Jack Sargeant: Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig yn rhanbarth gogledd Cymru o ran y datblygiadau trawsffiniol, y datblygiadau ar Dro Halton a hefyd y gwelliannau ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall trafnidiaeth, fel y trafodais mewn cynhadledd yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Gwener diwethaf, y gall yr amcanion...
Jack Sargeant: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf? OAQ54359
Jack Sargeant: Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, yn ystod y cwestiynau ddoe, rwyf innau hefyd wedi ymweld â fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae gwaith gwych wedi'i wneud yno ar ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddw arloesol. Nawr, pan gyfarfûm â staff yn ddiweddar, nodwyd dau...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am roi rhywfaint o amser i mi yn y ddadl bwysig hon, a diolch yn bersonol i Jayne hefyd? Fel un sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, fel y dywedais droeon, rwy'n cydnabod y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i eraill a'r gofal am eu lles hefyd. Felly, diolch i chi, Jayne. Lywydd dros dro, hoffwn sôn am ysgol yn fy etholaeth i hefyd, Ysgol Tŷ Ffynnon, sydd wedi...
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ddiweddaru'r Siambr hon ar fater pwysig iawn—un sy'n flaenoriaeth allweddol yn fy marn i? Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod yn rhaid i bob un ohonom ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd o bob math, felly rwy'n croesawu cyfraniadau gan yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon, oherwydd yn sicr mae angen cefnogaeth drawsbleidiol ar y mater hwn. Gweinidog, fel yr...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, yfory yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith gwych y mae eich swyddfa'n ei wneud ar hynny. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd elusen y Samariaid frecwast briffio a diolch i fy nghyd-Aelod o'r meinciau gyferbyn, Dai Lloyd, am gefnogi hwnnw. Y thema eleni yw atal hunanladdiad, ac roedd...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw—cwestiwn hanfodol bwysig ar adeg dyngedfennol i'n planed ac i genedlaethau'r dyfodol? Weinidog, croesawaf eich sylwadau, ond a allwch ddweud wrthyf yn benodol beth rydych yn ei wneud i asesu a dadansoddi effaith gwariant presennol yn ogystal ag unrhyw wariant newydd o ran carbon, a sut rydych yn bwriadu cyhoeddi hyn i...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o arwain y ddadl fer hon, gan ganolbwyntio ar y rhwystr y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddant yn ceisio dod oddi ar y stryd a chael y cymorth y maent ei angen mor daer. I mi'n bersonol, yn enwedig os wyf wedi cael diwrnod anodd, boed hynny yn y gwaith, amgylchiadau personol neu pan fydd fy nhîm pêl-droed yn colli, nid oes llawer o bethau'n...
Jack Sargeant: Roedd y ddau brofiad yn dangos pwysigrwydd cymuned i mi a phwysigrwydd peidio â sefyll o'r neilltu. Y rhan waethaf o'r profiadau oedd cael pobl yn cerdded heibio i chi gan edrych i lawr; roedd yr ymdeimlad o arwahanrwydd yn ofnadwy. Gwyddom hefyd fod iechyd meddwl ac unigrwydd yn arbennig o gyffredin ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw ar ein strydoedd. I lawer, bod yn berchen ar gi...
Jack Sargeant: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?
Jack Sargeant: Diolch am godi'r cwestiwn pwysig hwn, Andrew. Fel Andrew R.T. Davies, rwyf innau hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau gydag ysgolion uwchradd lleol ac ysgolion cynradd ond hefyd gyda’r awdurdod lleol, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaed ddoe, ac roedd fy nghwestiynau'n ymwneud â hynny, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ond a allwch roi sicrwydd i'r Cynulliad y...
Jack Sargeant: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020? OAQ54631
Jack Sargeant: 1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi? 359
Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i rai o ddiwydiannau mwyaf uwch-dechnolegol a blaengar Cymru a'r gweithlu ymroddedig a medrus sydd yn yr ardal honno. I'r cyflogwyr a'r gweithwyr hyn, mae cynllunio'n allweddol. A all y Gweinidog fanylu ymhellach ar y cyswllt y mae ef a'i swyddogion, ac unrhyw gyd-Weinidogion eraill, wedi'i gael gyda phrif gyflogwyr...
Jack Sargeant: Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf etholwyr sy'n gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion i gael triniaeth. Byddant yn yr un adeilad â chleifion o Loegr sy'n gallu cael mynediad at y feddyginiaeth hon. Weinidog, a allwch fy sicrhau bod y negodiadau yn y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Vertex yn parhau a'u bod yn gadarnhaol fel y gall fy etholwyr a phobl Cymru...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hynod bwysig hwn heddiw. Fe gefais i'r fraint o allu ymuno â chyn-filwyr ac aelodau'r cyhoedd yn y senotaff ar Sul y Cofio, rhywbeth y mae gennyf i atgofion melys iawn o'i wneud yn blentyn ifanc, law yn llaw â'm tad. Ac, unwaith eto, fe gefais i'r fraint o ymuno ag aelodau o'r cyhoedd a chyn-filwyr ddoe yn y senotaff yng Nghei Connah. Ddoe,...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo lles anifeiliaid yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Jack Sargeant: Trefnydd, rwy'n croesawu eich sylwadau chi'n gynharach ynghylch iechyd meddwl ac iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, ac rwy'n croesawu gwaith y Llywodraeth yn hyn o beth. Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer datrys hyn, ond rydym i gyd yn y Siambr hon a'r sefydliad hwn wedi colli rhywun ddwy flynedd yn ôl yn y modd hwn. Felly, hoffwn i atgoffa pawb fel unigolion, yn ogystal â'r...
Jack Sargeant: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad hwn, am yr hyn sy'n newyddion hynod gythryblus? Rwy'n cytuno'n llwyr â chyfraniad Dai Rees, fel y gwnaf bob amser, o ran dur, ond ni allaf ddweud hynny am rai cyfraniadau eraill yr ydym wedi'u clywed y prynhawn yma. Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn chwilio'n daer am yr wybodaeth hon, a byddwn i'n...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru?