Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth addysgol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddisgyblion mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, ym mis Mawrth y llynedd, yn rhan o raglen Getting Ahead 2, rhoddwyd £10 miliwn i Anabledd Dysgu Cymru dros bum mlynedd i weddnewid bywydau dros 1,000 o bobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anableddau dysgu neu anawsterau dysgu, ac mae hynny trwy ymgymryd â lleoliad gwaith â thâl sy'n para rhwng chwech a 12 mis. Beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei ddangos am benderfyniad Llywodraeth...
Rhianon Passmore: Heddiw, byddaf yn ymuno â fy nghydweithwyr Llafur ac yn pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar Fil Cymru. Yn wir, fel y dywedodd llawer, mae yr hyn ydyw. Ar gyfer hyn, mae gennym Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd unwaith eto wedi siomi pobl Cymru yn yr amherffeithrwydd hwn a nodwyd—. Ym mis Hydref 2015, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, fod Bil Cymru...
Rhianon Passmore: 7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU i wella gwasanaethau rheilffordd presennol de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0397(FM)
Rhianon Passmore: Diolch. Heno ar raglen 'Week In Week Out' BBC Wales, mae Nick Servini yn mynd y tu ôl i’r llenni yn Nhrenau Arriva Cymru wrth iddo ymchwilio i'r gorlenwi gwaethaf ar drenau cymudwyr ers blynyddoedd. Mae fy etholwyr yn Islwyn yn codi mater gorlenwi ar Drenau Arriva Cymru gyda mi yn barhaus, ond mae pwyslais Trenau Arriva Cymru wedi gwneud elw o £133.88 miliwn mewn difidendau i’w riant...
Rhianon Passmore: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Ni all neb ddadlau o ddifrif—ar wahân i un neu ddau o Aelodau sy’n bresennol—ei fod yn beth da bod 7.6 y cant o ddisgyblion ysgol babanod yng Nghymru mewn dosbarthiadau o fwy na 30. Hynny yw, 8196 o blant ifanc yn cystadlu...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?
Rhianon Passmore: Brif Weinidog, ddoe, dechreuodd Ysgrifennydd yr economi wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gyda'r newyddion rhagorol bod y BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yn y DU ar un safle yng Nghrymlyn, yn fy etholaeth i, ym Mharc Technoleg Border. Mae hyn, i raddau helaeth, o ganlyniad i grant gan Lywodraeth Cymru o £1.8 miliwn, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn...
Rhianon Passmore: Tanlinellodd yr adroddiad 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a luniwyd gan yr archwilydd cyffredinol, y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gwella diogelwch cymunedol yng Nghymru. Felly, rwy’n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw, ac yn croesawu sefydliad grŵp goruchwylio i adolygu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Er nad...
Rhianon Passmore: Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata a oedd yn dangos bod lefelau absenoldeb parhaus o’r ysgol ar y lefel orau a gofnodwyd erioed, ac mae’r gydberthynas rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad, ar sawl lefel, yn wybyddus. Dywedodd rhagflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau yn y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â phresenoldeb yn...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?
Rhianon Passmore: Yn gyntaf, mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant yn y pwnc hwn, fel cerddor. Cefais fy ngeni ar stad cyngor ac euthum at fyd cerddoriaeth broffesiynol drwy ddarpariaeth y wladwriaeth a'i cherddorfeydd ieuenctid a chenedlaethol teilwng. Roeddwn yn un a dderbyniodd wasanaeth cefnogi cerddoriaeth ffyniannus a oedd yn cynnig hyfforddiant offerynnol, nid yn unig i mi fel clarinetydd, ond i...
Rhianon Passmore: 2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch cymhwyso cyfreithiau’r UE yng Nghymru ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0025(CG)
Rhianon Passmore: Diolch i chi am hynny. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol, felly, o’r meysydd cymhwysedd deddfwriaethol yr effeithir arnynt fwyaf a pha gamau lliniaru y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn sgil Brexit?
Rhianon Passmore: Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths, am gadeirio ein pwyllgor yn fedrus. Mae fy amser byr yno wedi bod yn ddiddorol. Roedd ein hymchwiliad byr yn yr hydref y llynedd yn waith pwysig i adolygu cynnydd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol a blaengar....
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau'r stryd fawr yn Islwyn?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Os edrychwch ar y data ar gyfer y rhai sydd ar gontractau dim oriau, a fyddech yn cytuno bod nifer yn gwneud dwy neu dair o swyddi ac yn ceisio gweithredu ar y sail honno, ac nid yw llawer ohonynt yn ei wneud o ddewis—maent yn ei wneud am mai dyna’r unig beth sydd ar gael iddynt?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Rwyf yn wirioneddol falch o godi i siarad yn y ddadl hon i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Heddiw, fe wnes i a fy nghyd Aelodau Cynulliad Llafur benywaidd ymgynull ar risiau'r Senedd, ac roeddwn yn falch iawn o dynnu sylw at ferched o Gymru sydd wedi cael effaith ar fywyd cyhoeddus ledled Cymru. Efallai eich bod wedi clywed am Benjamin Hall, a oedd yn ddyn o Islwyn, fy etholaeth i, yr...