Huw Irranca-Davies: Wel, mae fy nheulu Welsh-Italian yn iawn nawr, diolch byth. Maen nhw wedi bod trwy'r broses. Roedd y cyngor a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol, ond roedd aelodau'r teulu yn helpu aelodau eraill o'r teulu hefyd. Ond mae fy nghwestiwn yn syml iawn. Yn yr wythnosau olaf hyn, beth allwn ni ei wneud, fel Aelodau o'r Senedd, i annog pobl i gymryd rhan yn ein hardaloedd lleol?
Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru? OQ56538
Huw Irranca-Davies: 4. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio mwy o ragnodi cymdeithasol mewn practisau meddygon teulu? OQ56570
Huw Irranca-Davies: Credaf y bydd llawer ohonom yn y Siambr yn croesawu'r eglurder hwnnw. Weinidog, yn anffodus, mae'r defnydd gwrthun o ddiswyddo ac ailgyflogi ar gynnydd. Fis yn ôl yn unig, ymunodd 140 o ASau ac Arglwyddi ag ymgyrch dan arweiniad Cyngres yr Undebau Llafur ac oddeutu 20 o undebau mawr yn y wlad hon, gan gynnwys undebau Unite, GMB, Community, y Ffederasiwn Busnesau Bach—y rhan fwyaf o'r prif...
Huw Irranca-Davies: Mae pob un ohonom wedi'i wneud.
Huw Irranca-Davies: Yn dilyn y cwestiwn a ofynnwyd yn awr, tybed a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a wnaeth nifer fawr fanteisio ar y £9.2 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer gwella ymateb dros y ffôn a fideo. Nawr, deallwn fod y pwysau ar ein cyfleusterau meddygol cymunedol yn enfawr yn ystod y pandemig, ond rydym am eu gweld yn dod allan o hyn a bod cleifion yn gallu cael ymgynghoriad dros y...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw'n fawr, Weinidog, oherwydd pan oeddwn yn llawer iau, ddegawdau'n ôl, pan oeddwn yn gynorthwyydd a rheolwr canolfan chwaraeon—gwn ei bod yn anodd credu hynny—fi oedd un o'r rhai cyntaf i gyflwyno ymarfer corff ar bresgripsiwn a chynlluniau atgyfeirio gan feddygon teulu yn ein canolfannau ledled Cymru a Lloegr ar y pryd. Ond wrth gwrs, mae pethau wedi symud...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff ildio ar y pwynt hwnnw?
Huw Irranca-Davies: Rwy'n mynd i ostwng y tymheredd ychydig. Mae tair o'r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd hon bellach yn derbyn yn fras nad yw'r Deyrnas Unedig yn addas at y diben ar hyn o bryd o ran y modd y mae'n llywodraethu'r DU gyfan a'i threfniadau cyfansoddiadol, a'r berthynas rhyngddi a sefydliadau democrataidd. Ac yn y Senedd flaenorol, roedd o leiaf un Aelod blaenllaw ac amlwg ar...
Huw Irranca-Davies: Fe wnaf yn wir—a dal i gydweithio o hyd er budd cyffredin ehangach gwledydd a rhanbarthau'r DU a'r DU gyfan. Ddirprwy Lywydd, efallai fod gan yr hen siandri fwy o fywyd ynddi eto, ond rhaid inni osgoi sefyllfa lle rydym yn dal i fynd nes dod i stop, neu daro'r clawdd. A dyna fy mhryder gydag ymagwedd bresennol Llywodraeth y DU.
Huw Irranca-Davies: Fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai rhai o'r ffyrdd gorau o wella diogelwch ar y ffyrdd yw gostwng cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd adeiledig, creu ardaloedd di-draffig a rhoi active travel yn gyntaf ar frig y pyramid teithio? Ond sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n perswadio pobl i ddod gyda ni ar y siwrnai hon i ddyfodol tecach, gwyrddach a gwell? Sut ydyn ni'n ei gwneud hi'n haws...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, fel y soniwyd eisoes, mae hon yn Wythnos Anabledd Dysgu. Mae llawer ohonom yn falch o nodi hyn a dathlu, rhaid i mi ddweud, gyfraniad plant ac oedolion ag anableddau dysgu i'n bywydau ac yn y gwaith, ond rydym hefyd yn nodi'r heriau parhaus sy'n cael eu hwynebu a'r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy'n gwneud bywyd yn llawer anoddach. Gweinidog, dyma hefyd ben-blwydd tywyll 10...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, mae hon yn rhaglen lywodraethu dda a chadarn—[Torri ar draws.] Mae'n rhaglen dda a chadarn ar gyfer llywodraethu lle ceir mandad cryf i gyflawni hyn nawr, er gwaethaf y feirniadaeth gan feinciau'r gwrthbleidiau eiliad yn ôl. Rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes yn unig yr hoffwn i eu codi, oherwydd rydym ni'n sefyll ac yn gofyn ichi fynd ymhellach, a gwneud hyn yn gyflymach;...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol 2021?
Huw Irranca-Davies: Weinidog, fe gewch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd fy nghefnogaeth lwyr i wneud popeth sydd ei angen i ddatblygu'r agenda hon, o ran lliniaru ac addasu i newid hinsawdd yn ogystal, ac ar yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth a wynebwn hefyd. Fe ddaw'r adeg inni ofyn cwestiynau manwl iawn a chraffu'n fanwl iawn ar sut rydym yn cyflawni hyn a sut i'w ddatblygu. Gall cymhlethdod rhai o'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, ac fe wnaf yn wir, Lywydd. Fe gadwaf hyn yn fyr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl. Byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Er bod elfennau da, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y ddau welliant a nodwyd, gwelliant Llywodraeth Cymru yma, hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon, buddsoddi mewn cyfleusterau...
Huw Irranca-Davies: A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn addysg Gymraeg a gofal plant Cymraeg fel rhan o'n huchelgais i greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg? Felly, a fyddai'n ymuno â mi i groesawu'r gwaith sydd wedi dechrau wrth adeiladu canolfan newydd gofal plant Cymraeg ym Melin Ifan Ddu, yng nghwm Ogwr, fel rhan o uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr i...
Huw Irranca-Davies: Trefnydd, mae'n wythnos Hosbis Plant, felly a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i'n dwy hosbis plant yng Nghymru: sef Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, dwy hosbis ragorol, sydd gyda'i gilydd yn darparu gofal seibiant a lliniarol i fwy na 400 o deuluoedd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd? Ac maen nhw'n dymuno gallu sicrhau'r plant a'r teuluoedd hynny, ac eraill yn y...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod a'r llu o Aelodau trawsbleidiol a gefnogodd y cais hefyd? Mae bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hintegreiddio'n briodol yn amlwg yn bwysig iawn i'r Senedd ac i'r etholwyr a wasanaethwn. Nawr, mae'n siŵr heddiw y bydd gan yr Aelodau hanesion i'w hadrodd am ein gwasanaethau lleol ein...
Huw Irranca-Davies: Felly, yn y chweched Senedd hon, mae gennym gyfle yn awr i wneud pethau'n wahanol iawn. Gan fod gennym y pwerau bellach, mae angen inni adfer y diben cyhoeddus a chymdeithasol sy'n graidd i bob trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol fel rydym eisoes wedi dechrau ei wneud gyda threnau. Ac mae hyn yn golygu adfer rheolaeth ar y bysiau a'r oruchwyliaeth ehangach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bobl,...