Canlyniadau 101–120 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Mark Reckless: Mae'r Aelod dros Dorfaen yn cymharu Brexit â chwymp Iwgoslafia. Ydy hi'n wir yn gwneud cymhariaeth â’r tywallt gwaed hwnnw a’r cannoedd o filoedd o farwolaethau? Pan mae hi'n siarad am gymdeithas sifil, onid yw hi'n ymwybodol fod y rhan fwyaf o'r gymdeithas wedi pleidleisio dros hyn?

8. 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Troseddol (13 Rha 2016)

Mark Reckless: Rwyf hefyd yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y mesur hwn. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei alwad ffôn ddoe yn egluro rhywfaint o gefndir hyn, er, wrth gwrs, rwyf i hefyd yn ymwybodol o'n gwaith ar y Pwyllgor Cyllid. Os nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried bod angen cael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, nodaf ei methiant i atal troseddau efadu trethi rhag...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol
(14 Rha 2016)

Mark Reckless: Yn ddiweddar, ymwelodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â phrosiect trydan dŵr cymunedol yng ngogledd Cymru, a chefais sgwrs bellach gydag Ofgem am y mater a godwyd, sef bod yn rhaid i gostau cysylltu â’r grid, lle nad oes digon o gapasiti yn yr ardal eisoes, gael eu talu gan y datblygwr yn gyffredinol, ond y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban ar gyfer ynni...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Mark Reckless: Oscar—cafodd hwyl arni y prynhawn yma. Wrth ymuno â’r ddadl hon, pan gawsom y datganiad PISA, mae’n debyg fy mod braidd yn swil o fod yn or-feirniadol oherwydd y ffordd y cafodd y datganiad ei fframio. Oedd, roedd y canlyniadau’n wael, oedd, roedd y duedd ar i lawr, ond roedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn a oedd yn dweud...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Mark Reckless: Mae ein polisi ar ysgolion gramadeg yn un o nifer o bolisïau. Credaf ei bod yn wirioneddol annerbyniol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adroddiad na fydd yn ei rannu fel amddiffyniad yn erbyn yr hyn sydd—rwy’n meddwl bod pawb yn cytuno—yn set hynod o anfoddhaol o ganlyniadau PISA. Sut y gallwn ymateb yn synhwyrol i’r datganiad, neu gymryd rhan yn y ddadl ar delerau teg gyda’r...

7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18 (10 Ion 2017)

Mark Reckless: Mae'n bleser cael dilyn Adam Price ac mae gen i ddiddordeb mawr ym mhersbectif a naws yr hyn a ddywed. Ymddengys i mi ei bod yn amlwg bod amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ei blaid ef, a'r rhai a oedd gynt yn rhan ohoni, o ran y graddau priodol o gydweithio â Llywodraeth Lafur a'r graddau y mae Plaid yn cymryd cyfrifoldeb am y gyllideb hon. Pan oeddem yn dechrau ar y broses, roeddwn i o leiaf...

7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18 (10 Ion 2017)

Mark Reckless: Rhoddodd yr Aelod enghraifft: dywedodd fod y cyllid pellach yn y dyfodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn un o'r gwobrau y byddai'n ei amddiffyn drwy'r broses hon. A dweud y gwir, mae rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd rhwng y gyllideb derfynol a'r gyllideb ddrafft, ond mae'r gyllideb gyffredinol, rwy’n credu, ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn dal i fod...

8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (10 Ion 2017)

Mark Reckless: Rwy'n credu ei bod yn wir dweud nad oes gan fy mhlaid i yr un frwdfrydedd a chyffro tuag at ddatganoli'r dreth gyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd ag Aelodau eraill efallai, yn enwedig ar ochr Plaid Cymru y Siambr, ond rydym yn parchu’r rhai sy'n gweld ac yn pwysleisio arwyddocâd hynny. Ar ein taith ein hunain tua’r cyfeiriad hwn, gwnaethom wrthwynebu y mesur o ddatganoli a aeth i...

8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (10 Ion 2017)

Mark Reckless: Rwy'n ddiolchgar. Hoffwn egluro ein bod ni i gyd yn erbyn osgoi talu trethi, ond eto yn amheus o fân newidiadau i ddeddfwriaeth a allai arwain at fwy o ansicrwydd biwrocrataidd a chyfreithiol, a dylem osgoi hynny. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod tawelu fy meddwl i i raddau helaeth o ran yr hyn y mae'n ei wneud, a bod yna gyfnerthu sylweddol a bod y gyfundrefn yn debygol o fod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Bargeinion Dinesig
(11 Ion 2017)

Mark Reckless: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyfrannu at Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0067(FLG)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(11 Ion 2017)

Mark Reckless: Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma nad oedd yn anochel y byddai pwerau codi treth incwm yn cael eu datganoli ac y byddai ei grŵp yn pwyso a mesur hynny dros y penwythnos ac yn penderfynu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddydd Llun. Tybed a allai fy helpu i ddatrys anghysondeb ymddangosiadol rhwng y datganiad hwnnw a’r fframwaith cyllidol a arwyddodd ar ran Llywodraeth Cymru,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(11 Ion 2017)

Mark Reckless: Ni chredaf y byddai David Gauke, Gweinidog y DU, yn arbennig o falch o glywed ateb Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod yntau, fel y gwnaethoch chi, wedi arwyddo datganiad sy’n dweud ‘bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys...yn y pen draw’ cyn mynd ati i restru gwahanol elfennau, sy’n cynnwys cyfraddau treth incwm Cymreig. Nid oes unrhyw gyfeiriad at gynllun wrth gefn neu amodau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(11 Ion 2017)

Mark Reckless: A gall yr Aelodau weld y datganiad clir hwnnw, fel y gall aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, ym mharagraff 14 yn y ddogfen honno. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf fy mod wedi camddeall y broses gyfan, a do, rwyf wedi dod at hyn â llygaid ffres. Ac efallai oherwydd hynny, bu’n rhaid i mi ddibynnu i raddau ar ddogfennau cyhoeddus ac ar sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Bargeinion Dinesig
(11 Ion 2017)

Mark Reckless: Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn cefnogi’r fargen ddinesig, gan ein bod yn credu y dylai datganoli ymestyn y tu hwnt i Fae Caerdydd. A gaf fi ofyn, lle y bo’r posibilrwydd o unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth y DU mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn â bargeinion dinesig, a oes perygl y gallai’r fframwaith cyllidol a’r cyllid gwaelodol, a fuasai fel arall yn ddefnyddiol,...

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd (11 Ion 2017)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd (11 Ion 2017)

Mark Reckless: A allai egluro y byddwn hefyd yn dod allan o’r undeb tollau?

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd (11 Ion 2017)

Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rwy’n llongyfarch arweinydd fy mhlaid ar agor y ddadl hon; diolch i Mark Isherwood am ei welliant; i Adam Price am ei un ef; a diolch Caroline Jones, Jeremy Miles, Gareth Bennett a’r Prif Weinidog am eu cyfraniadau i’r ddadl hon. Mae yna hefyd un cyfraniad eisteddog yr hoffwn ei ateb, ac rwy’n meddwl ei fod wedi dod gan Lee Waters, a ddywedodd ar un pwynt—os clywais...

8. 8. Dadl UKIP Cymru: Aelodaeth o'r Farchnad Sengl Ewropeaidd (11 Ion 2017)

Mark Reckless: Nid yw hyn yn hollol gywir. Nid yw’n sôn am aelodaeth o EFTA ac aelodaeth o’r AEE, mae’n dweud aelodaeth o EFTA a/neu’r AEE. Rwy’n credu y byddai fy mhlaid yn hapus iawn, yn wir yn frwdfrydig, dros aelodaeth o EFTA, ond nid aelodaeth o’r AEE. Mae’r gwelliant yn ddryslyd. Nid wyf yn meddwl bod gennym unrhyw broblemau gydag unrhyw ran arall ohono. A/neu’r AEE, iawn, rydym yn...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.