Huw Irranca-Davies: Weinidog, tybed a wnewch chi ildio ar hynny.
Huw Irranca-Davies: Weinidog, fe wyddoch fod grŵp cydweithredol y Senedd, mewn gwirionedd, wedi cynhyrchu adroddiad ar hyn o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn wir, roedd yn cefnogi'n fawr y dull cydweithredol ar lawr gwlad o ddatblygu rhwydwaith bwyd cryfach, lle ceid rhwydweithiau bwyd lleol yn wir, lle gallai cynhyrchwyr sylfaenol, yn ogystal â chynhyrchwyr cydweithredol, a sefydliadau ar lawr gwlad, fod...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, byddaf yn nodi'r angen dybryd i gynhyrchu cynllun a ariennir ar y cyd ac a gefnogir gan y Llywodraeth i unioni gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin allanol a rhywfaint o gladin waliau mewnol mewn cartrefi yng Nghaerau yn fy etholaeth o dan raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/Arbed 1, ac i wneud iawn am y difrod a wnaed i gartrefi a bywydau pobl....
Huw Irranca-Davies: Amlygodd yr adroddiad fod gan Gymru rai o'r tai hynaf a lleiaf effeithlon yng ngorllewin Ewrop, a bod tua un o bob wyth o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd. Nododd ymhellach fod Cyngor ar Bopeth yn nodi bod mwy na 66,000 o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi gyda'u biliau ynni ers dechrau'r pandemig, a bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn dyled ynni. Roedd yr adroddiad hefyd...
Huw Irranca-Davies: Felly, Weinidog, nod canllawiau Llywodraeth Cymru y cyfeiriaf atynt yw cywiro camgymeriadau blaenorol drwy gryfhau'r canllawiau ar ddefnyddio a chomisiynu mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni. Maent i'w croesawu'n fawr iawn. Ond mae yna gydnabyddiaeth ddealledig fod pethau wedi bod yn mynd o chwith, hyd yn oed os yw'r rhan fwyaf o osodiadau ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid yw'n...
Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, roeddwn am roi cyfle, cyn ichi orffen, ichi nodi pa fath o amserlen y gallem fod yn edrych arni mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau terfynol ar y gyllideb, pa ffordd bynnag y byddant yn mynd, a chan obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud ei dyletswydd ar hyn, ond amserlen fras hefyd—gwn na all osod dyddiad absoliwt—o ba bryd y gallai fod yn debygol o...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw, a byddaf i'n cefnogi'r rhain. Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd, ond mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd eu bod yn fesurau dros dro ond brys, a'u diben, yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd, yn wir, yw ceisio cadw busnesau ar agor hefyd gyda chyn lleied o fesurau â phosibl a fydd yn diogelu iechyd cyhoeddus nid yn unig eu cwsmeriaid, ond eu...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n gwerthfawrogi yn wirioneddol y pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Russell fod y rhain, weithiau, yn benderfyniadau gofalus iawn a'u bod yn cael eu cymryd yn rhan o ystod o fesurau. Ond fy mhwynt i yn syml fyddai, Russell a'r Gweinidog, os yw'n benderfyniad gofalus, y dylid arfer y gofal hwnnw felly er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd, ac osgoi'r hyn yr ydym yn ei weld yn digwydd yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethon ni adrodd ar y memorandwm yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon ni hefyd adrodd ar Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021, sydd hefyd yn berthnasol i'r ddadl y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Diolch, i ddechrau, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, a'n tîm clercio hefyd, am eu diwydrwydd a'u gwaith craffu. Efallai nad oes llawer ohonom ni, ond rydym ni'n gadarn yn ein trafodaethau. Llywydd, roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd, yn ein barn ni, wedi ei ddrafftio'n wael. Roedd y Bil a gyflwynwyd yn wreiddiol i Senedd y DU, yn wir, yn Fil ar gyfer Lloegr yn unig, ac rydym ar...
Huw Irranca-Davies: Llywydd, diolch yn fawr iawn. Ymyriad byr, Gweinidog. Byddwn yn gwirio'r cofnodion gohebiaeth a pha un a yw'r cwestiynau wedi eu hateb ai peidio, a byddwn yn cysylltu â chi. Os yw'n gamgymeriad ar ein rhan ni, byddwn yn derbyn yr ergyd heb gwyno, ond rydym ni'n awyddus i wirio hynny a dod yn ôl fel bod y cofnod yn gywir. Ond rydym yn cymryd y pwyntiau y mae'r Gweinidog wedi eu gwneud, a,...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Fe wnaethon ni ystyried memoranda Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Lluoedd Arfog ym mis Medi. Wrth wneud hynny, nodwyd bod ein pwyllgor blaenorol yn y bumed Senedd wedi bod yn craffu ar y Bil. Daeth ein hadroddiad i ddau gasgliad a gwnaeth un argymhelliad, ac rwy’n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Unwaith eto, diolch i fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor a'n clercod a'r tîm cymorth am eu gwaith ar hyn hefyd. Nawr, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei nodi, mae cymal 8 o'r Bil yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â chyfamod y lluoedd arfog drwy ddiwygio Deddf y Lluoedd Arfog 2016, ac fe wnaethom nodi asesiad Llywodraeth Cymru bod cymal 8 o'r Bil yn gofyn am gydsyniad y Senedd. Roeddem yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein pwyllgor yn croesawu’r ddadl heddiw ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drefnu dadleuon ar adroddiadau blynyddol yn y dyfodol gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Edrychwn ymlaen at weld y ddadl hon yn rhan arferol o fusnes y Senedd.
Huw Irranca-Davies: Dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gen i heddiw, ond rwyf i'n ymuno â'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol yn ei sylwadau a gofnodwyd ynghylch Syr Wyn, a hefyd gwaith Syr Wyn yn y dyfodol. Rwy'n credu ein bod ni wedi ein bendithio o fod â phobl fel fe, o'i safon ef, i arwain rhywfaint o'r gwaith hwn yng Nghymru. Ar 1 Tachwedd, fel y dywedodd y Gweinidog, daeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru,...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi groesawu sylwadau agoriadol y Gweinidog mewn ymateb i gwestiwn Russell ar drais yn erbyn menywod, ac yn enwedig, a hithau'n Wythnos Rhuban Gwyn, yr angen i ddynion hefyd godi llais yn erbyn trais yn erbyn menywod—rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd holl Aelodau'r Senedd yma yn awyddus i'w wneud—a chymeradwyo'r gwaith a wnaed gan ymgyrchwyr ar y tu allan, ond hefyd, o fewn y...
Huw Irranca-Davies: 3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach i dyfu yn Ogwr? OQ57300
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dros y mis cyfan hwn, yn y cyfnod cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach, rwyf i a fy nghyd-Aelod da Chris Elmore AS wedi bod yn arddangos dwsinau ar ddwsinau ar ddwsinau o fusnesau anhygoel ac amrywiol ym meysydd gweithgynhyrchu, adeiladu, gwasanaethau proffesiynol, manwerthwyr ar y stryd fawr a mwy ar hyd a lled etholaeth Ogwr. Rydym ni wedi bod yn annog pobl i...
Huw Irranca-Davies: Dim ond ychydig o sylwadau byr wrth groesawu'r datganiad heddiw, a chydnabod hefyd fod llawer yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a chan asiantaethau eraill wrth i ni siarad i ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion niferus yr adroddiad 'Drws ar Glo'. Ond mae hynny'n ganolog i'r hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog. Yn y gwaith y mae hi'n ei wneud a'r gwaith y mae'r tasglu...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Dydd Sadwrn Busnesau Bach—fel y nodwyd eisoes, dylem fod yn dathlu'r gorau o'n busnesau nid yn unig ar un dydd Sadwrn y flwyddyn, ond drwy gydol y flwyddyn, ac yn annog pobl i ddefnyddio eu busnesau bach amrywiol a di-rif ar bob diwrnod o'r flwyddyn. Ond mae hyn yn rhoi cyfle, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, i atgoffa...