Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei ddweud mor aml, menywod yn y gweithle sydd wedi bod yn anghymesur ar y rheng flaen o ran amlygiad i'r pandemig. Maen nhw'n gweithio ym meysydd manwerthu a gofal ac iechyd a swyddi eraill sy'n wynebu'r cyhoedd yn anghymesur, ac mewn swyddi achlysurol neu â chyflogau isel lle gall llais undebol y gweithlu fod yn wannach yn anffodus, ac eto gall y pwysau...
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, tybed a gawn ni ddod o hyd i amser ar gyfer dadl cyn inni dorri ar gyfer yr etholiad ym mis Mai ar hanes rhyfeddol ac etifeddiaeth barhaus Robert Owen, un o feibion y Drenewydd a Chymru, ac, yn wir, y byd? Gwneuthurwr tecstiliau, dyngarwr, diwygiwr cymdeithasol, ac wrth gwrs un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol a sosialaeth iwtopaidd hefyd. Ac i aralleirio Oscar Wilde, beth yw...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, fe wnaethoch chi, mae'n debyg, fwynhau, fel y gwnes innau, wylio fideo Syr Gareth Edwards y diwrnod o'r blaen o'i ymweliad ef â'r ganolfan frechu ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tu cefn i'r clwb rygbi yno. Fe ddywedodd ef yn y fideo nad oedd bob amser wedi mwynhau pob ymweliad â Maes y Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mewn gwirionedd. Ond roedd honno'n neges ardderchog i'm hetholwyr i am...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr ac rwy'n cefnogi'r syniad yn llwyr bod angen i ni arbrofi gyda hyn a rhoi cynnig arni, ond mae angen i ni i ei gyflwyno ar raddfa fwy hefyd. Rwyf i newydd ddychwelyd amser cinio o daith gerdded i lawr fy stryd fawr. Nawr, cyn coronafeirws, roeddem ni'n dechrau mynd i'r afael â phethau, ac, mewn gwirionedd, mae gennym ni...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran a fydd modd bodloni’r galw am safleoedd gwersylla a safleoedd carafanau domestig â chyfleusterau sydd wedi’u diogelu rhag COVID yng Nghymru yng ngwanwyn/haf 2021? OQ56302
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Credaf y byddwch yn cydnabod na fydd llawer o bobl o deuluoedd sy'n gweithio yn ein cymunedau yn rhuthro i drefnu gwyliau tramor drud eleni—byddant yn chwilio am gyfleoedd awyr agored rhad a hwyliog ond da ym maes twristiaeth yn y wlad hon. Ac mae'n gyfle, mewn gwirionedd, i sicrhau bod ein darparwyr twristiaeth ym mhob rhan o...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, bythefnos yn ôl roeddem ni'n falch o gynnal digwyddiad byw ar Facebook yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, o dan y teitl 'Mental Health—It's Good to Talk', ac mae'n bleser gen i ddweud bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn bresennol, yn ogystal â Megan o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Mental Health Matters, Siediau Dynion lleol a llawer o sefydliadau ac...
Huw Irranca-Davies: Ni allaf wneud cyfiawnder yn y ddadl hon â'r nifer fawr o negeseuon twymgalon i gefnogi cynigion Felindre o bob rhan o fy etholaeth, ond credaf y gallai un llythyr gan Richard Case yn Llanharan helpu. Mae Richard yn ysgrifennu fel hyn: Fel gyda'r mwyafrif o bobl yn ne-ddwyrain Cymru, mae gan Ganolfan Ganser Felindre le arbennig iawn yn fy nghalon. Treuliais lawer gormod o amser yn eu...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd? OQ56385
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch i chi am egluro hynna, a gofynnais y cwestiwn hwn i chi gan fod Llywodraeth Cymru, er iddi ddyrannu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrthym ni oedd yn 99.6 y cant o'i adnodd, wedi ei beirniadu yn barhaus gan y Torïaid yma yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae gan eu Canghellor yn San Steffan gronfa COVID wrth gefn sy'n £19 biliwn ar hyn o bryd. Felly, Prif Weinidog,...
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, rwy'n gwybod mai un o'r Gweinidogion sy'n gwylio hyn yn ofalus yw ein Gweinidog Twristiaeth. Felly, tybed a allwn i, drwoch chi, ofyn am ddatganiad neu am rywfaint o eglurhad ar y cam diweddaraf gan Tripadvisor, sydd wedi poeni llawer o'r gweithredwyr twristiaeth bach a chanolig eu maint yn fy etholaeth i. Mae Tripadvisor eisoes yn cymryd comisiwn o 15 y cant ar unrhyw werthiannau...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn o gefnogi'r gyllideb hon—cyllideb wirioneddol anodd. Gyda'r diffyg gallu i ragweld mwy na blwyddyn ymlaen llaw, credaf y bu hyn yn ddeallus iawn mewn sawl ffordd yn rhai o'r dewisiadau a'r blaenoriaethau a wnaed. Achosodd imi fyfyrio, mewn gwirionedd, ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf, er—fel yr oedd Dawn Bowden, fy nghyd-Aelod, yn ei...
Huw Irranca-Davies: Trof at y gyllideb hon yn y man a sut y mae'n effeithio ar fy etholaeth. Rwy'n edrych dros y pum mlynedd diwethaf yn fy ardal i, ac nid oes un dref na chymuned nad yw wedi cael ysgol newydd wedi'i hadeiladu sy'n effeithio ar ei phlant ysgol gynradd neu uwchradd, neu goleg sydd wedi cael buddsoddiad. Dyma'r buddsoddiad mwyaf ers y 1960au yn seilwaith ein hysgolion a'n colegau, ac mae hynny...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, tybed a fyddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwaith sydd wedi'i wneud drwy'r pandemig gyda sefydliadau lleol gwych fel Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig, fe wnaethant barhau i geisio gwneud yr addasiadau hynny ledled fy ardal. Ond, hefyd, a fyddai'n cytuno â mi fod hyn yn ymwneud â mwy na hynny hefyd? Mae'n ymwneud â phethau fel...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Eleni mae’n ddwy ganrif a hanner ers geni'r arloeswr a’r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen. O dras werinol yn y Drenewydd yng Nghymru, daeth yn hyrwyddwr hawliau'r dosbarthiadau gweithiol, deddfau llafur plant, a hyrwyddodd safonau byw gwâr i bawb. Hyd heddiw, mae'r gwaith sylfaenol a wnaeth yn ein helpu i adeiladu cymdeithas decach y mae pob un ohonom yn rhanddeiliaid...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Ac wrth agor y ddadl hon, a gaf fi ddiolch i bawb yn ein GIG sydd wedi gwneud gwaith mor rhagorol ac sy'n parhau i wneud hynny? Ond rwy'n edrych ar achos hanesyddol, anodd iawn gyda hanes hir yma heddiw, a bydd rhai o'r manylion yn peri gofid i'r teulu ac i'r rhai sy'n eu clywed am y tro cyntaf.
Huw Irranca-Davies: Nod y ddadl hon yw ceisio archwilio materion hollbwysig gyda'r Gweinidog yn ymwneud â hawl unigolyn i gael triniaeth feddygol ddiogel a hawl y claf a'r teulu i gael gwybodaeth feddygol mewn modd amserol er mwyn gwneud cwynion a lle bo angen, i gynnal ymchwiliadau gan yr heddlu ac ymchwiliadau eraill, a'r graddau y mae diwylliant a phrosesau'r GIG yng Nghymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd...
Huw Irranca-Davies: Ar gais y teulu, trosglwyddwyd gofal Kelly o Gymru i Fryste ym mis Tachwedd 2006, a dywedodd y llythyr atgyfeirio at y meddyg ymgynghorol ym Mryste fod Kelly wedi dioddef apoplecsi pitwidol. Yn anhygoel, nid oedd y wybodaeth hon, gyda llaw, erioed wedi cael ei rhoi i'r teulu. Nawr dyna grynodeb byr o beth o'r gyfres drasig o ddigwyddiadau meddygol a chlinigol a newidiodd fywyd Kelly a...
Huw Irranca-Davies: Ond mae'r cwestiynau i'r ddadl hon fel a ganlyn: os nad oedd methiant gweinydd, pam nad oes cofnod o weithredoedd y meddyg a fynychodd ward gyswllt A3 o'r uned dibyniaeth uchel pan aeth Kelly mor sâl, y meddyg a achubodd fywyd Kelly yn y pen draw? Dim cofnod. Pam nad oes siartiau cyffuriau ar gael rhwng 10 a 22 Tachwedd? Ble mae canlyniadau'r profion gwaed, y rhai roedd y nyrs—hefyd o'r...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru? OQ56440