Andrew RT Davies: Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Fe wnaethoch chi grybwyll yr hyn y mae ein hetholwyr a’n gwylwyr yn ei gael ledled Cymru. Un o'r pryderon gwirioneddol, ni waeth am beth yr ydym yn ei drafod yma heddiw, yw'r gynulleidfa sy’n dirywio y mae gwasanaethau'r BBC yn ei chyrraedd mewn gwirionedd ledled Cymru, gan gynnwys materion cyfoes a’i gwasanaethau newyddion a’i gwasanaethau...
Andrew RT Davies: Roeddwn i ond yn dweud ei bod hi’n mynd mor dda ac roeddwn wedi gobeithio y byddech wedi cefnogi gwelliant synhwyrol iawn y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cynnig y cynnig sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Roeddwn wedi gobeithio y byddai’r Prif Weinidog yma i ymateb i’r ddadl. Rwy’n cymryd ei bod yn rhaid mai arweinydd y tŷ sy’n ymateb i’r ddadl y prynhawn yma yn lle hynny. Mae’r cynnig ar y papur trefn yn edrych ar raglen lywodraethu’r Prif Weinidog ac yn datgan nad...
Andrew RT Davies: Mae’r meddygon iau yn datblygu GIG saith diwrnod a fydd yn cael gwared ar farwolaethau cynamserol ar benwythnosau, a fydd yn darparu gwasanaeth y bydd ysbytai acíwt yn ei gyflawni, ac a fydd yn gwneud yn siŵr fod amseroedd aros yn disgyn yn Lloegr, gan eu bod eisoes yn is na’r hyn sydd gennym yma yng Nghymru. Rhag ofn na chlywsoch y newyddion diweddaraf, mae’r llysoedd wedi barnu...
Andrew RT Davies: Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A fyddai’r Aelod yn ystyried tynnu ei welliant yn ôl heno, oherwydd, yn amlwg, rwy’n derbyn y pwynt eich bod am ddatblygu eich gweledigaeth amgen a’ch Rhaglen yr Wrthblaid, ond drwy gyflwyno eich gwelliant, bydd yr wrthblaid yn chwalu ac yn amlwg, ni fyddwn yn gallu gosod safbwynt cydgysylltiedig i ddangos ein diffyg hyder yn y rhaglen...
Andrew RT Davies: Diolch i’r Aelod dros Ogledd Caerdydd am gymryd fy ymyriad. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi: mae gofal plant yn gynnig gwirioneddol bwysig y gall y Llywodraeth ei wneud ac mae’n rhywbeth roedd pob plaid wedi cyflwyno cynnig yn ei gylch. Mae’n amlwg mai chi oedd y blaid fwyaf, felly eich cynnig chi fydd yr un y byddwch yn gyfrifol am ei gyflawni. Ond nid yw’r ddogfen hon yn dweud sut y...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser sefyll ac ymateb i Brif Weinidog Cymru wrth gynnig y ddadl. Cynigiaf yn ffurfiol welliant 1 yn enw Paul Davies ar bapur y drefn heddiw. Dim ond chwe diwrnod yn ôl yr oeddem ni ein hunain yn cynnig y cynnig ynglŷn â’r rhaglen lywodraethu, ac yn amlwg rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn edrych ar hynny. Ni allai'r Llywodraeth ond rhoi un o blith...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am roi eglurder y bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud datganiad a gobeithio yn rhoi eglurder ar ganolfan gofal critigol erbyn diwedd y flwyddyn hon. Ond, ai eich gobaith chi fyddai y bydd y gwaith adeiladu, o leiaf, wedi dechrau ar y ganolfan gofal critigol erbyn 2021, diwedd eich mandad, neu a allwch chi weld problemau gwirioneddol wrth symud ymlaen ar y mater penodol hwnnw?
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd a seilwaith yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0045(EI)
Andrew RT Davies: Roeddwn yn meddwl eich bod wedi troi i fod y Prif Weinidog yno gyda’ch ateb byr iawn, ‘gwnaf’, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Diolch am y datganiad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un peth yr hoffwn dynnu sylw ato yw’r angen am ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddau brosiect seilwaith mawr ar y gweill ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg—un...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna amryw o densiynau wedi bod yn y system, yn amlwg, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yng Nghymru, o ran pa bryd y gallech gael eich gweld. Ceir rhai enghreifftiau o arfer rhagorol ac yna mewn ardaloedd eraill, mae yna oedi wrth symud drwodd i’r llwybr triniaeth a gwasanaethau canser. Rydym wedi cynnig ar sawl achlysur—ac mae wedi cael ei brofi’n ymarferol...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac yn enwedig y ffordd yr agorodd David Melding y ddadl, oherwydd, yn amlwg, o’i gosod allan, roedd dwy ran i’r ddadl hon. Y rhan gyntaf yn amlwg yw’r ddadl ideolegol, ac rwy’n gwerthfawrogi safbwynt y Llywodraeth ar yr hawl i brynu, ond mae’n ffaith mai dyma, yn ôl pob tebyg, oedd un o’r cyfryngau grymuso...
Andrew RT Davies: Rwy’n derbyn y pwynt nad oes un ateb syml i ddatrys yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu, ac nid yw pasio deddfwriaeth i atal yr hawl i brynu yn mynd i fod yn ateb i bob dim i atal yr argyfwng tai sy’n ein hwynebu, gan nad ydym yn adeiladu digon o dai. Ac os nad ydych yn adeiladu digon o dai, rydych yn creu galw cronedig am hynny, mae’r prisiau tai yn codi, ac yn y pendraw rydych yn...
Andrew RT Davies: Mae yna fater yn codi ynglŷn ag adfeddiannu tai. Mae yna fater yn codi ynglŷn â’r gallu i bobl gael mynediad i’r farchnad dai yn fwy cyffredinol. Ond ni allwch ddefnyddio’r data hwnnw i gyflwyno deddfwriaeth gerbron y Cynulliad hwn mewn gwirionedd i wahardd arfer sydd wedi grymuso’n gymdeithasol i’r fath raddau. Byddai’n llawer gwell i’r Gweinidog ddefnyddio ei amser a’i...
Andrew RT Davies: Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ddywedoch fod y stoc wedi’i cholli. Fel y dywedodd David, a gyflwynodd y ddadl, roedd hwnnw’n nam ar y cynllun a gyflwynwyd—nad oedd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gymryd lle’r stoc. Pam rydych chi, felly, yn cydnabod bod yna ddiffyg o’r fath yn y cynllun gwreiddiol, yn hytrach na gwneud y cynllun yn fwy...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n gofyn y gyfres hon o gwestiynau fel cefnogwr o leddfu’r tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd. Ond, roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn hynod siomedig, o ran yr oedi posibl cyn dod o hyd i ateb i’r problemau traffig yn y rhan honno o Gymru. Cyflwynwyd llythyr eglur i Aelod yn y Cynulliad yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn amlygu sut yr...
Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb manwl iawn yna, Brif Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer sy’n rhyfedd am unrhyw ran o hyn. Rydym ni wedi bod yn dweud dros y flwyddyn ddiwethaf bod angen ailystyried y fethodoleg fel y gellid gwerthuso’r llwybr glas a du ar sail yr un fethodoleg, fel y gellid, yn y pen draw, cymharu’r ddau lwybr yn ffafriol, ac y gallech fwrw ymlaen â’r llwybr glas neu’r...
Andrew RT Davies: Wel, rwy’n anghytuno â chi am y broses ryfedd ac anarferol. Hynny yw, fel yr wyf i wedi dweud, mae’r broses hon wedi bod ar waith ers dwy flynedd, a nodwyd yn eglur, yn 2016, y byddai'r newid hwn yn dod yn ddiweddarach i chi ac, yn amlwg, ni wnaeth eich Llywodraeth ymateb. Roedd Traffic Scotland yn rhan o’r trafodaethau ac roedd Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon mewn trafodaethau...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth, os gwelwch yn dda, ar oleuadau ar gefnffyrdd? Yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cefnffyrdd, ond mae'n trosglwyddo’r gwaith o’u rheoli o ddydd i ddydd i awdurdodau lleol mewn llawer o achosion. Rwyf wedi sylwi, yn enwedig ar yr A48 trwy Fro Morgannwg, ond hefyd mewn ardaloedd eraill lle mae’r rhwydwaith...