Canlyniadau 1221–1240 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 1 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i geisio gan Lywodraeth y DU ynghylch y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymateb i amgylchiadau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau ( 1 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad ar y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, y cyntaf ym mis Rhagfyr a'r ail yr wythnos diwethaf. 

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau ( 1 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Mynegodd ein hadroddiad cyntaf ein pryderon ynglŷn â'r Bil. Rydyn ni’n credu y gallai'r cynigion rheoli cymhorthdal—ac rydyn ni’n dweud hyn yn ein hadroddiad—gael effaith niweidiol ar ddatganoli ac ar arfer swyddogaethau datganoledig, yn enwedig mewn ffyrdd a allai gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus i ariannu prosiectau angenrheidiol. Felly, mae effaith bosibl...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc ( 2 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc ( 2 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio, ac rwy’n cysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaethoch yn eich sylwadau agoriadol hefyd, fel y mae pawb ohonom, rwy’n siŵr. A fyddai ganddo ddiddordeb mewn gwybod bod Bil wedi’i gyflwyno ar lawr Senedd y DU ar 1 Mawrth 2016 gan Mark Williams, yr Aelod Seneddol dros Geredigion ar y pryd? Fe’i galwyd yn Fil Datganoli (Gwyliau Banc) (Cymru). Roeddwn yn falch o fod yn un...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am un datganiad ac un ddadl? Mae'r datganiad yn un y gwn i y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei swyddogaeth adrannol hefyd. Yn ôl yn hydref 2019—. Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd ar gyfer y Senedd. [Chwerthin.] Ond yn hydref 2019, cafodd y cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ei gyflwyno. Roedd ganddo gyfres...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n ymddiheuro. Arhosaf tan yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]

6. Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 ( 8 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a byddaf yn siarad yn fyr iawn heddiw. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 28 Chwefror, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt rhagoriaeth i'w adrodd yn unig, y byddaf yn ei drafod y prynhawn yma. Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol a chanlyniadol i wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n gosod...

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) ( 8 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol ar gyfer y Bil hwn fis diwethaf. Gyda memorandwm rhif 2 ond yn cael ei osod yn hwyr yr wythnos diwethaf, dim ond ddoe yr oedd fy mhwyllgor mewn sefyllfa i nodi ei fod wedi cyrraedd, ond dim mwy na hynny. 

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws) ( 8 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Llywydd, yn ôl eich gwahoddiad, rwyf wedi siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn dadleuon ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ym mhob un o'r pedair wythnos diwethaf. Mae pobl yn blino clywed gennyf yn awr. Yn wir, ers dechrau'r tymor newydd ym mis Ionawr, rwyf wedi siarad ar gynigion o'r fath yn ystod chwech o'r wyth eisteddiad...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Yr Argyfwng Costau Byw ( 9 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thlysorlys y DU i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi'r rhai sy'n wynebu argyfwng costau byw? OQ57738

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Yr Argyfwng Costau Byw ( 9 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n mynd i—er siom i lawer, rwy'n gwybod—dynnu'r wleidyddiaeth allan yn llwyr ar gyfer hyn. Mewn democratiaeth aeddfed ledled y DU, pan fyddwn yn wynebu sawl argyfwng ar unwaith—mae gennym yr argyfwng newid hinsawdd; mae gennym yr argyfwng a welwn mewn materion rhyngwladol yn awr yn Wcráin a'r drychineb ddyngarol yno; ac mae gennym yr argyfwng costau byw, sy'n mynd i waethygu, nid...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) — Cynllunio morol yng Nghymru (16 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Nid wyf yn gwybod pa sgrin i edrych arni. Rydych o fy mlaen i ddwywaith, Janet. Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl hon; credaf ei bod yn un bwysig iawn. Un o'r pethau nad wyf yn glir yn ei gylch, a tybed a allwch chi helpu, neu efallai y gall y Gweinidog wneud hynny wedyn, yw a oes angen deddfwriaeth newydd arnom, neu a yw'r ddeddfwriaeth gynllunio morol ac arfordirol bresennol yn caniatáu...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, prin fod y Canghellor wedi eistedd yn ôl i lawr ar y meinciau gwyrdd cyn i'r feirniadaeth chwalu ei ddatganiad ar gyllideb y gwanwyn, ac nid dim ond gan rai ASau Torïaidd ar y meinciau cefn y daeth; daeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan y Resolution Foundation, gan Martin Lewis, yr arbenigwr arbed arian, a edrychodd ar effaith y baich treth cynyddol a'r baich...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Gan gydnabod bod cynnydd o 8 y cant o ran chwyddiant ar hyn o bryd, mae'n ei ddileu yn llwyr. Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon ei bod hi weithiau yn teimlo fel nofio yn erbyn llanw Llywodraeth y DU. Prif Weinidog, sut gallwn ni helpu pobl i nofio yn erbyn y llanw, i gadw eu pennau uwchben y dŵr? Gan fod rhai pobl yn boddi yn awr, a'n hetholwyr ni yw'r rhain.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd dros dro, a dim ond un cwestiwn byr sydd gen i. Ond fe hoffwn i ystyried—. Bydd Jane Dodds yn gyfarwydd iawn â neuadd les y glowyr yn Ystradgynlais. Mae gennym ni draddodiad balch yn y wlad hon o gefnogi ceiswyr lloches, ffoaduriaid, dros genedlaethau lawer—ymweld â theuluoedd o Syria yn y fan honno, dathlu eu diwylliant, ond dathlu'r rhodd a gawsom ni ganddyn nhw hefyd,...

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch, Gweinidog, hefyd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy’n ymdrin â phedwar memorandwm cydsyniad sydd wedi’u gosod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y Bil hwn. Cwblhawyd y cyntaf ym mis Rhagfyr y llynedd, a gosodwyd yr ail yn gynharach y mis hwn. Roeddem yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ymateb i’r ddau adroddiad. Yn anffodus,

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: fodd bynnag, brynhawn Gwener diwethaf y cyflwynwyd memorandwm Rhif 5, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu arno. Mae hyn yn amlwg yn peri rhwystredigaeth, fel y mae fy nghyd-Aelod John Griffiths, Cadeirydd fy nghyd-bwyllgor, wedi sôn amdano, ac mae'n destun gofid. Er bod ein dau adroddiad yn rhoi sylwadau ar ddarpariaethau penodol yn y Bil, y prynhawn yma rwy’n...

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau ym mis Rhagfyr y llynedd. Er inni ystyried y memorandwm atodol yn ystod ein cyfarfod ddoe, gan iddo ond gael ei osod ddydd Mawrth diwethaf, nid oedd modd inni gyhoeddi adroddiad yn yr amser a oedd ar gael i ni.

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (29 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Yn ein hadroddiad ar y memorandwm, mynegwyd pryder difrifol gennym ynghylch y darpariaethau a gynhwyswyd yn y Bil ar ei gyflwyno a effeithiodd ar feysydd datganoledig ac ar y trefniadau atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru fel y nodir yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Roeddem yr un mor bryderus, bryd hynny, am y diffyg ymgysylltu ymddangosiadol rhwng...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.