Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Fel y gŵyr, bydd y cyswllt rheilffordd Reading i Heathrow yn gwella mynediad at Faes Awyr Heathrow yn enfawr i deithwyr hamdden a busnes o dde Cymru a de-orllewin Lloegr, a gorllewin canolbarth Lloegr a llawer o ardaloedd eraill. Bydd yn lleihau amseroedd teithio i lawr i tua 26 munud, yn lleihau carbon, ac yn cludo mwy o bobl ar reilffyrdd ac oddi...
Huw Irranca-Davies: Bydd yr Ysgrifennydd busnes yn gwybod fy mod wedi cynnal digwyddiad heddiw yn adeilad y Pierhead, yn agos at fan hon, yn ein Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dynnodd sylw at y gostyngiad tra sylweddol mewn rhywogaethau a chynefinoedd yn fyd-eang. Cafwyd cydnabyddiaeth, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y digwyddiad hwnnw o'r camau da y mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru...
Huw Irranca-Davies: Mae'n ymddangos i mi, ar ddydd Mawrth tawel yn y cyfnod cyn y Nadolig tua 05:05, bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sefyll ar ei draed yn y Siambr mewn ffordd bwyllog a thawel iawn a dweud rhywbeth a oedd yn dipyn o garreg filltir o ran deddfwrfeydd o fewn y DU ac yn rhyngwladol, ac rwy’n ei gymeradwyo am wneud hynny. Mae wedi rhoi ei sylwadau ymlaen mewn ffordd bwyllog iawn, mewn ffordd dawel...
Huw Irranca-Davies: 10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog sy'n goruchwylio Tasglu'r Cymoedd ar adfywio cymunedau yn y cymoedd? OAQ(5)0078(CC)
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Living Planet 2016?
Huw Irranca-Davies: Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, cafodd llawer o fy etholwyr, yn enwedig y rhai ym Maesteg, eu heffeithio gan y llifogydd sydyn yn ddiweddar. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae llawer ohonynt wedi gorfod gadael eu cartrefi, yn aros gyda pherthnasau, gyda theulu, eu heiddo wedi’i gludo ymaith mewn sgipiau, ac mae eu tai yn sychu. Gallai rhai ohonynt fod allan o’u cartrefi am...
Huw Irranca-Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad Taylor o gyfiawnder ieuenctid yn ddiweddar, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd rhagor o ddylanwad dros gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru drwy’r pwerau sydd gennym eisoes mewn perthynas â phlant sy’n agored i niwed? Felly, er enghraifft, cynigiodd y Llywodraeth ddiwethaf y...
Huw Irranca-Davies: Yn ein trefi yng Nghymoedd de Cymru, gwnaed ymdrechion aruthrol a pharhaus dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio, yn economaidd ac yn gymdeithasol, y cymunedau a ddinistriwyd yn y blynyddoedd wedi’r—. [Torri ar draws]
Huw Irranca-Davies: Rwy’n ymddiheuro, rwy’n ymddiheuro. [Torri ar draws]. Rwy’n gwybod—saith mis. Byddaf yn arfer â hyn. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac efallai y bydd ganddo rywfaint o syniad i ble rwy’n mynd gyda’r cwestiwn hwn. [Chwerthin.] Yn ein trefi yng Nghymoedd de Cymru, gwnaed ymdrechion aruthrol a pharhaus dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio, yn economaidd ac yn gymdeithasol, y cymunedau a ddinistriwyd yn y blynyddoedd wedi i’r pyllau glo gau, ac mae’r ymdrechion hynny’n parhau. Ond...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf o ddifrif yn chwilio am eglurhad fel Aelod newydd yn y Cynulliad hwn. Rwy’n edrych am eglurhad—ac nid yw’r llyfr rheolau gennyf o fy mlaen—ynglŷn â’r rhan berthnasol o’r Rheolau Sefydlog sy’n cyfeirio at gwestiynau brys, a beth sy’n cyfrif fel cwestiwn brys. Nid wyf yn dweud hynny er amarch i’r cwestiwn a glywsom yn awr ond ymddengys nad yw...
Huw Irranca-Davies: 4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi’u cael ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y pedwerydd Cynulliad, ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’? OAQ(5)0347(FM)
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn gwybod bod blwyddyn newydd yn aml yn amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ef a'r Ysgrifennydd Cabinet galluog iawn yn ymgymryd—yn addunedu—i weithio gyda'r Cynulliad a gweithio ar draws y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chymaint â phosibl o’r 19 o argymhellion hynny, a oedd yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 16 Rhagfyr ac, yn ogystal â gwneud rhai sylwadau cyffredinol, gwnaethom dri argymhelliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw wedi ymateb i'r argymhellion hynny ac, yn wir, fel y mae wedi ail-bwysleisio, mae wedi derbyn dau ohonynt. Felly, yng ngeiriau yr arbenigwr doeth hwnnw ar faterion...
Huw Irranca-Davies: Bydd papur newydd ‘The Sun’ yn gwneud yr hyn y mae papur newydd ‘The Sun’ yn ei wneud, os yw’n haeddu cael ei alw’n ‘bapur newydd’. Ond a gaf fi groesawu’r cwestiwn a ofynnwyd yn ogystal â’r ffordd gadarnhaol yr ymatebodd y Gweinidog? Ac er y byddai rhai o’r dde a’r chwith, sy’n cefnogi’r ymagwedd hon am wahanol resymau, yn dadlau na allwch dreialu hyn mewn...
Huw Irranca-Davies: Hoffwn ddiolch i Llyr am gyflwyno’r ddadl hon ac rwy’n cefnogi llawer o’r cyfranwyr eisoes sydd wedi siarad o blaid y cynnig. Nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd rhai o’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud eisoes, oherwydd credaf eu bod yn werth eu nodi’n bendant iawn. A gaf fi hefyd ddiolch yn fawr iawn i Brifysgol Caerdydd, Prifysgolion Cymru ac eraill am y deunydd briffio a ddarparwyd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am nodi ei grynodeb o'r sefyllfa yr ydym ynddi ac am ei argymhelliad ein bod yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw? Gadewch imi ddechrau â rhai materion syml o broses. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ynglŷn â Bil Cymru ar 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes ef...
Huw Irranca-Davies: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol posibl i Lywodraeth Cymru pe cynhelir adolygiad barnwrol o Adran 127 o gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd? OAQ(5)0018(CG)
Huw Irranca-Davies: Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Ac wrth gwrs, mae wedi tynnu ein sylw hefyd at faterion diweddar, gan gynnwys y cais diweddar am adolygiad barnwrol. Felly, a gaf fi ofyn, yn sgil hynny, a’i ateb, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu buddiannau pobl Cymru, gan gofio bod Prif Weinidog y DU wedi awgrymu na fyddai methu â sicrhau mynediad at y farchnad sengl...
Huw Irranca-Davies: Mae hyn yn galw i gof ymgais lawen Eric Pickles i ddychwelyd at gasgliadau bin wythnosol mewn gwirionedd, a methodd honno’n gywilyddus. A gaf fi ofyn a yw hi wedi ymgynghori, wrth fframio’r cynnig hwn, ag unrhyw sefydliadau o gwbl sy’n ymwneud ag ailgylchu a lleihau gwastraff? Neu a yw hi wedi ymgynghori ag unrhyw awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi gostwng lefel yr ailgylchu, ac os...