Canlyniadau 101–120 o 200 ar gyfer speaker:Sarah Murphy

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ ( 7 Rha 2022)

Sarah Murphy: Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Ollie hefyd yn etholwr i mi ac mae wedi bod yn dadlau dros faterion LHDTC+ i bobl ifanc. Mae Ollie wedi siarad yn onest am homoffobia sy'n wynebu pobl ifanc mewn ysgolion, a'r diwylliant sydd, yn anffodus, yn dal i fod yn bresennol, sy'n...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid ( 7 Rha 2022)

Sarah Murphy: Gwnsler Cyffredinol, diolch am eich diweddariad ar hyn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Athro Kevin Haines a'r Athro Jonathan Wynne Evans, dau arbenigwr arloesol ym maes cyfiawnder ieuenctid, a siaradodd gyda mi ynglŷn â sut mae ein dull ni yng Nghymru yn ystyried eu bod yn blant yn gyntaf ac yn droseddwyr yn ail, ac fe wnaethant alw hyn yn ôl yn 2013 yn 'ddraigeiddio' cyfiawnder ieuenctid....

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithaso — 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol' (14 Rha 2022)

Sarah Murphy: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb ac i fy nghyd-Aelodau a chlercod y pwyllgor am eu gwaith, a’r holl sefydliadau a phobl a siaradodd â ni ac a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Edrychodd adroddiad 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol’ ar sawl agwedd ar drais domestig yn erbyn menywod ac anghenion menywod mudol, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Amrywiaeth mewn Democratiaeth — Canlyniadau Arolwg (10 Ion 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw. Rwyf i eisiau dechrau drwy grybwyll ein cyngor ieuenctid ardderchog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd, fel cynghorwyr, yn gwneud llawer iawn o waith yn eu hamser eu hunain. Heddiw fe wnaethon nhw bostio eu cod ymddygiad y maen nhw wedi'i greu, sy'n cynnwys bod yn anfeirniadol, parchu gwerthoedd eraill, yn ogystal â dim iaith liwgar na...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg (11 Ion 2023)

Sarah Murphy: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r ddarpariaeth o addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58909

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg (11 Ion 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o'r cyhoeddiad y bydd mwy o fynediad i ddysgwyr allu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws fy nghymuned a ledled Cymru; mae wedi cael croeso mawr gan fy etholwyr. Roeddwn eisiau tynnu sylw at newyddion da, mewn gwirionedd, sef bod yna gynlluniau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ac maent wedi symud...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Digidol (17 Ion 2023)

Sarah Murphy: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi digidol? OQ58951

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Digidol (17 Ion 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Prif Weinidog. Mae tlodi digidol yn fater sy'n bwysig iawn i mi. Rwy'n credu y daethpwyd â'r gwir oblygiadau i'r brif ffrwd yn sicr yn ystod y pandemig, pan oedden ni'n dibynnu ar bob peth digidol i gysylltu â'n gilydd yn ystod y cyfyngiadau symud, neu'n defnyddio offer digidol i weithio gartref neu'r ysgol. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n parhau i weld ei effaith nawr yn ystod yr...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (24 Ion 2023)

Sarah Murphy: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at ddatganoli pwerau ar gyfer system gyfiawnder i Gymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau (24 Ion 2023)

Sarah Murphy: Wrth siarad am Ben-y-bont ar Ogwr, cyn cael fy ethol, roeddwn i'n ymddiriedolwr i ganolfan cyffuriau ac adsefydlu Brynawel, sydd yn etholaeth fy nghydweithiwr Huw Irranca-Davies yn Aberogwr. Maen nhw'n cynnig amrywiaeth eang o ddulliau cyfannol i gefnogi pobl gyda'u hadsefydlu o gaethiwed. Rwyf wedi gweld y gefnogaeth wych sydd ar gael, a'r rhwystrau y gall pobl eu goresgyn pan fydd ganddyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyfiawnder Data (25 Ion 2023)

Sarah Murphy: 8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu cyfiawnder data? OQ58996

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyfiawnder Data (25 Ion 2023)

Sarah Murphy: Diolch. Mae'r Labordy Cyfiawnder Data, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn diffinio cyfiawnder data fel y 'berthynas rhwng creu data a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu llywio gan ddata a data mawr'— yn y bôn, tynnu sylw at y niwed a'r peryglon posibl i ddinasyddion. Rydym wedi gweld hyn yn ymchwiliad ein Pwyllgor...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod — Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol (25 Ion 2023)

Sarah Murphy: Hoffwn ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ddod â'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod i'r Siambr heddiw. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i drafod mater nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ei fod yn bodoli yn y byd digidol hwn sy'n ehangu'n barhaus. Pan fyddwn yn meddwl am leihau ein hôl troed carbon, yn aml mae yna ragdybiaeth fod mynd ar-lein yn gweithredu fel dewis arall cynaliadwy i wrthsefyll ein...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lleihau Amseroedd Aros yn y GIG (31 Ion 2023)

Sarah Murphy: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg ddigidol i leihau amseroedd aros y GIG i gleifion ar draws Pen-y-bont? OQ59062

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lleihau Amseroedd Aros yn y GIG (31 Ion 2023)

Sarah Murphy: Felly, rhywfaint o newyddion da: rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adran trawma ac orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr arloesedd MediWales ar ddiwedd 2022 yng nghategori gwobr 'gweithio gyda'r diwydiant' GIG Cymru. Enillwyd y wobr gan mymobility, sy'n ap digidol gofal iechyd y mae cleifion yn ei lawrlwytho i'w ffonau clyfar, ac yna...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwelyau Gofal Llai Dwys ( 7 Chw 2023)

Sarah Murphy: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynyddu capasiti gwelyau gofal llai dwys i gleifion ar draws Pen-y-bont? OQ59109

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwelyau Gofal Llai Dwys ( 7 Chw 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Gweinidog. Fis diwethaf, cynhaliodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ddigwyddiad yma yn y Senedd ar ddyfodol gofal brys yng Nghymru. Clywodd y digwyddiad gan glinigwyr ar lawr gwlad a siaradodd am yr angen am strategaeth gynaliadwy hirdymor. Mae'r data yn dangos, er bod presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn debyg o flwyddyn i flwyddyn, mae capasiti yn parhau i gael...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+ ( 7 Chw 2023)

Sarah Murphy: Dirprwy Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn heddiw. Yn fy etholaeth i, ac yn cwmpasu etholaeth Ogwr hefyd—sedd Huw Irranca-Davies—rydym ni'n ffodus iawn i fod ag YPOP, sef cangen o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Mae YPOP yn ofod diogel ar-lein ar gyfer pobl ifanc sy'n LHDTC+ neu'n gynghreiriaid, ac mae'r grŵp yn cynnal sesiynau galw heibio er mwyn sgwrsio ac ymlacio,...

5. Datganiadau 90 Eiliad ( 1 Maw 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Lywydd. Dydd Llun oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, amser i bwysleisio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd yn unig, ond â theimladau. Y thema eleni yw cydnabod a chodi ymwybyddiaeth fod dynion yn dioddef anhwylderau bwyta hefyd, gan i arolwg gan elusen Beat Eating Disorders ganfod nad oedd un o bob tri erioed wedi cael triniaeth ac nad oedd un o bob pump...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) — Data biometrig mewn ysgolion ( 8 Maw 2023)

Sarah Murphy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i Jane Dodds, a gyd-gyflwynodd y cynnig hwn, ac i Carolyn Thomas a Jack Sargeant a'i cefnogodd. Rwy'n gwneud y cynnig. Gofynnais am ddadl ar ddata biometrig mewn ysgolion ar sawl achlysur ers cael fy ethol, felly mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol, ac rwy'n falch ac yn obeithiol y gallwn drafod yr agweddau ar y gyfraith, rheoleiddio a chydraddoldeb a...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.