Canlyniadau 1081–1100 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru ( 4 Maw 2020)

David Melding: Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon. Credaf ei fod yn bwnc pwysig ac rwy'n canmol y Llywodraeth am ddatblygu strategaeth ryngwladol, o leiaf. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser, ond credaf y dylai fod yn rhan greiddiol iawn o weithgareddau Llywodraeth Cymru, a dylem dreulio amser yn myfyrio arni ac yn awgrymu mannau lle gellir ei gwella. Hoffwn sôn am ychydig o bethau y credaf fod...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Strategaeth Ryngwladol Ddrafft Llywodraeth Cymru ( 4 Maw 2020)

David Melding: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio i un o gefnogwyr Burke—gelyn mawr Dr Price, wrth gwrs. [Chwerthin.] Cofiaf Brian Groom yn ysgrifennu darn ar y 10 Cymro uchaf yn y Financial Times, ac ysgrifennais at yr FT, gan ddweud, 'Ble mae Dr Richard Price, dyfeisiwr y cynllun actiwaraidd, yr un a gynghorai Alexander Hamilton sut i gynnal dyled genedlaethol? Nid yw ar y rhestr.' Ac er tegwch i'r...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Maw 2020)

David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba fesurau sydd ar waith i annog busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai yn ôl i farchnad Cymru?

Grŵp 9: Corff Llais y Dinesydd — aelodau (Gwelliannau 5, 48, 6, 7, 8, 49, 9, 50, 51, 52, 10, 53, 11, 12, 54, 56, 14) (10 Maw 2020)

David Melding: Mae modd dadlau, ac rydych chi'n gwneud hynny yn gryf, ond mae comisiynwyr a sefydliadau fel y corff newydd llais y dinesydd yn destun craffu ac atebolrwydd—yn naturiol, o ran yr ochr ddeddfwriaethol, oherwydd dyna ein swyddogaeth ni yn ogystal â deddfu, i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Yr hyn yr ydych yn ei wneud drwy gael y penodiadau hyn, mewn enw, yw eu gwneud yn benodiadau...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Tai Gwag (11 Maw 2020)

David Melding: Weinidog, fel Llyr, roeddwn yn edrych ar y data ar gyfer 2018-19, ac mae'n eithaf siomedig. Mae'n faes heriol—cartrefi gwag yn y sector preifat a gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwahanol fecanweithiau ariannol i sicrhau bod rhai o'r cartrefi hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto—ond mae perfformiad yn amrywio. Mae Ynys Môn wedi sicrhau bod 12 y cant o'u heiddo preifat gwag yn cael...

11. Dadl Plaid Cymru: Darllediadau Gemau Rygbi'r Chwe Gwlad (11 Maw 2020)

David Melding: Credaf fod hon yn ddadl bwysig, a byddwn ni yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig yn frwd. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Jackson, y newyddiadurwr uchel ei barch a ysgrifennodd am y stori hon gyntaf, yn The Rugby Paper—nid yw'n deitl gwreiddiol iawn, ond roedd yn stori bwysig iawn. [Torri ar draws.] Ac mae'n bapur da, yn wir. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yma...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (17 Maw 2020)

David Melding: A gaf i groesawu eich datganiad, yn enwedig yr addewid i gyflwyno rhagor o fanylion am sut y caiff y rhai sy'n cysgu allan eu helpu? Mae'n rhaid mai nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae hyn yn ychwanegu ofn a diflastod mawr, o bosib, at eu sefyllfa ac mae'n briodol ein bod ni'n sicrhau y gallwn ni ddarparu cymaint o adnoddau â phosib i'r grŵp hwnnw o bobl. Dim ond un...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysgu Hanes Cymru (18 Maw 2020)

David Melding: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes Cymru mewn ysgolion? OAQ55267

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysgu Hanes Cymru (18 Maw 2020)

David Melding: Weinidog, mae hwnnw'n ateb calonogol. Ac ar hyn o bryd, pan fyddwn yn ymdrin â'r coronafeirws, credaf ei bod yn bwysig sylweddoli y gall digwyddiadau hanesyddol fod yn addysgiadol, fel epidemig ffliw Sbaen, a elwid yn 'Ffliw Sbaen' am nad oedd Sbaen o dan gyfyngiadau newyddiadurol, gan nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhyfel byd cyntaf. A chlywais yr Athro Syr Deian Hopkin yn dweud ar raglen...

4. & 5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ( 8 Ebr 2020)

David Melding: Diolch, mae'n ddrwg gennyf. Roedd 'unmuted' yn fflachio ar fy sgrin. Mae hwn yn fesur cyfansoddiadol pwysig iawn. Rydym ni wedi clywed bod y broses o wneud hyn wedi cymryd chwe blynedd. Mae'n amser hir i'r Llywodraeth gael ei blaenoriaethau at ei gilydd ac yn awr rydym am weld, mae'n ymddangos, proses ddeddfwriaethol wedi ei chwtogi yn helaeth, er gwaethaf y ffaith fod y tri phwyllgor a...

4. & 5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ( 8 Ebr 2020)

David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod hwn yn Fil eithaf uchelgeisiol, ac mae agweddau arno yr wyf yn eu ffafrio'n fawr. Byddwn wedi mwynhau'r cyfle i geisio gweithio mewn gwirionedd yng nghyflawnder y cyfnod deddfwriaethol gan ymgynghori'n briodol—clywsom John Griffiths yn dweud na allai llawer o randdeiliaid ymwneud ag ef yn briodol yn yr amser a roddwyd. Ond, rwy'n credu bod yna Fil...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

David Melding: Gweinidog, mae'r gyfradd heintio sy'n cael ei hadnabod fel 'R' yn is nag 1 oherwydd y cyfyngiadau symud a'r rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y mae'n aros yn is nag 1—ac yn yr Almaen rydym ni eisoes yn gweld hynny'n her enfawr—yw os gallwn ni brofi ac olrhain yn helaeth. Ond rydym ni'n dal yn eithaf amwys ynglŷn â sut beth fydd y system...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

David Melding: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hefyd am y dull gweithredu agored iawn y mae wedi ei ddefnyddio i graffu a threfnu cyfarfodydd â llefarwyr, a oedd yn werthfawr iawn i mi? Rwy'n credu y dylid llongyfarch y Llywodraeth am weithredu yn gyflym ar y mater o bobl sy'n cysgu ar y stryd, ac nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer o adnoddau ac arbenigedd technegol, yn fy marn i, gan...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

David Melding: Dyna fy nghwestiwn cyntaf. Diolch i chi, Llywydd.

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

David Melding: Ac, yn ail, hoffwn i wybod pa gyngor a chymorth sy'n cael eu rhoi i ganiatáu i adeiladwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, weithredu gyda phellterau cymdeithasol priodol, er mwyn gallu ymgymryd â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol yn arbennig? Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn cynnal pobl gartref, ac mae'n amlwg bod llawer o waith adeiladu hanfodol wedi ei ohirio. A pha fesurau...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Effaith ar Brifysgolion yng Nghymru (20 Mai 2020)

David Melding: Weinidog, mae yna elfen arbennig o greulon yn perthyn i'r rhan hon o'r canlyniadau COVID-19, sef mai'r prifysgolion mwyaf llwyddiannus a seiliedig ar ymchwil yw'r rhai mwyaf agored i niwed am eu bod yn dibynnu cymaint ar batrymau economaidd rhyngwladol sy'n sail i lawer o'u hymchwil, a'u cyfleoedd allan yno gyda phartneriaid byd-eang. Ond maent hefyd yn denu llawer o fyfyrwyr tramor. Mae'r...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) ( 3 Meh 2020)

David Melding: Gweinidog, rwyf wedi dioddef crawniad deintyddol yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedir wrthyf bod posibilrwydd cryf y gallai ddychwelyd; mae'n digwydd yn aml ar ôl i bobl gael y gwrthfiotigau. Nid mater brys mohono, felly ni allaf ond byw mewn gobaith. Felly, mae'r ffaith na chaiff ei drin yn briodol tan fis Ionawr 2021 yn amlwg yn effeithio'n uniongyrchol arnaf, ond mae llawer o gleifion a...

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd ( 3 Meh 2020)

David Melding: A gaf i ddechrau trwy gofnodi gwerthfawrogiad Plaid y Ceidwadwyr Cymreig o'r cynnydd a wnaed wrth roi terfyn, i bob pwrpas, ar gysgu ar y stryd? Rydym ni'n falch y bu hyn yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, gydag 800 o bobl wedi eu symud i lety dros dro erbyn hyn. Byddai llawer ohonyn nhw wedi bod ar y stryd. Ac rwy'n sylwi hefyd bod cynnydd tebyg wedi ei wneud yn Lloegr. Rwyf yn gwneud y sylw...

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd ( 3 Meh 2020)

David Melding: Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru y mae'r arolwg, a gafodd 500 o ymatebion rwy'n credu—roedd yn nifer eithaf uchel. Ond yn sicr gallaf i roi'r cyfeiriad hwnnw i chi. Tybed a gaf i egluro'r sefyllfa o ran gwariant, ac rwy'n gwneud hyn yn syml er mwyn i ni allu ei deall yn llawn. Nid wyf i'n amau o gwbl na fydd yr adnoddau yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.