David Melding: A gaf fi ddechrau, Weinidog, drwy gadarnhau ar ran Plaid Geidwadol Cymru fod bywydau pobl dduon yn bwysig? Rwy'n gobeithio y gwelir marwolaeth greulon George Floyd yn y dyfodol fel moment dyngedfennol, pan ddigwyddodd rhywbeth, nid yn unig yn yr Unol Daleithiau ond ym mhob cwr o'r byd, yn enwedig yn ein hachos ni yng Nghymru ac yn y DU, pan wnaethom archwilio ein hanes ein hunain ac yn...
David Melding: Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod strategaeth dwristiaeth gydlynol ac uchelgeisiol yn galw hefyd am weithredu mewn partneriaeth â gweddill y DU? Ac er bod yr hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru yn bwysig iawn, mae angen iddo fod yn gysylltiedig â materion ehangach hefyd—rydych chi eisoes wedi sôn am y cynllun ffyrlo. Rwy'n gobeithio y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, pan fydd yn...
David Melding: Rwy'n credu bod hon yn ffordd resymol o fynd ati. Mae'n bwysig fod hyblygrwydd yn cael ei gynnal drwy gyfnod moratoriwm, fod modd ei roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd mewn trafferthion ariannol—yn amlwg, fel y mae'r Gweinidog newydd egluro, roedd hynny'n rhywbeth a oedd ar gael, ac sydd ar gael, yn wir, o dan y ddeddfwriaeth tai gyfredol—ac er mwyn i Weinidogion Cymru...
David Melding: Llywydd, rydym ni wedi clywed bod ein cyfaill annwyl, Oscar, yn ymwneud â bywyd cyhoeddus yn ei ffordd ddihafal ei hun, a bod ganddo allu anhygoel i fyw gyda pharadocs gwleidyddol. Ac yn anad dim, roedd yn ddyn hael. Rydym ni wedi clywed cymaint o deyrngedau i'w haelioni. Yn wir, mae arnaf ofn bod stoc ein harlwywyr ar y farchnad stoc yn debygol o lithro oni bai eu bod yn cael pencampwr o...
David Melding: 1. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws? OQ55337
David Melding: Brif Weinidog, credaf fod hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Nawr, rwy'n deall bod naw sefydliad newyddion cymunedol wedi derbyn grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac rydych chi wedi sôn am rôl caffael mewn hysbysebu a darparu gwybodaeth gyhoeddus. Credaf hefyd y gallai awdurdodau lleol wneud llawer yn y maes hwn. Mae'n wasanaeth gwirioneddol hanfodol, fel y dywedoch chi, ac mae'n rhaid...
David Melding: Lywydd, a gaf fi nodi fy mod yn swyddog yn Urdd Sant Ioan? Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod St John Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth cyntaf ers canrif. Mae'n olygfa gyfarwydd iawn yn ein digwyddiadau cenedlaethol, ac fel llawer o sefydliadau gwirfoddol mawr eraill, mae wedi dangos cryfder rhyfeddol dros y blynyddoedd hynny, ond...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae topograffi cymoedd Morgannwg a Gwent bob amser wedi golygu eu bod yn agored iawn i lifogydd, fflachlifoedd yn aml, ac mae'r system gynllunio, felly, yn bwysig tu hwnt wrth adeiladu gallu i wrthsefyll llifogydd. Nid yw rhai o'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r wlad, fel byndio, yn ymarferol. Mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif...
David Melding: Rwy'n falch iawn o nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y maes yng Nghymru, ac yn wir, yn Lloegr. Nawr, yn Lloegr, ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £105 miliwn o arian ychwanegol ar gael, y rhan fwyaf ohono'n arian newydd, fel y gellir ymestyn y cynllun i helpu'r rhai sy'n cysgu allan. Ac mae'r BBC wedi adrodd y bydd swm canlyniadol yn deillio o'r penderfyniad hwn yn Lloegr, lle maent...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei holl waith fel Cadeirydd dros dro ac anfon fy nymuniadau da at Bethan? Nid wyf yn meddwl ei fod yn adlewyrchiad ar waith Helen ar hyn o bryd y byddwn yn croesawu dychweliad Bethan hefyd, ond yn y cyfamser, mae'r arweiniad a roddodd Helen i'r pwyllgor wedi bod yn allweddol i ni allu parhau â'n gwaith a chynhyrchu adroddiad...
David Melding: A gaf fi wneud pwynt o drefn?
David Melding: Mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae llawer o rannau symudol yma. [Chwerthin.] Ond ein traddodiad fel arfer yw pleidleisio ar gynigion y gwrthbleidiau heb eu diwygio yn gyntaf. Os gwrthodir y cynnig hwnnw, byddwn yn pleidleisio wedyn ar y gwelliannau i'r cynnig.
David Melding: Dirprwy Weinidog, yn ogystal â darlledwyr mawr y sector cyhoeddus, mae llu o orsafoedd radio cymunedol a lleol a rhanbarthol ledled Cymru, ac rydym ni wedi gweld yn ystod y pandemig y rhan hanfodol y maen nhw'n ei chwarae, o ran codi calon pobl yn lleol, a hefyd fel ffynhonnell newyddion. A ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ni gydnabod eu cyfraniad, efallai drwy gaffael a hysbysebu a...
David Melding: Gweinidog, sylwaf fod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi neilltuo llawer o'i hadroddiad yn ddiweddar i sôn am dai, gan grybwyll bod llai na hanner y cartrefi newydd y mae angen inni eu hadeiladu bob blwyddyn yn cael eu codi ar hyn o bryd, a bod allyriadau'r sector tai, er bod gostyngiad o bron i draean ers 1990, wedi arafu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae'n...
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i alwadau gan Barnardo's Cymru ac Action for Children Cymru am gymorth iechyd meddwl a chymorth emosiynol ychwanegol i blant sy'n agored i niwed wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol?
David Melding: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i chi, yn bersonol, a'r Comisiwn hefyd am ganiatáu inni gael y datganiad hwn heddiw, sy'n briodol iawn yn fy marn i nodi pum mlynedd ar hugain ers y digwyddiad? Fel y dywedoch chi, roedd yn anrhydedd i mi arwain dirprwyaeth o’r Comisiwn yn 2015. Gwelwyd digwyddiad mawr yn y flwyddyn honno hefyd—digwyddiad cenedlaethol Cymru y flwyddyn honno—yn y Senedd,...
David Melding: Brif Weinidog, sylwaf fod Sefydliad Iechyd y Byd yn debygol o addasu ei gyngor ar yr effaith cwmwl a gynhyrchir drwy anadlu ac y gall y gronynnau bach iawn sy'n cael eu cynhyrchu felly hongian yn yr awyr am oriau, ac maent yn arbennig o dueddol o wneud hynny mewn mannau bach fel toiledau lle ceir sychwyr dwylo, er enghraifft. A allwch chi ein sicrhau, wrth inni gael mwy o wybodaeth wyddonol...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gallu fy ngalw. Drefnydd, a gaf fi alw am ddadl yn amser y Llywodraeth ar adolygiad Cumberlege, a gyhoeddir heddiw o dan y teitl 'First Do No Harm'? Rwy'n atgoffa'r Aelodau ei fod yn ymwneud â defnyddio triniaethau meddygol a mewnblaniadau amrywiol, fel mewnblaniadau rhwyll. Ac er ei fod wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth y DU, roedd...
David Melding: Wel, wrth gwrs, Ddirprwy Weinidog, gallech wario mwy nag y maent am ei wario yn Lloegr—onid yw’r dewis yn mynd i fyny ac i lawr? Ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cymorth hynod sylweddol hwn a fydd yn dod yn awr i sector y celfyddydau yn Lloegr, ac a fydd felly'n arwain at swm enfawr o gyllid canlyniadol—tua £59 miliwn—i Gymru yn cael ei wario mewn ffordd fentrus a strategol....
David Melding: A gaf fi gymeradwyo'r adroddiad hwn? Rwy'n credu ei fod yn ddarn da iawn o waith ac mae'n cyflwyno chwe argymhelliad cydlynol a chysylltiedig, ac rydym yn trafod hyn ar y diwrnod y mae gemau prawf criced yn dechrau eto. Nid wyf yn siŵr a fu yna chwarae'n bosibl yn Southampton heddiw, wrth i fis Gorffennaf barhau i esgus ei bod yn fis Hydref, ond mae gweld India'r Gorllewin eto—ac mae...