Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. A ydy’r Aelod yn cytuno â fi fod angen hefyd inni ddefnyddio’r ‘role models’ rhagorol sydd gennym ni mewn chwaraeon, er enghraifft, ar hyn o bryd—rydym yn meddwl am dîm Cymru a chwaraewyr fel Ben Davies a Joe Allen—er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn edrych i fyny at bobl sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg?
Rhun ap Iorwerth: Rydw i wedi siarad yn y Siambr yma droeon am bwysigrwydd profion diagnostig. Mae e wedi cael ei dynnu i’m sylw i gan feddygon teulu yn fy etholaeth bod amseroedd aros am brofion endosgopi wedi cyrraedd lefelau pryderus yn y misoedd diwethaf, efo sôn am gleifion yn gorfod aros blwyddyn a saith mis ar ôl cyrraedd brig y rhestr. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i edrych ar beth sy’n...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Fel mae’n digwydd, mae’r pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad yn ymchwilio ar hyn o bryd i barodrwydd y gwasanaeth iechyd am y gaeaf. Rydym ni’n edrych ymlaen at y sesiwn dystiolaeth efo’r Ysgrifennydd Cabinet yn y dyddiau nesaf. Oes, mae yna dystiolaeth sydd wedi cael ei chlywed fel rhan o’n hymgynghoriad ni hyd yma sydd yn...
Rhun ap Iorwerth: Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai wedi cysylltu efo fi yn eiddgar i warchod elfennau penodol o waith presennol Cymunedau’n Gyntaf yn y dyfodol. Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn CF yng Nghaergybi, er enghraifft, yn falch iawn o nifer o agweddau o’r gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y dref, ac rydw innau yn eu llongyfarch nhw ar y gwaith hwnnw. Ac maen nhw...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i wastad wedi ffansi bod ar gefn moto-beic. Wel, mi ges i gyfle ychydig ddyddiau yn ôl. Yn anffodus, nid oedd o’n symud ar y pryd—nid wyf wedi pasio prawf moto-beic. Ond, yng Nghaergybi yr oeddwn i, y tu allan i Ysbyty Penrhos Stanley, ar gefn moto-beic hyfryd iawn o’r enw Elsa II, i roi sylw i lansiad gwasanaeth newydd beiciau gwaed yn y gogledd-orllewin. I’r rheini ohonoch...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rwy’n codi i gynnig ac i ofyn am eich cefnogaeth chi i’r cynnig sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae dyfodol staff yn yr NHS sydd wedi eu hyfforddi dramor wedi dod dan chwyddwydr eleni gan y newid yn yr hinsawdd gwleidyddol ers y refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae staff NHS sydd wedi cael eu hyfforddi dramor yn wynebu ansicrwydd am, rwy’n meddwl, dau...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Let me get straight into the comments made by the UKIP representative. We all know we are told that there is no problem with people staying who are currently in the UK. It’s the kind of throwaway, meaningless comment that has been such a feature of the European debate. UKIP have made a habit, it...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma, dadl sydd yn un bwysig, ac i gynnig y gwelliannau yn fy enw i. Rydym ni’n sicr yn croesawu’r ddadl yma heddiw. Rydym ni’n cefnogi llawer o eiriad y cynnig, ond yn sicr y cyfan o’r sentiment y tu ôl iddo fo. Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, pan fo hi’n dod i ddadleuon am sut i ddarparu gofal a gofal cymdeithasol...
Rhun ap Iorwerth: Mi drof i at y gwelliannau—mae yna nifer ohonyn nhw. Ni fyddwn ni’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Nid ydym ni’n teimlo bod gosod y cap £50,000 yma’n adlewyrchu tegwch. Mi fyddai’n well gennym ni, yn sicr, weld mwy o gynnydd tuag at roi terfyn go iawn ar y dreth dementia yma sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae gwelliant 2, yn ein tyb ni, yn amherthnasol. Mi allai Llywodraeth...
Rhun ap Iorwerth: Mae hi yn wybyddus bod cyfraddau y rhai sy’n goroesi canser yn is i’r rheini sy’n cael diagnosis drwy adrannau brys mewn ysbyty. Mae hi hefyd yn hysbys bod annhegwch o ran pwy sy’n debyg o fod yn mynd i gael diagnosis mewn adran frys, a bod y llai cyfoethog yn fwy tebygol o fynd drwy’r broses honno yn hytrach na mynd drwy brosesau a thrio neidio dros rwystrau o ran mynd i weld y GP...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddweud bod Eluned Morgan yn gwneud peth peryg iawn yn dechrau rhestru cwmnïau yn ei rhan hi o Gymru cyn i Aelod Ynys Môn godi ar ei draed? Achos fe allwn i fod yn siarad yn helaeth iawn am Melyn Môn, y Cwt Mwg, y Cwt Caws a Halen Môn—ond gwnaf i ddim. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod yna llawer gormod o gynhyrchwyr bwyd cymharol fach—rhai ohonyn nhw yn fwy—yn Ynys Môn, a...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy’n codi yn fyr iawn i ategu’r pwynt olaf a wnaeth Simon Thomas, mewn gwirionedd. Rwy’n ddiolchgar bod y mater yma wedi dod ger bron y Cynulliad—rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae arloesedd yn rhywbeth yn gyffredinol rwy’n eiddgar i’n gweld ni’n gwneud mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n meddwl bod yna rywbeth am faint Cymru—am ‘scale’...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma, sy’n galw am ffocws ar gyrraedd targed o 28 diwrnod ar gyfer rhoi diagnosis i bobl efo canser. Argymhelliad ydy hwn, wrth gwrs, gan y tasglu canser annibynnol, tasglu sy’n cynnwys rhai o glinigwyr gorau Ewrop, a ddywedodd: ‘We recommend setting an ambition that by 2020, 95% of patients referred for testing by a...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynasom y cynnig hwn i roi cyfle i’r Llywodraeth gyd-fynd â barn glinigol, a defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol mewn capasiti diagnostig i flaenoriaethu’r nod o gyflawni’r targed diagnostig o 28 diwrnod, targed nad wyf wedi ei ddewis yn fympwyol; daeth oddi wrth y bobl sy’n gwybod rhywbeth am hyn. Gallai hyn glirio’r dagfa yn y system ac arwain at...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant yma, ac mae o’n canolbwyntio ar un elfen o’r adroddiad, mewn difrif. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni eto fod y cymunedau tlotaf yn talu pris sylweddol o ran eu hiechyd, yn syml am fod yn dlawd ac am fod pobl yn byw ochr yn ochr â phobl dlawd eraill. Mae yna ormod o ganolbwyntio weithiau, rydw i’n meddwl, ar y...
Rhun ap Iorwerth: Mi fydd Plaid Cymru’n cefnogi’r cynnig yma a’r gwelliant. Mae’r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn rhai synhwyrol; rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraethau ar ddwy ochr y ffin yn eu hystyried nhw. Mae llif trawsffiniol o gleifion, wrth gwrs, yn beth cyffredin iawn, iawn ar draws Ewrop, ac yn sicr ar draws y byd. Rwy’n siŵr ei bod yn aml yn...
Rhun ap Iorwerth: Nodaf y cysylltwyd â chleifion i roi tawelwch meddwl iddynt nad yw'r practis hwn mewn perygl o gau. Ond mae pobl yn anesmwyth iawn, ar hyd a lled Cymru, wrth i un feddygfa ar ôl y llall gau ei drysau neu ddirwyn ei chontract i ben. Fel yn Rhiwabon, yr hyn a welwn mewn llawer o fannau eraill yw methiant i allu recriwtio'r nifer digonol o feddygon teulu i gadw’r practis ar agor, a dyna...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi ildio?
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am ildio. A fyddai'r Aelod yn cydnabod mai’r broblem â chronfa triniaethau canser yw ei bod hi’n anwybyddu'r ffaith bod llawer o bobl eraill yn dioddef o salwch sydd hefyd angen buddsoddiad ac arloesi ac ati, a bod hynny’n rhwystr i un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio’i gyflawni drwy’r trafodaethau hyn? [Torri ar draws.]
Rhun ap Iorwerth: Byddaf yn cyfeirio at elfennau penodol o'r gyllideb hon mewn cysylltiad ag iechyd. Mae'r cytundeb, wrth gwrs, yn cynrychioli dim ond rhan o'r gyllideb ehangach. Yn y gyllideb ehangach mae rhai penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol y byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hailystyried. Byddem hefyd yn hoffi gweld mwy o arian yn cael ei roi i iechyd, ond...