Huw Irranca-Davies: Iawn, rwy'n dod at y diwedd. Roedd yn un o lawer. Dosbarthodd fwy na 2,300 o brydau bwyd yn ystod ton gyntaf y pandemig, gyda chymorth clwb rygbi'r Gilfach Goch a'r gymuned leol, i bobl agored i niwed a'r henoed. Weinidog, rwyf am ddweud yn syml: gadewch inni ddathlu'r busnesau hyn, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n siarad i gefnogi'r prif gynnig, sy'n cefnogi'r hawl i fwyd. Nodwyd yr hawl i fwyd yng nghyfamod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 1976, ac mae'n dweud: 'Gwireddir yr hawl i fwyd digonol pan fydd gan bob dyn, menyw a phlentyn, ar ei ben ei hun neu yn y gymuned gydag eraill, fynediad ffisegol...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio ar hynny?
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi egluro i mi, sydd wedi gweld y cynnydd yn nifer y banciau bwyd—? Ac rwy'n bendant yn cymeradwyo'r gwirfoddolwyr a'r bobl sy'n cyfrannu atynt. Ond a allech egluro i mi a fy etholwyr pam y mae'r adegau hynny o argyfwng wedi cynyddu y tu hwnt i bob rheswm ers 2010?
Huw Irranca-Davies: Dywedwch wrthym. Dywedwch pam.
Huw Irranca-Davies: Twf y boblogaeth? [Aelodau o'r Senedd: 'O.'] Anghredadwy.
Huw Irranca-Davies: 5. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael ag anfantais iechyd, cymdeithasol ac economaidd strwythurol mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd acíwt a lluosog? OQ57355
Huw Irranca-Davies: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cydnabod mai nofio yn erbyn y llanw yw hyn, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud gyda rhaglen Llywodraeth Cymru hefyd sy'n buddsoddi'n weithredol yn y cymunedau hyn. Gwn mai lleoedd fel Caerau, cymunedau gwych fel Caerau yn fy etholaeth i, oedd y cyntaf i weld buddsoddiad Dechrau'n Deg. Cawsom y buddsoddiad mewn gofal plant i deuluoedd sy'n gweithio mewn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd a diolch, Gweinidog. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn.
Huw Irranca-Davies: Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd Aelodau bellach yn eu cydnabod fel pwyntiau rhagoriaeth eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol a diffyg ymgynghori ffurfiol. Mae ein trydydd pwynt adrodd rhagoriaeth yn nodi nad yw'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau yn cyfeirio at asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Gofynnwyd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau ar y memorandwm cyntaf, a'r memorandwm atodol, memorandwm Rhif. 2, yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, nid oedd digon o amser i ni ystyried memorandwm Rhif. 3 ac adrodd arno.
Huw Irranca-Davies: Byddai'n well i mi nodi ar ddechrau hyn fy mod weithiau'n teimlo fel Jeremiah deddfol a chyfansoddiadol, ond rydym eisiau ei gwneud hi'n glir fel pwyllgor mai ein bwriad yw nid yn unig dangos lle mae gennym ni bryderon, ond hefyd, tynnu sylw'n adeiladol at feysydd a allai helpu i osgoi'r heriau rheolaidd hyn gan y pwyllgor, mae rhai ohonyn nhw bellach yn dilyn patrwm clir a rhagweladwy....
Huw Irranca-Davies: 1. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i alluogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fuddsoddi'n weithredol mewn cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd? OQ57354
Huw Irranca-Davies: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau effaith llygredd amaethyddol ar ansawdd afonydd a dyfrffyrdd Cymru?
Huw Irranca-Davies: Weinidog, rwy'n croesawu eich ymateb cychwynnol yn fawr. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. Ond un o'r pethau diddorol, wrth ystyried yr agwedd hon o gael cyfran mewn cynhyrchiant ynni ac effeithlonrwydd ynni, yw y byddwch yn aml yn gweld—a byddwn yn cefnogi hyn fel aelod cydweithredol—y syniad o fodelau cyfranddaliadau, lle gallech...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n siarad heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n cyfrannu yn y ddadl hon oherwydd cyfrifoldebau fy mhwyllgor wrth gyflwyno adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi cael eu cyfeirio atom ni gan y Pwyllgor Busnes.
Huw Irranca-Davies: Gadewch imi gydnabod i gychwyn nad yw pob memorandwm, neu LCM, yr un peth. Bydd rhai yn ymwneud â meysydd lle gallai fod rhesymau digonol a phriodol, yn wir, dros ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Gydag eraill, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth bresennol y DU yn ceisio deddfu ac wedi bod yn ceisio deddfu mewn meysydd datganoledig yn groes i ddymuniadau...
Huw Irranca-Davies: Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddwn yn parhau’n gadarn i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynghylch ei defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, a hynny er mwyn nid yn unig arferion cyfansoddiadol da, ond hefyd, democratiaeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Nid yw'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i adnewyddu ar gyfer y chweched Senedd, mor sych nag mor arbenigol ag y mae ei deitl yn awgrymu. Mae'n gytundeb pwysig sy'n berthnasol i bob un o bwyllgorau'r Senedd ac yn gymwys i holl Weinidogion Cymru.
Huw Irranca-Davies: Er bod fy mhwyllgor, gan adeiladu ar waith y pwyllgor a'i rhagflaenodd, wedi arwain ar hyn, mae'r cytundeb yn cynrychioli'r safbwynt y cytunwyd arno ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Senedd gyfan mewn perthynas â chyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol, y cytundebau, y concordatau, a'r memoranda...