Siân Gwenllian: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y rhaglen 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0104(CC)[W]
Siân Gwenllian: Diolch. A fedrwch chi gadarnhau a ydy’r cynllun presennol yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth? Beth fyddai’n digwydd ar ôl hynny? A fydd y rhaglen yn parhau fel ag y mae o, neu a fydd o’n dod yn rhan o rywbeth mwy? Beth fydd y canllawiau, a beth yw’r amserlen efo hynny? Mae awdurdodau lleol yn awyddus i gael y manylion cyn gynted â phosib er mwyn cynllunio ymlaen. Yn wir, mae yna...
Siân Gwenllian: Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw drwy sôn am bwysigrwydd cynnal pobl yn eu cartrefi er mwyn gwella gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar un agwedd i ddechrau. Un maes penodol ymarferol, sydd yn gallu cyfrannu at wella ansawdd bywydau llawer o bobl, yw gwneud addasiadau i’w cartrefi: ei gwneud hi’n haws i bobl defnyddio cadair olwyn; cawod bwrpasol; lifft i fyny’r...
Siân Gwenllian: Rydym yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i gau’r clytwaith o ysbytai cymunedol, a hefyd i symud i greu hybiau gofal ac iechyd cymunedol newydd, fel yr un yr wyf i’n gobeithio ei weld yn Waunfawr yn fy etholaeth i cyn hir. Mae’r rhain yn rhan bwysig o’r gadwyn ofal yr ydym am ei gweld yng Nghymru i’r dyfodol.
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu ffyniant economaidd ar draws Cymru? OAQ(5)0428(FM)[W]
Siân Gwenllian: Fel yr ydym ni wedi ei glywed, fe gafwyd cyhoeddiad mai i Drefforest y bydd pencadlys Awdurdod Refeniw Cymru yn mynd. Ar ôl gweld yr arfarniad yr oeddech chi’n sôn amdano fo ar sut y dewiswyd y lleoliad, roedd y meini prawf yn ei gwneud hi’n gwbl amhosibl i unrhyw beth ddod i’r gogledd, nac i unrhyw le y tu hwnt i gyrraedd hawdd i Gaerdydd. Roedden nhw’n ymwneud â sgiliau—un...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr am y datganiad, ac mae o’n cynnwys nifer o faterion. Byddwch chi’n falch o glywed fy mod i’n mynd i siarad am bedwar maes. Rwy’n nodi eich bod chi yn gweithio efo comisiynwyr yr heddlu wrth daclo eithafiaeth. Buaswn i’n licio gwybod a ydy hyn yn cynnwys eithafiaeth gan grwpiau asgell dde gwyn, sef un o’r bygythiadau pennaf sy’n ein hwynebu ni yn y Gymru gyfoes. Ac...
Siân Gwenllian: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg? OAQ(5)0083(EDU)[W]
Siân Gwenllian: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, ac edrychaf ymlaen at weld eich datganiad chi am y cynlluniau hynod siomedig yma. Rydych chi hefyd wedi cyhoeddi’ch awydd i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yr wythnos diwethaf a’r bwriad o gyflwyno Papur Gwyn cyn yr haf er mwyn hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ar ddarpariaeth y Bil newydd. Nid oedd yn glir i mi o’r datganiad beth yn union fydd gorchwyl y Bil newydd....
Siân Gwenllian: Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ar leoliad yr awdurdod refeniw newydd, fe ddywedodd y Prif Weinidog hyn: rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai.’ Aeth ymlaen i ddweud: Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’. Eto, pan holwyd cyfarwyddwr cyflawni’r awdurdod yr un cwestiwn yn y...
Siân Gwenllian: A gaf i jest eich atgoffa chi o beth ddywedodd y Prif Weinidog? Mi ddwedodd o: Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain’. Rydw i’n symud ymlaen i’r Papur Gwyn a gafodd ei gyflwyno gennych chi, ychydig o wythnosau yn ôl, ar ddiwygio llywodraeth leol. Mae yna nifer o gwestiynau yn codi, yn bennaf: a fydd y math o drefniadau rhanbarthol sy’n cael eu cynnig yn creu...
Siân Gwenllian: Diolch. Mae Plaid Cymru yn dadlau am ranbartholi syml, a dyna ydy’r cynghorau cyfunol. Rydym ni hefyd yn dadlau dros gyflwyno meiri etholedig fel ffordd o sicrhau atebolrwydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu cynnwys y Papur Gwyn o ymrwymo i gyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd o gynnal etholiadau llywodraeth leol. Mi fuasem ni’n gwneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor,...
Siân Gwenllian: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am osod allan pryderon y pwyllgor yn glir iawn. Byddwch wedi sylwi bod nifer fawr o bryderon wedi’u codi gan y pwyllgor. Rwyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb, a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i hynny: rwy’n mynd i edrych ar y cynllun cyflawni a rôl addysg. Yn argymhelliad 8, fe alwodd ein pwyllgor am eglurder ynglŷn â...
Siân Gwenllian: Bore ddoe am 9 o’r gloch, roedd merch ifanc, ddisglair o Fangor a’i mam i fod ar eu ffordd i Sri Lanka, yn groes i’w hewyllys. Yn dilyn ymgyrch fer, cafodd Shiromini Satkunarajah aros, am y tro o leiaf. Mae stori Shiromini wedi cydio yn nychymyg miloedd ar filoedd o bobl ym mhob cwr o Brydain. Mae wedi tanlinellu pa mor annymunol ydy’r system mewnfudo. Mae hefyd wedi dangos bod...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, a diolch am ddod â’r ddadl bwysig yma gerbron. Mae’n wir i ddweud bod sefyllfa merched wedi newid yn syfrdanol ers dyddiau’r suffragettes, ond mae cydraddoldeb yn bell, bell o fod yn realiti. Gobeithio bod gwelliannau Plaid Cymru yn nodi mewn ffordd ymarferol un neu ddau faes lle gall y Llywodraeth yma gael dylanwad. Mae un o’n gwelliannau ni yn ymwneud â gwersi...
Siân Gwenllian: 8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0109(CC)[W]
Siân Gwenllian: Ceredigion oedd yr awdurdod lleol gorau o ran ailgylchu yn y 12 mis hyd at ddiwedd Medi 2016, gyda 70 y cant o’i wastraff yn cael ei ailgylchu. Mae pob un o’r awdurdodau lleol sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cyrraedd y targed cenedlaethol o ailgylchu 60 y cant o wastraff. Mae rhai awdurdodau, fel Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, yn parhau i fethu â chyrraedd y...
Siân Gwenllian: Brynhawn ddoe, fe wnaethoch chi wrthod cefnogi gwelliant gan Blaid Cymru a fyddai wedi’i gwneud hi’n orfodol i gyflwyno addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru. Buaswn i’n hoffi deall pam y gwnaethoch chi wrthod cefnogi hynny. Sut ydym ni’n mynd i leihau trais yn erbyn merched mewn ffordd barhaol os nad ydy ein plant ni a’n pobl ifanc ni’n cael cyfle i drafod materion allweddol...
Siân Gwenllian: Yr wythnos nesaf, mi fydd hi’n 11 mis ers i Ganolfan y Fron gyflwyno cais am grant o’r rhaglen yma. Mae oedi gan y Llywodraeth yn rhoi dyfodol y prosiect cyfan mewn perygl. Mae hi hefyd bron i naw mis ers i GISDA— elusen pobl ifanc bregus—anfon eu cais nhw ac maen nhw hefyd yn disgwyl i glywed a oedd eu cais yn llwyddiannus. Roedd y Llywodraeth wedi addo y buasen nhw wedi derbyn...