Canlyniadau 101–120 o 2000 ar gyfer speaker:Darren Millar

6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Tach 2016)

Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth o ffibriliad atrïaidd yr wythnos diwethaf a bydd Aelodau'r tŷ hwn yn ymwybodol y bydd un o bob pump o bobl sy'n dioddef strôc—6,000 ohonyn nhw bob blwyddyn yma yng Nghymru—wedi profi achos o ffibriliad atrïaidd cyn iddyn...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (30 Tach 2016)

Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arolygiaeth ysgolion yng Nghymru?

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(30 Tach 2016)

Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg wedi rhybuddio efallai na fydd digon o werslyfrau TGAU ar gael i fyfyrwyr ac i staff erbyn yr adeg pan fydd angen iddynt gael eu datblygu er mwyn iddynt allu manteisio ar baratoi eu disgyblion yn briodol ar gyfer y TGAU a’r Safon Uwch newydd a fydd yn cael eu cyflwyno o’r flwyddyn nesaf. Beth yw eich ymateb i hynny?

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(30 Tach 2016)

Darren Millar: Byddwn yn fwy na pharod i fynychu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi cymryd camau o’r fath i sefydlu uwchgynhadledd. Wrth gwrs, nid bai’r cyhoeddwyr yn unig yw hyn. Mae Cymwysterau Cymru eto i gymeradwyo manylion ynglŷn â’r cymwysterau y bydd yn rhaid i’r bobl ifanc hynny eu sefyll. Rwy’n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd darparwyr addysg uwch...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(30 Tach 2016)

Darren Millar: Wrth gwrs, ni fyddwn ond yn gallu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn ar gyfer y dyfodol os oes gennym weithlu sy’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i’r rhybuddion a gawsoch gan wahanol sefydliadau ym maes addysg sydd wedi bod yn dweud nad oes gennym ddigon o athrawon sy’n rhugl yn y Gymraeg i allu cyflawni’r cynlluniau...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Myfyrwyr sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig
(30 Tach 2016)

Darren Millar: Un feirniadaeth a wnaed o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y maes hwn, wrth gwrs, yw’r ffaith nad oes gan unigolion ifanc mewn addysg bellach yr un hawliau i allu herio penderfyniadau a wneir amdanynt o ran y cymorth y gallant ei gael. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn obeithio y bydd yn cael sylw yn eich Bil anghenion dysgu ychwanegol?

8. 4. Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau Newydd (30 Tach 2016)

Darren Millar: A gaf fi hefyd groesawu’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y comisiynydd safonau newydd? Mae’r comisiynydd yn chwarae rhan allweddol iawn, wrth gwrs, wrth anelu at gyrraedd y safonau uchaf posibl gennym ni fel Aelodau’r Cynulliad, er mwyn i’r cyhoedd gael hyder yn eu cynrychiolwyr etholedig. Rwy’n credu ein bod wedi bod yn ffodus i fod wedi cael comisiynydd...

10. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Iechyd Trawsffiniol (30 Tach 2016)

Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda a chafwyd rhai pwyntiau pwysig iawn am rai o’r heriau sy’n deillio o gael dwy system iechyd wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin, a’r canlyniadau i lawer o’n hetholwyr o ganlyniad i hynny, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, fel y mae Russ George wedi ei ddweud, ac yn...

10. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Iechyd Trawsffiniol (30 Tach 2016)

Darren Millar: Mae angen i ni wneud yn siŵr—. Cytunaf yn llwyr â’ch dyhead na ddylai fod anfantais, ond mae’n rhaid i ni ddechrau gwireddu rhai o’r pethau hyn, ac nid ydym yn mynd i allu eu gwireddu os ydych yn dal heb wybod y ffeithiau—[Torri ar draws.]

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
( 6 Rha 2016)

Darren Millar: Brif Weinidog, un o'r problemau gyda chynlluniau datblygu lleol yw bod awdurdodau lleol wedi eu cyfyngu gan y canllawiau a gyhoeddwyd gennych chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet. A’r broblem fawr sydd gennym ni yng Nghonwy a Sir Ddinbych—ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli—yw bod y gofynion i adeiladu llawer o dai newydd yn gwbl anghynaladwy o ran y seilwaith lleol sydd yno. Beth...

5. 3. Datganiad: Canlyniadau PISA ( 6 Rha 2016)

Darren Millar: Wel, wel, wel, Ysgrifennydd y Cabinet, dyma lanast mawr arall y mae Carwyn wedi eich rhoi chi ynddo. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n gwerthfawrogi eich datganiad a'r briff a ddarparwyd gan eich swyddogion y bore yma, ac, wrth gwrs, rydych wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn bychanu yn daer y disgwyliadau ynglŷn â chanlyniadau heddiw, a gallwn, wrth gwrs, i gyd weld nawr pam yr oeddech...

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mike?

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Darren Millar: Diolch, rwy’n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn yr ymyriad. Mae’n ymwneud, yn benodol, â chostau staff asiantaeth. Fel y gwyddoch, cymerwyd camau gan Lywodraeth y DU gamau i roi cap ar gostau staff asiantaeth fesul awr. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â dilyn eu hesiampl. Mae hynny’n costio miliynau o bunnoedd i'n GIG bob blwyddyn. A ydych yn rhannu fy marn i y dylai...

8. 6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18 ( 6 Rha 2016)

Darren Millar: A ydych yn derbyn nad oes gan y mantra cyson hwn gan Lywodraeth Cymru o ran gwarchod gofal cymdeithasol ddim byd i'w wneud â nhw yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae penderfyniadau ar gyllidebau gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl yn fater i awdurdodau lleol ac nid i Lywodraeth Cymru?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Nifer yr Ymwelwyr o Dramor
( 7 Rha 2016)

Darren Millar: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymwelwyr o dramor â Chymru dros y pum mlynedd diwethaf? OAQ(5)0082(EI)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Nifer yr Ymwelwyr o Dramor
( 7 Rha 2016)

Darren Millar: Mae nodi’r ffigurau hynny yn newyddion calonogol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae gwerth y bunt bellach hefyd yn gymorth i ddenu ymwelwyr i’r DU. Ond mae gan ogledd Cymru gynnig unigryw o ran twristiaeth, ac fel y gwyddom, mae’n gynnig sydd gyda’r gorau drwy’r byd. Mae ar restr y 10 uchaf o ran cyrchfannau, ym marn Lonely Planet. Ond un o’r anfanteision sydd gennym...

4. 3. Datganiad: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (13 Rha 2016)

Darren Millar: A gaf i hefyd wneud datganiad o fuddiant fel llywodraethwr ysgol? Rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac, yn wir, am y nodyn briffio a ddarparwyd gennych chi a'ch swyddogion yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod eich bod chi yn bersonol yn ymroddedig iawn i ymdrin â'r diffygion yn ein fframwaith statudol presennol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, ac rwy’n...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gynnig y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am wneud hynny’n ffurfiol ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Yr wythnos diwethaf, cafodd Cymru newyddion am ei chanlyniadau yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu PISA, fel y cyfeirir ato’n fwy cyffredin, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cyn cyhoeddi’r canlyniadau hynny,...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Darren Millar: Diolch; rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Ni wneuthum fychanu’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio ei gyflwyno yng Nghymru. Gofynnais yn unig am i ni oedi ac ystyried ai diwygiadau cwricwlaidd tebyg i’r rhai sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd wedi methu â chyflawni yn erbyn y mesur PISA, yw’r dull cywir yma yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni fyfyrio o ddifrif ar hynny.

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gadarnhau y byddwch yn sicrhau bod y ddogfen honno ar gael, ond yn sicr, cyn y ddadl heddiw, gallech fod wedi sicrhau bod peth, o leiaf, o’r crynodeb o’r canfyddiadau ar gael, sydd, yn amlwg, eisoes yn eich dwylo chi.

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.