Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o’r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a’u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a’u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt...
Michelle Brown: Iawn. Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafodd bywydau’r plant eu chwalu’n gyfan gwbl, a chawsant eu rhwygo oddi wrth eu teuluoedd. Pa gymorth y gallwch ei gynnig i geisio eu haduno â’r teuluoedd hynny?
Michelle Brown: Diolch. Rwy’n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod achosion o gam-drin rhywiol honedig ymhlith blant a alltudiwyd o dan y rhaglen yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, fel rhan o’u hymchwiliad i amddiffyn plant y tu allan i’r DU. Pa gyfraniad fydd gennych chi i’r ymchwiliad hwnnw?
Michelle Brown: Mae croeso i unrhyw fenter sy'n lleihau ein hôl troed carbon, wrth gwrs, ond, unwaith eto, rydym yn gweld cynnig sydd, yn anghywir, yn beio'r defnyddwyr yn hytrach na’r gwneuthurwr. Hoffwn weld cynnig sy'n rhoi'r pwyslais ar y bobl hynny sy’n gallu atal cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf, a’r unig rai sy’n gallu gwneud hynny yw’r rhai sy'n gwneud ac yn gwerthu’r cynnyrch—drwy...
Michelle Brown: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi ddigon o eisiau cyflog cyfartal i gyflwyno tryloywder cyflog mewn llywodraeth leol, gan fod tryloywder yn gam hanfodol tuag at gyflog cyfartal?
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Mae pobl yn tynnu fy sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod yna argyfwng recriwtio yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam fod athrawon o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dymuno gweithio yng Nghymru neu fel arall?
Michelle Brown: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ni chlywais i chi’n dweud wrthym beth rydych yn ceisio’i wneud i ganfod pam y byddai athrawon eisiau dod i weithio yng Nghymru neu fel arall. Os nad ydym yn cyflenwi ein hathrawon ein hunain, mae angen i ni ddod o hyd iddynt o rywle arall. Felly, un o’r pethau y mae angen i ni ei ddeall yw pam y byddai pobl eisiau gweithio yng Nghymru a’r hyn sy’n...
Michelle Brown: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae gan y system addysg yng Nghymru enw gwael iawn yn anffodus. Pa un a ydych yn cytuno â’r enw gwael hwnnw, pa un a ydych yn cytuno bod y system addysg yng Nghymru yn haeddu’r enw gwael hwnnw ai peidio, rydym yn mynd i’w chael yn anodd iawn recriwtio gweithwyr proffesiynol ifanc sydd â theuluoedd ifanc, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol, oni...
Michelle Brown: Rwy’n croesawu’n fawr y ddadl hon, un a fyddai wedi bod yn hollol ddibwynt oni bai am y bleidlais dros ‘adael’ ar 23 Mehefin y llynedd. Rwy’n cefnogi’r cynnig yn fras. Fodd bynnag, rwy’n pryderu nad yw’r cynnig ei hun yn argymell unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gall Cymru fanteisio ar ei harfordir a’i moroedd. Nid yw’n syndod mewn gwirionedd fod llawer yn y Siambr hon...
Michelle Brown: [Parhau.]—ond ble roedd dicter Llafur ynglŷn â dinistrio ein diwydiant pysgota a diwydiannau cysylltiedig? Ewch chi, Huw.
Michelle Brown: Nid wyf yn awgrymu hynny. Nid wyf yn awgrymu hynny. Dyna yr hoffech i mi ei awgrymu—
Michelle Brown: Nid wyf yn siarad am ddiplomyddiaeth llong ryfel. Rwy’n siarad am adfer rheolaeth ar ein dyfroedd. Mae’n profi fy mhwynt. Rydych chi bobl yn dal yn gaeth i’r syniad y byddai’n well i’r holl benderfyniadau hyn gael eu gwneud gan yr UE. Mae angen i ni eu gwneud ein hunain. Mae gennym gyfle yn awr i adfer ein dyfroedd i Gymru, i adfer dyfroedd y DU, ac i ymelwa a manteisio ar hynny....
Michelle Brown: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae'n eu cymryd i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol?
Michelle Brown: Ar yr un pryd â diwallu angen dilys, gall cydweithrediad gofal iechyd trawsffiniol hefyd guddio prinder staff clinigol arbenigol yng Nghymru, a achoswyd gan fethiant y Llywodraeth i hyfforddi digon o glinigwyr. Pryd ydych chi'n mynd i adolygu nifer y sefydliadau annibynnol GIG Cymru, sy’n derbyn degau o filiynau bob blwyddyn, gyda'r bwriad o’u lleihau fel y gallwch wario mwy ar...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno â chi bod gan waith ieuenctid swyddogaeth hanfodol i'w chwarae i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chael ystod o brofiadau. Mae'n meithrin cymeriad ac mae hefyd yn hwyl. Adroddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Rhagfyr 2016 fod awdurdodau lleol wedi gweld colled o bron 20 y cant yn lefelau...
Michelle Brown: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru o ran allforio anifeiliaid byw i gael eu lladd? OAQ(5)0130(ERA)
Michelle Brown: Gofynnir i gartrefi yng Nghymru sy’n dioddef o dlodi tanwydd dalu o’u pocedi eu hunain ar hyn o bryd i roi cymhorthdal i ffermydd gwynt a pharciau solar fel bod tirfeddianwyr yn elwa—efallai nad yw £300 ar fil blynyddol yn swnio’n llawer i chi ar gyflog Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n llawer iawn o arian i deulu incwm isel. Pryd ydych chi’n mynd i roi chwarae teg i aelwydydd...
Michelle Brown: Mae’n drueni na chlywais gynnig clir neu gefnogaeth i wahardd allforio byw yn eich sylwadau, arweinydd y tŷ. Mae miloedd o anifeiliaid byw yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, weithiau i wledydd lle y mae safonau lles anifeiliaid yn isel iawn, os ydynt yn bodoli o gwbl. Nodaf hefyd fod eich Llywodraeth wedi dewis peidio â’i gwneud yn orfodol i ladd-dai osod systemau...
Michelle Brown: Diolch, Dirprwy Lywydd. Onid yw’n wych ein bod bellach yn gallu cael y ddadl hon ac y bydd y canlyniadau mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth? Felly, hoffwn yn gyntaf ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw bwynt i ni drafod sut y gallwn wella caffael pe bai Plaid Cymru wedi cael eu ffordd ac wedi llwyddo yn eu hymdrechion i dwyllo’r cyhoedd i bleidleisio...
Michelle Brown: Bydd graddedigion yn dod yn ôl i weithio yng Nghymru os yw’r awydd a’r gallu ganddynt i wneud hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen hefyd i'r Llywodraeth edrych ymhellach ar ffyrdd y gall wella’r cynnig bywyd i bobl y gogledd, gan fod yr ymadawiad hwn o dalent yn dangos, yn rhy aml, bod y rhai sy'n symud allan o Gymru i hyfforddi neu weithio yn aml yn gwneud hynny’n barhaol?