David Melding: Yn ail: 'Rwy'n chwilfrydig pam nad yw hi'—sef y Gweinidog—yn ymddangos fel pe bai ganddi ddiddordeb yn y 450 o aelwydydd yng nghymdogaeth y Senedd'. Rwy'n deall hynny. Mae ychydig yn llym, ond rwy'n deall y teimlad hwnnw. Trydydd dyfyniad: 'Mae bron yn sicr na fydd pob lesddeiliad yn gallu fforddio talu am yr atgyweiriadau angenrheidiol, yn enwedig gan nad oes modd rhoi'r fflatiau dan...
David Melding: Trown at Gymru yn awr. Creodd cyhoeddiad y Canghellor ar gyfer Lloegr tua £58 miliwn o arian canlyniadol i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, fel y mae ganddi hawl i wneud, defnyddio'r cyllid canlyniadol hwn at ddibenion eraill. Wrth ateb fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 12 Awst, dywedodd y Gweinidog: 'Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflawni...
David Melding: Pa fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn digwydd mewn ysgolion?
David Melding: Weinidog, dyma un o'r symiau mwyaf sylweddol o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru eu cael yn y bumed Senedd, ac er y gallaf dderbyn efallai nad oedd angen y £58 miliwn i gyd arnoch, gan fod gennym batrwm gwahanol i Loegr, mae angen cyfran sylweddol ohono. Wrth i chi betruso, ac a dweud y gwir, wrth i chi ddargyfeirio pryderon lesddeiliaid tuag at ryw fath o gynllun hirdymor i wella'r...
David Melding: Weinidog, gall ail gartrefi fod yn rhan bwysig o gynnal yr economi leol, ond mae cydbwysedd bregus iawn i'w daro, a chredaf fod rhan o'r ateb yn ymwneud ag adeiladu mwy—mwy o dai cymdeithasol, nad ydynt yn creu'r broblem hon, ond hefyd, mae'n agored i gynghorau, wrth ddatblygu tir, ei gyfamodi i farchnad leol. Ar gyfer adeiladau newydd, ymddengys i mi y gallai hynny fod yn ddatblygiad...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf ddilyn yr araith honno gan Jenny Rathbone, oherwydd rwy'n falch o ddweud fy mod yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd. Cefais bleser mawr a dysgu llawer yn ystod fy amser yno, rhwng 1981 a 1984, ac rwy'n falch o ddweud bod y brifysgol, ers i mi adael, wedi ffynnu—wedi parhau i ffynnu yw'r hyn y bwriadwn ei ddweud. Fel yr amlinellodd Jenny, mae bellach...
David Melding: Rwy'n galw am drefn. Mae'r Senedd yn eistedd unwaith eto.
David Melding: Eitem 7 yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Gronfa Cadernid Economaidd—Cam3. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Ken Skates.
David Melding: Nawr, mae gennyf i bump o Aelodau Llafur ac un Aelod arall o wrthblaid sy'n dymuno gwneud cyfraniad, felly arhoswch funud, os gwelwch chi'n dda. Rwy'n bwriadu galw ar bob un ohonoch chi, mae hwn yn ddatganiad pwysig, ond mae'n gyfyng arnom o ran amser y prynhawn yma hefyd. Dawn Bowden.
David Melding: Jenny Rathbone.
David Melding: Gweinidog, rwy'n sylweddoli na chlywodd yr Aelod fi'n ei hatal ar ôl 1 munud a 30 eiliad—
David Melding: —felly ymddiheuraf i'r Aelodau eraill, ond roeddwn yn ceisio dweud bod y cyfraniad hwnnw'n rhy hir, yn enwedig y pwynt olaf a wnaed. Ond, Gweinidog, atebwch mor gryno â phosibl.
David Melding: Ac i orffen y datganiad hwn, un cwestiwn olaf—Mick Antoniw.
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
David Melding: Symudwn yn awr at eitem 8, sy'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ar ganol trefi—diogelu eu dyfodol. Hannah Blythyn.
David Melding: Diolch, Alun. Mae amser yn mynd yn brin. Gweinidog.
David Melding: Ac ar gyfer y cwestiwn olaf, unwaith eto, Mick Antoniw.
David Melding: Diolch, Dirprwy Weinidog.
David Melding: Gohirwyd eitem 9, y datganiad ar wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, tan 13 Hydref.
David Melding: Gohiriwyd eitem 10, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd, tan 6 Hydref.