyddorion drafft...
Delyth Jewell: Caiff yr adeilad lle'r ydym yn dadlau ei ddathlu'n aml oherwydd ei bensaernïaeth, ei nenfwd ceugrwm, ei furiau goleddfol. Mae cyfuchliniau'r gofod ei hun yn ein hatgoffa nid yn unig o'r egwyddorion o fod yn agored a thryloyw mewn democratiaeth, ond hefyd y llwybr cwmpasog ar adegau yr ydym wedi'i ddilyn er mwyn cyrraedd yma, gan ennill y bleidlais yn 1997 o drwch blewyn a'r gwaith sydd wedi...
Delyth Jewell: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb yn Nwyrain De Cymru? OAQ54283
Delyth Jewell: Diolch am eich ymateb. Efallai eich bod yn ymwybodol bod y penderfyniad i gau canolfan hamdden Pontllanfraith wedi ei wrthdroi'n ddiweddar, ar y sail bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ystyried effaith y cau ar bobl ddifreintiedig yn yr ardal yn rhan o'i ddyletswydd cydraddoldeb. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno bod y cyngor wedi methu yn ei ddyletswyddau ar gyfer pobl...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Tybed a allem ni gymryd ennyd i fyfyrio ar y sefyllfa anffodus a rhyfedd yr ydym ni ynddi. Rydym ni'n sôn am barodrwydd ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd o ran Brexit, a bydd pob un o'r rhain yn golygu y byddwn yn waeth ein byd nag yr ydym ni nawr. Yn syml rydym ni'n paratoi'n i leihau'r niwed yr ydym yn ei achosi i ni ein hunain. Croesawaf lawer o baratoadau Llywodraeth...
Delyth Jewell: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i warchod bioamrywiaeth yn Nwyrain De Cymru?
Delyth Jewell: Mae cronfa LIFE a bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer adfer rhywogaethau a chyllido prosiectau amgylcheddol wedi buddsoddi €65 miliwn yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'r gronfa yn pontio ymchwil, datblygu a chynhwysiad, ac mae'n ariannu technolegau amgylcheddol arloesol. Mae sawl prosiect wedi cael ei ariannu gan hyn, gan gynnwys coedwigoedd Celtaidd ac adfer corsydd...
Delyth Jewell: Hoffwn innau hefyd ddiolch i David Rees am y modd ardderchog y cadeiriodd y pwyllgor, a'r swyddogion sy'n gwneud gwaith mor wych yn cynorthwyo ein gwaith. Rwy'n credu ei bod yn fraint fy mod yn gallu chwarae rhan mewn pwyllgor sy'n gwneud y gwaith pwysig hwn mewn perthynas â Brexit, ar yr adeg hollbwysig a rhyfedd hon yn ein gwleidyddiaeth, a chyda phobl o wahanol bleidiau sydd am ymdrin yn...
Delyth Jewell: Felly, ar ôl misoedd o bendroni beth fydd y Prif Weinidog yn ei wneud, gwyddom bellach beth yw ei galibr, ac nid wyf yn ei ddweud gydag edmygedd. Mae Boris Johnson yn ddyn heb unrhyw ymdeimlad o gywilydd nac yn wir, unrhyw ofal ynglŷn â pha mor ddiffygiol y caiff ei weld gan hanes. Pan etholwyd Johnson, câi ei weld yn gyffredinol fel arbrawf, un ymdrech arall i fynd ben-ben â'r UE,...
Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn achos addoediad yr Uchel Lys, cyn apêl y Goruchaf Lys? OAQ54308
Delyth Jewell: Canfu Llys Sesiwn yr Alban fod Boris Johnson wedi camarwain y Frenhines ynglŷn â'i resymau dros eisiau i'r Senedd gael ei haddoedi. Dywedodd y Prif Weinidog mai er mwyn cyflwyno Araith y Frenhines oedd hynny, ond gwnaethpwyd hi'n glir gan y dyfarniad fod tystiolaeth ddogfennol i'r perwyl mai'r gwir reswm oedd rhwystro gwaith craffu seneddol ar y Weithrediaeth. Nid oedd yr Uchel Lys yn...
Delyth Jewell: Ar y dydd Sadwrn cyntaf o'r mis hwn, ymgasglodd miloedd yn Sgwâr Penderyn ym Merthyr ar gyfer gorymdaith dros annibyniaeth. Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl yn gallu bod yno oherwydd diffyg capasiti digonol ar wasanaethau trenau i Ferthyr. Roedd llawer o drenau wedi'u llenwi i'r eithaf, gyda rhai trenau'n osgoi rhai gorsafoedd yn gyfan gwbl am fod y cerbydau'n llawn o orsaf Caerdydd...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Am lanast llwyr y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o bethau. Canfyddir bod y Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth y Frenhines ac mae'n hapus i fygu'r Senedd a diystyru rheolaeth y gyfraith. Fel rydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, os yw'r gohiriad yn parhau—ac nid yw'n warant o gwbl, o ystyried hynt ymddangosiadol yr achos yn...
Delyth Jewell: Beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o sefyllfa gyllidol bresennol Cymru fel y caiff ei nodi yn Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019, a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd?
Delyth Jewell: Gweinidog, mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft a gyhoeddoch dros yr haf yn cynnwys tri nod. Y trydydd o'r rhain yw amlygu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Allwch chi esbonio sut mae hynny yn gydnaws â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yn ffair arfau Defence and Security Equipment International yr wythnos ddiwethaf?
Delyth Jewell: Weinidog, dwi ddim yn meddwl bod yr ateb yna yn ddigon da. Dro ar ôl tro, rydym ni'n cael addewidion gan eich Llywodraeth yn honni eich bod am fod yn gyfrifol, yn foesol, yn flaengar, a, dro ar ôl tro, rydych chi'n tanseilio'r addewidion hyn drwy weithredu mewn ffordd anghyfrifol, anfoesol a beth bynnag ydy'r gwrthwyneb i blaengar. Un maes sydd yn cael ei neilltuo yn llwyr yn y strategaeth...
Delyth Jewell: Wel, mae hynny'n ateb annigonol yn anffodus. Mae'n dda iawn i glywed am y gwaith da sy'n digwydd gan y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg, ond dylai hynny fod yn y strategaeth. Ac am y ffoaduriaid, dylech chi ailystyried hynny fel mater o frys, byddwn i'n argymell. Hoffwn droi yn awr at wendidau eraill y strategaeth ryngwladol. Mae'n gymysgedd rhyfedd o orgyffredinoli a gorfanylder ar yr un...
Delyth Jewell: Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers llai na blwyddyn ac rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith rydym wedi gorfod trafod colli swyddi yn ein cymunedau yn y Siambr hon. Schaeffler yn Llanelli, Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rehau ar Ynys Môn, Quinn Radiators yng Nghasnewydd ac yn awr Orb yng Nghasnewydd eto—gyda'i gilydd, mae'n fwy na 3,000 o swyddi mewn mater o fisoedd....
Delyth Jewell: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rydym ni'n rhannu pryderon ynghylch Brexit heb gytundeb, yn enwedig y pwynt difrifol iawn a wnaeth ar ddiwedd ei ddatganiad na all Cymru na'r Deyrnas Unedig fod yn gwbl barod ar gyfer pob posibilrwydd. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod mai'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas fydd yn dioddef fwyaf. Trïwch chi ddweud wrthyn nhw am addasu i'r...