Mark Reckless: A gaf i ofyn am ddatganiad llafar neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar barthau perygl nitradau? Rwy'n sylwi bod Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn ateb cwestiynau yfory ac yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig, ond roedd amseriad y datganiad ysgrifenedig hwnnw'n golygu nad oes cyfle i Aelodau cyffredin y Senedd ofyn cwestiynau yn y sesiwn honno yfory. Dywedodd...
Mark Reckless: Gweinidog Cyllid, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Awdurdod Cyllid Cymru a pha mor dda y mae'n llwyddo fel sefydliad. Rwyf hefyd wedi mwynhau o leiaf un o'r cynadleddau treth yr ydych chi wedi'u cynnal. Dydw i ddim yn credu mai'r rheswm dros lwyddiant ACC yw oherwydd ei fod wedi'i wneud ar sail Cymru yn hytrach na sail y DU, ond rwy'n credu ei fod yn mynd i ddangos...
Mark Reckless: —a gawn ni roi'r gorau i wastraffu amser pobl wrth gael 200 o syniadau newydd ac archwilio pob un yn ddiwyd iawn, a derbyn na fydd trethi newydd yn cael eu datganoli?
Mark Reckless: Gweinidog, da iawn chi am berfformiad trawiadol iawn dros yr wythnosau diwethaf. Rydych chi a phawb sy'n gweithio yn rhan o hyn wedi ymdrin â'r bwlch gyda chyfraddau brechu o gymharu â Lloegr y beirniadais i chi amdano o'r blaen, a chredaf y dylwn gydnabod pa mor dda y bu pethau dros y pythefnos diwethaf. Felly, da iawn chi. Oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl wedi cael eu brechu'n...
Mark Reckless: Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y model buddsoddi cydfuddiannol?
Mark Reckless: Mae'r Bil hwn yn anghywir mewn egwyddor ac yn ddiangen yn ymarferol. Gwelwn frechlynnau'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus, gwelwn nifer y rhai a heintiwyd ac yn gynyddol, nifer y marwolaethau o'r feirws, yn gostwng yn helaeth. Rydym o fewn tri mis i'r etholiad a ragwelir, ac ni chaiff yr awgrym fod angen pwerau brys arnom i ohirio'r etholiad ei gadarnhau gan y cefndir ffeithiol hwnnw. Rydym...
Mark Reckless: Cyfeiriodd y Gweinidog at fwy o gonsensws yng Nghymru ar addysg uwch. Credaf fod rhywbeth i'w ddweud dros hynny, mae'n debyg. Nid wyf yn siŵr a yw hi wedi fy narbwyllo'n llwyr eto gyda'r rhaglen ar gyffredinoliaeth gynyddol, ond beirniadais adroddiad Diamond i ddechrau am gynnig grantiau cynhaliaeth i deuluoedd sydd â hyd at £80,000 y flwyddyn o incwm, a oedd, yn fy marn i, yn llawer rhy...
Mark Reckless: Rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau hybu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau, ond, Prif Weinidog, chwe mis yn ôl, nid oedd pedwar o bob 10 o bobl a holwyd yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli, neu'n credu ei fod yn cael ei redeg gan San Steffan, y mae eich plaid chi yn camfanteisio arno yn etholiadau'r DU. Oni fyddai'n well pe byddem ni'n symleiddio'r broses o wneud...
Mark Reckless: Rydym ni hefyd yn bwriadu cefnogi'r rheoliadau lliniarol hyn. Fe hoffem ni gael mwy o gysondeb ar draws y Deyrnas Unedig ar un ohonynt, ond mae'r rheoliadau ar y rhai sy'n ymhél â chwaraeon yn broffesiynol yn ein taro'n amlwg yn synhwyrol, ac mae dibynnu ar reoliadau a wneir mewn mannau eraill a'u derbyn yng Nghymru yn hytrach na mynnu gwneud pethau ychydig yn wahanol yn gam i'r cyfeiriad...
Mark Reckless: A gaf fi ddiolch i'r nifer o bobl sydd wedi gohebu â mi, nifer o ffermwyr, y clywais ganddynt ar y pwnc hwn? Efallai mai'r agwedd fwyaf brawychus ar hyn yw'r nifer o weithiau yr addawodd y Gweinidog, ar gofnod ac yn y lle hwn, na fyddai'n cyflwyno'r mathau hyn o gynigion ynghylch parth perygl nitradau nes bod y pandemig COVID wedi dod i ben. Ac eto, dyma hi'n gwneud hynny. Mae wedi torri...
Mark Reckless: Nid ydym yn cefnogi, ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru, y cyfraddau treth incwm hyn yng Nghymru, ac fe hoffem ni bleidleisio yn eu herbyn, ond nid wyf am wneud hynny, oherwydd os na chânt sêl bendith, byddwn yn gweld twll enfawr yn ein gwariant cyhoeddus oherwydd y swm a dynnwyd oddi ar y grant bloc. Felly, byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn. Yn sicr, nid ydym yn cefnogi'r cyfraddau treth...
Mark Reckless: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch yr effaith y mae'r dreth a delir wrth brynu eiddo preswyl yn ei chael ar stoc tai Cymru?
Mark Reckless: Rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol. Diolch, Lywydd, am ddewis ein gwelliant, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Angela Burns ynglŷn â diolch i'r staff. Ar ein gwelliant, credwn mai datganoli sydd wedi dal darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd yn ôl yng Nghymru. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs ni...
Mark Reckless: Hoffwn innau hefyd wrthwynebu'r modd hurt y disgrifiodd David Rees y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd fel un sy'n cyflymu preifateiddio. Yn amlwg, ar ddiwedd y 1990au, ni wnaeth y marchnadoli a welsom yn Lloegr ddatblygu yng Nghymru gyda datganoli, ac yn amlwg, o dan Blair a Brown, gwelwyd cryn dipyn o farchnadoli o fewn y GIG yn Lloegr. Ond, yn niwygiadau Lansley yn 2010, cafwyd newidiadau...
Mark Reckless: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ56457
Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi'n hoffi rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am broblemau neu ymddygiad ymosodol yn y berthynas, ond oni ddylech chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Fe wnaethoch chi ddewis cael eich hun wedi eich ffilmio yn dweud bod Prif Weinidog y DU yn wirioneddol ofnadwy. Sut mae hynny yn helpu i ddod â Llywodraeth y DU at y bwrdd? Rydych chi wedi dod i'r casgliad bod y DU ar ben;...
Mark Reckless: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiddymu'n raddol band cyfradd sero y dreth trafodion tir ar drafodion eiddo preswyl hyd at £250,000? OQ56456
Mark Reckless: Cyfeiriaf at ddiddymu’n raddol, ond yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid oes gennym dapr yng Nghymru. Pam fod y Gweinidog wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, a pham ei bod yn meddwl ei bod yn iawn y dylai pobl sy'n prynu tai gwerth rhwng £180,000 a £250,000 yng Nghymru dalu 3.5 y cant ar y rhan honno o'r trafodiad, pan fyddai'r un...
Mark Reckless: Diolch, a diolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r ddadl. Rwy'n sicr yn meddwl, gyda chefndir y Cadeirydd, ei bod yn gwneud cryn dipyn i hyrwyddo byw mewn ardaloedd twristaidd yng Nghymru. Nid wyf yn siŵr a yw hynny ar gyfer ail gartrefi neu brif gartrefi, ond rhoddodd ddisgrifiad da iawn o'r ddeiseb hefyd yn fy marn i, sy'n fwy manwl nag a ddeallais o ddarllen y disgrifiad ysgrifenedig byrrach a...
Mark Reckless: Heddiw, rydym ni'n cofio am bob un a fu farw oherwydd COVID a'u teuluoedd nhw. Hefyd, fe ddylem feddwl yn fy marn i, am y rhai sy'n dioddef COVID hir, y rhai sydd wedi gweld gohirio eu triniaethau iechyd eraill, ac am yr effaith ar iechyd meddwl cymaint o bobl, a'r rhai sydd wedi dioddef waethaf yn economaidd. Prif Weinidog, rwy'n awyddus i ddweud fy mod i'n dymuno gwneud dau sylw, cyn dweud...