Lynne Neagle: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy nadl fer ddiweddar ar bwysigrwydd sicrhau bod cydnerthedd ymhlith ein plant a phobl ifanc yn cael ei ddatblygu ymhell cyn bod angen gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol ar unigolyn ifanc. Mae'r rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn cynnwys ffrydiau gwaith i’w croesawu i hybu gwydnwch cyffredinol, gan gynnwys gwaith yn...
Lynne Neagle: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ar blant yng Nghymru?
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhwng 2003 a 2014, ni fu llai na saith adroddiad yn mynegi pryderon am gyflwr gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. Cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y trydydd Cynulliad dri adroddiad a gwnaeth nifer o argymhellion a galwadau mynych ynghylch darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a grwpiau eraill o blant agored i niwed. Rhwng 2012 ac 2014...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i aelodau’r pwyllgor sydd wedi siarad y prynhawn yma, a’r Gweinidog a holl aelodau’r pwyllgor a gyfrannodd at yr ymchwiliad? Cyfeiriodd Mohammad Asghar, yn ei gyfraniad, at hanes da y Cynulliad hwn o hybu hawliau’r plentyn, a byddem i gyd yn cytuno â hynny, wrth gwrs, ond rwy’n meddwl bod angen inni ofyn cwestiynau i ni ein hunain—bob un...
Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd plant yng Nghymru? OAQ(5)0555(FM)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd adroddiadau diweddar gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn cynnwys negeseuon cryf iawn am effaith tlodi ac anghydraddoldeb ar iechyd plant. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i blant o gefndiroedd tlotach yng Nghymru, a pha sicrwydd allwch chi...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw? Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ac rwy'n credu ei bod hi’n beth da i gael yr adroddiadau hyn, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y byddwch yn ymrwymo i’w wneud yn rheolaidd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Byddwn i’n cysylltu fy hun â nifer o'r pryderon a gododd Rhun ap Iorwerth ynglŷn â gofalwyr sy'n oedolion,...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, a hefyd groesawu'r adolygiad o 'Ymestyn Hawliau', sy'n rhywbeth rwy’n credu y byddai'r pwyllgor wedi dymuno ei weld? Fel Llŷr, rwyf innau’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at strategaeth newydd, sydd hefyd yn rhywbeth yr oedd y pwyllgor eisiau ei weld. Rwy'n arbennig o falch y bydd pobl ifanc yn rhan o’r...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i wella'r amgylchedd lleol yn Nwyrain De Cymru?
Lynne Neagle: Rwy’n falch iawn o glywed eich geiriau cryfion ynglŷn â pha mor ofnadwy, mewn gwirionedd, yw’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio’i wneud i bobl rhwng 18 a 21 oed, ac fel y gwyddoch, mae llawer o sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc yn gandryll ac yn ymgyrchu yn erbyn hyn. Croesawaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â siarad â’ch swyddogion, ond a wnewch chi, gan weithio ar draws y...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel yr amlinellais yn fy natganiad i’r Siambr ar 25 Ionawr, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar beth yw’r prif faterion y dylem fod yn edrych arnynt, ac rydym yn cynllunio ein rhaglen waith yn unol â hynny. Mae’r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn enghraifft arall o’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad a nodwyd yn ein...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma? Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog. Darren Millar, diolch i chi am eich cyfraniad ac am eich gwaith ar yr ymchwiliad. Roeddech yn gwbl gywir i dynnu sylw at natur dameidiog y ddarpariaeth, sy’n eithaf brawychus mewn gwirionedd, a’r ffaith nad oeddem ni, fel pwyllgor, yn gallu...
Lynne Neagle: 4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru yn sgil ymchwiliad 2008 Comisiwn yr UE i arferion gwrth-gystadleuol gan y diwydiant fferyllol? OAQ(5)0035(CG)
Lynne Neagle: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae’n amlwg o lefel y canfyddiadau diweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu risg sylweddol o gostau am fod rhai cwmnïau fferyllol i’w gweld fel pe baent yn gweithio gyda’i gilydd i bennu prisiau. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd y risg yn cynyddu wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddiogelu...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod falch ein bod yn cael y cyfle hwn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia i wrando unwaith eto ar farn yr Aelodau. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd amser i ystyried ymgynghoriad sydd wedi cael ymateb da. Rwy'n credu mai’r ymagwedd hollol gywir yw cael y strategaeth hon yn iawn, er y...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran pryd y mae'n disgwyl gwneud penderfyniad ar Gylchffordd Cymru?
Lynne Neagle: Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy’n credu ei fod yn gadarnhaol iawn fod hwn wedi cael ei gyflwyno ar lawr y Senedd a bod pawb ohonom yn cael cyfle i’w drafod. Mae’n fater difrifol iawn ac rwy’n ofni y daw’n berygl llawer mwy yma yng Nghymru wrth i rai o’r newidiadau a welwn ddechrau gadael eu hôl. Gwyddom fod rhagor o ddiwygiadau lles yn...
Lynne Neagle: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ran llywio polisi Llywodraeth Cymru ar blant? OAQ(5)0150(CC)
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wybodaeth ddefnyddiol am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn amlwg, mae gan y broses o gydnabod profiadau niweidiol penodol yn ystod plentyndod ran i’w chwarae yn y gwaith o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, ond ceir...
Lynne Neagle: Prif Weinidog, rwy’n croesawu'n fawr eich datganiad cadarnhaol ynglŷn â bod eisiau i’r gylchffordd lwyddo. Ac, fel y gwyddoch, mae rhai o'r enwau mwyaf ym maes peirianneg ac ymchwil modurol wedi ysgrifennu atoch—Aston Martin, TVR, Taylors—sy’n dangos eu hyder yn y prosiect, ac yn annog penderfyniad cyflym, cadarnhaol. A allwch chi gadarnhau heddiw pa ddyddiad y mae’r Cabinet...