David Melding: Mae’n eithaf clir mai’r neges yma yw bod ardaloedd trefol angen aer glân o’r ansawdd gorau posibl er mwyn bod yn wirioneddol ddeniadol i’r boblogaeth leol, ond hefyd o ran denu mewnfuddsoddiad a’u hiechyd economaidd. Mae yna ffyrdd y gallwn reoli hynny yn awr, hyd yn oed cyn ein bod yn gwahardd ceir diesel yn ffurfiol. Mae’n bwysig iawn ein bod, yng Nghymru, yn gweld yr...
David Melding: A gaf fi ychwanegu at y ganmoliaeth i’r rhaglen hon, gan nad oes unrhyw amheuaeth y gallwn ddefnyddio data’n effeithiol iawn i weld lle y gellir sicrhau bod ymddygiad yn newid o ganlyniad i fân newidiadau yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau neu’r hyn a ganiatawn yn yr amgylchedd trefol, er enghraifft, pa un a oes gennych wydrau gwydr neu wydrau plastig? Mae llawer o bethau yno...
David Melding: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn—pwysig iawn. Dyma’r tymor pan fyddwn yn draddodiadol yn edrych ar anghenion y mwyaf agored i niwed o ran tai ond rwy’n credu ei bod yn wers y dylid ei hystyried drwy gydol y flwyddyn. Fel y nodwyd eisoes, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o achosion o droi allan yn cael eu cyflawni gan landlordiaid cymdeithasol ac mae Shelter yn amcangyfrif...
David Melding: Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma,...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio yn y ddadl ddoe ar y gyllideb derfynol at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oedd cyllideb yr amgylchedd gerbron y pwyllgor, roedd yn ymddangos i mi, wrth i ni graffu ar linell y gyllideb, fod y Ddeddf wedi’i defnyddio lawer mwy i...
David Melding: Weinidog, a gaf fi ganmol Llywodraeth Cymru am hyrwyddo nod Gyrfa Cymru. Credaf ei bod yn fenter ardderchog a chredaf ei bod bellach yn denu aelodau o blith y rhan fwyaf o ysgolion Cymru ac yn arwain at ddewisiadau mwy gwybodus ynglŷn â gyrfaoedd ac o ran nodi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi i gamu i fyd gwaith. Ond deallaf fod problemau wedi bod yn ystod yr ychydig...
David Melding: Rwy’n credu y gellir arddangos perthnasedd addysg uwch yng Nghymru drwy’r cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd ei bod yn mynd i wario £23 miliwn ar adeilad mathemateg a chyfrifiaduraeth newydd a £32 miliwn ar lety newydd i fyfyrwyr. Yn wir, mae wyneb Caerdydd wedi’i drawsnewid yn y 10 neu 20 mlynedd diwethaf, a llawer ohono drwy fuddsoddiad ein prif brifysgol, ac rwy’n falch...
David Melding: Brif Weinidog, rwy’n credu mai Brexit eglur oedd y canlyniad mwyaf tebygol erioed, o ystyried yr hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, ond mae’n rhaid i ni ganolbwyntio’n bennaf ar yr hyn sy’n digwydd wedyn. A ydych chi’n cytuno â mi y dylem ni geisio cael trefniadau sy'n seiliedig ar barch at ein cymdogion yn yr UE? Ni ddylai fod unrhyw elfen o ddymuno i’r UE...
David Melding: Diolch—[Torri ar draws.]
David Melding: Diolch, Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ganmol pawb a fu’n ymwneud ag ennyn cefnogaeth ar gyfer y Bil hwn a'i wneud yn Fil gwell? Rydym wedi clywed ei bod wedi bod yn broses hir. Rwy’n arbennig o awyddus i sôn am yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yr Arglwydd Bourne yn Nhŷ'r Arglwyddi, a'r Prif Weinidog am, rwy’n credu, ei grefft llywodraeth wirioneddol i wneud dyfarniad y byddwch yn...
David Melding: Rwy’n croesawu’r ddadl hon ar bwnc pwysig iawn, mewn gwirionedd. Rhyddhaodd lledaeniad y cyflenwad trydan yn y 1920au a’r 1930au lawer o bobl rhag llawer o waith caled, ond fe farciodd ein tirwedd a’i thrawsnewid mewn ffordd hyll. Er bod y beirdd rhamantaidd yn ystyried bod Cymru yn un o’r ardaloedd mwyaf dyrchafedig a phrydferth, yn rhy aml yn awr, rhaid i ni edrych ar yr hyn a...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, a gaf fi dalu teyrnged i Julie Morgan am yr araith dra huawdl ac emosiynol honno, a hefyd am yr holl waith a wnaeth dros y blynyddoedd dros blant, a’i gwaith cyfredol ar gyfer y grŵp hollbleidiol ar blant? Rwyf hefyd wedi cael y fraint o gyfarfod â Cedric Moon, ac rwy’n talu teyrnged iddo yntau hefyd, yn yr achos hwn, am ddwyn ein sylw at y mater hwn, ond hefyd am ei...
David Melding: Roedd gen i ddiddordeb mawr, Brif Weinidog, yn yr ateb yna gan nad wyf i wedi gweld y data, ac roeddwn i’n meddwl y byddai angen rhyw lefel o fuddsoddiad i leihau’r allyriadau hyn, a oedd dros ddwywaith y terfyn Ewropeaidd a gytunwyd. Felly, rwy’n siŵr pe gallech chi roi'r wybodaeth honno yn y Llyfrgell neu ei dosbarthu i'r Aelodau, y byddem yn ddiolchgar dros ben. Ond y peth yw...
David Melding: Rhaid i mi ddweud, Gwnsler Cyffredinol, nad wyf wedi fy synnu gan y ddau ddyfarniad hyn. Roeddwn yn disgwyl y dyfarniad a bennwyd gan yr Uchel Lys a'r Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a’r aelod ar y lefel uchaf o'r farnwriaeth o Gymru. Cadarnhawyd y dyfarniad hwnnw, ac roedd yr amrywiol ddadleuon y gallem ni—neu efallai y gallai’r Albanwyr, beth bynnag,—...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ein bod yn croesawu'r ddadl hon ac y byddwn yn cefnogi'r cynnig? O ran y pwyslais y bydd gennym yr wythnos hon, yn fras, ar faterion gwella ansawdd bywyd, ynghyd â'n dadl yfory—y ddadl plaid leiafrifol y mae’r Ceidwadwyr wedi’i nodi ar yr amgylchedd trefol—rwy’n credu ei bod yn iawn ein bod yn treulio llawer o amser ar y materion ansawdd...
David Melding: 9. Pa fesurau sydd yn eu lle i wella cynhyrchiant economi Cymru? OAQ(5)0109(EI)
David Melding: A gaf fi ganmol Julie Morgan am dynnu sylw at fater cludiant cymunedol? Oherwydd ar gyfer y bobl fwyaf anabl—sydd fwyaf agored i niwed ac yn lleiaf tebygol o wneud unrhyw fath o daith—mae cludiant cymunedol yn hanfodol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud fod llawer o arloesi wedi bod tan oddeutu 10 mlynedd yn ôl pan newidiodd y system grantiau rywfaint, ac nid yw wedi cael ei datblygu...
David Melding: Rwy’n credu bod sgiliau’n allweddol i gynhyrchiant, ac un maes sy’n aml yn cael ei anwybyddu yw sgiliau rheoli, yn enwedig rheolaeth ganol. Mae llawer o dystiolaeth fod hwnnw’n sector allweddol, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac efallai fod angen buddsoddi mwy o fenter yno i gael y rheolaeth o’r ansawdd gorau y gallwn ei chael.
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn cyflwyno’r cynnig hwn mewn ysbryd adeiladol? Rydym yn awyddus i archwilio lle ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn ein bywyd cenedlaethol, yn enwedig fel sbardun ar gyfer twf a rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer Cymru ffyniannus a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. A gaf fi ddweud ein bod yn derbyn gwelliant y...
David Melding: Mae’r gallu i fyw ynddynt ac ymgysylltiad â dinasyddion yn allweddol i lwyddiant dinasoedd modern ac ardaloedd trefol yn gyffredinol. Ym mhob cwr o’r byd, mae dinasoedd yn mwynhau adfywiad, mae pobl yn symud yn ôl i ddinasoedd, ac ni chafodd eu lle mewn bywyd cenedlaethol erioed mo’i bwysleisio cymaint. Un duedd nodedig yw’r ffafriaeth gynyddol am ddinasoedd llai a chanolig eu...