Caroline Jones: Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf erioed wedi’i wneud o’r blaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyflwyno’r cynnig ger eich bron heddiw i nodi ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac i gydnabod, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn parhau i fod ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Canser yr ysgyfaint yw’r canser sy’n...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am fod mor garedig â darparu briff i lefarwyr y gwrthbleidiau cyn cyflwyno'r Bil. Mae gan Gymru un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd, ond mae gennym hefyd ran o’r iechyd gwaelaf yn Ewrop, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i ymdrin â hyn. Mae UKIP yn croesawu cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac edrychwn ymlaen at weithio...
Caroline Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru?
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, roedd 108 o farwolaethau o C. difficile a 22 o farwolaethau o MRSA yng Nghymru y llynedd. Er bod camau mawr wedi’u gwneud i wella’r broses o reoli heintiau a bod ymgyrchoedd golchi dwylo wedi bod yn llwyddiannus, mae gennym broblem o hyd gyda glendid cyfleusterau ysbyty. Rwy’n derbyn yn llwyr na allwn sicrhau glendid 100 y cant mewn ysbyty gweithredol. Fodd...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros ar bwnc glendid ysbytai, roedd yn siomedig clywed bod Ysbyty Bronllys wedi cael sgôr hylendid bwyd o 2, er bod y rhan fwyaf o ysbytai’n cael sgôr hylendid o 3 neu fwy. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai pob ysbyty fod â sgôr hylendid pum seren. Nid yn unig y dylai bwyd a weinir i gleifion bregus fod o’r safon uchaf...
Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn lwyr ddileu heintiau a geir mewn ysbytai, ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn paratoi’n briodol i drin haint. Gydag ymwrthedd i gyffuriau ar gynnydd a dim ond ychydig iawn o wrthficrobau newydd yn cael eu darganfod, rydym yn cyrraedd pwynt argyfyngus. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi’u dysgu o adolygiad O’Neill a pha rôl y gall Llywodraeth...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n llwyr gefnogi ymyrraeth gyda’r Swyddfa Gartref er mwyn atal yr allgludiad hwn. Rwy’n cymeradwyo Jenny Rathbone, Julie, a Neil McEvoy am ddwyn hyn yn gyson i’r Siambr. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi siarad â’r Ysgrifennydd Cartref i bwyso arnynt i ailystyried yn yr achos hwn?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, yn enwedig wrth i ni baratoi i gofio’r aberth a wnaed gan gynifer o bersonél dewr ein lluoedd arfog. Mae gan ddinasyddion Cymru draddodiad hir o wasanaethu yn lluoedd arfog ein cenedl, ac maent wedi chwarae rhan allweddol mewn llawer o’r brwydrau yn y ddau ryfel byd. Mae poblogaeth Cymru oddeutu 5 y cant o faint...
Caroline Jones: Brif Weinidog, er mwyn i fetro de Cymru gyflawni ei ganlyniad datganedig o leihau’r defnydd o geir preifat yn llwyddiannus, mae’n rhaid iddo gynnig cludiant amlfoddol ar draws y rhanbarth. Felly, a ydych chi mor siomedig â mi na fydd cyfnewidfa Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chwblhau am 10 i 15 mlynedd arall? A fydd prosiect metro de Cymru yn gallu cyflwyno'r gyfnewidfa yn gynt nag y...
Caroline Jones: Brif Weinidog, diagnosis cynnar yw’r allwedd i wella cyfraddau goroesi canser. Felly, mae i’w groesawu’n enfawr bod y cynllun cyflawni ar ganser newydd i Gymru yn ailwampio atgyfeiriadau canser meddygon teulu trwy dreialu canolfannau diagnostig ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod gwella...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu'r cyfryngau yn adrodd bod Tata yn bwriadu buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith ym Mhort Talbot o oddeutu £0.5 biliwn. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael â Tata ynghylch eu cynlluniau buddsoddi? A wyddoch chi pa un a ydynt yn bwriadu ail-leinio'r ffwrneisi chwyth neu gyflwyno ffwrneisi arc i safle Port Talbot? Diolch.
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch o weld bod rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn parhau i lwyddo, yn enwedig cysylltiadau iechyd Cymru o Blaid Affrica. Roeddwn yn falch iawn o glywed ein bod, y llynedd, wedi gweld 38 o ymweliadau cyfnewid sgiliau o Gymru i Affrica. Fel y gwelsom gyda’r achosion Ebola, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd ymagwedd ryngwladol at lawer o'r...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi arian ychwanegol heddiw ar gyfer grant bloc Cymru yn sgil datganiad yr hydref. O ystyried yr heriau a amlinellir yng nghynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru, yn benodol y prinder offer sy’n llesteirio diagnosis cynharach o ganser a chyfraddau goroesi yn sgil hynny, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymrwymo i wario cyfran fawr...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae cynllun cyflawni canser Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn amlinellu maint y broblem sy’n ein hwynebu. Mae gofal canser wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd ac o ganlyniad, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi canser. Fodd bynnag, rydym yn methu’n wael o ran diagnosis cynnar ac yma y mae rhai o’r cyfraddau goroesi...
Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.
Caroline Jones: Diolch i chi, David. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn dal i fyny â’r galw, gan fod un o bob dau ohonom yn mynd i gael canser, ond ni allwn ond gwneud ein gorau. Byddem hefyd yn cefnogi awgrym y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â gwasanaeth trin canser symudol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig. Nid oes un ateb sengl i gyflawni gwelliannau i ofal canser yng Nghymru ond mae llawer o gamau...
Caroline Jones: Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei adroddiad, a chofnodi fy niolch i'r Athro Jones am gynnal yr achos yn dilyn ymddeoliad Dr Hussey. Mae Dr Atherton yn ei gwneud yn glir mai’r her iechyd fwyaf sy'n wynebu ein cenedl yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein gwlad. Dylai’r ffaith fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein...
Caroline Jones: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0053(EDU)
Caroline Jones: Weinidog, mae plentyn yn fy etholaeth sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn aros ers dros saith mis am apwyntiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl y plant a’r glasoed, ac yn y cyfamser, nid yw wedi bod yn cael mwy nag ychydig oriau’n unig o addysg bob wythnos. Sut y gallwn ddisgwyl i bobl ifanc fel hyn gyrraedd eu potensial llawn os ydym yn eu hatal rhag cael addysg gyflawn a...