Suzy Davies: Yn amlwg, cafodd ei gyhoeddi ar ôl i mi gyflwyno fy nghwestiwn. Ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o eglurhad arnom ni, i fyfyrwyr yn benodol, ond nid yn unig, am y gwahaniaeth rhwng tai amlfeddiannaeth, sy'n dai â chyfleusterau a rennir ond tenantiaethau unigol, a thai a rennir— ffrindiau'n rhannu llety, os hoffech chi. Oherwydd, beth bynnag yw'r agweddau cyfreithiol, bydd y ddau grŵp...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi hefyd. Mae cryn dipyn ynddo, ac rwy'n siŵr na fyddaf i'n gallu ymdrin â phopeth yn llawn heddiw. A gaf i eich llongyfarch hefyd am allu rhoi'r datganiad hwn ar yr agenda o fewn oriau i'r adroddiad gael ei ryddhau o'r gwaharddiad? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio eich galluoedd dewiniol chi gyda...
Suzy Davies: Byddwn ni'n parhau â gweddill yr agenda heddiw, a dechreuaf drwy alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf nawr ar Jenny Rathbone i siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Jenny Rathbone.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, a nesaf galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Suzy Davies: Diolch yn fawr i bawb. Galwaf nesaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Gweinidog, a gaf i ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben? Rydym ni ychydig dros amser. Diolch.
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.
Suzy Davies: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Suzy Davies: Diolch. Janet Finch-Saunders.
Suzy Davies: Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 12, cynnig cydsyniad offeryn statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Suzy Davies: Diolch. Galwaf eto ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Suzy Davies: Diolch. Galwaf eto ar Janet Finch-Saunders.
Suzy Davies: O dan eich cynlluniau, bydd angen i ffermwyr wneud newidiadau i'w modelau busnes, gan gynhyrchu mwy a meddwl am gynhyrchion gwahanol gyda llai, a bydd Brexit yn dod â bygythiadau a chyfleoedd hefyd. Sut mae eich adran chi yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid ifanc Cymraeg eu hiaith yn gweld ffermio fel sector cyffrous, modern a moesegol i fynd iddo...
Suzy Davies: Weinidog, rwy'n tybio eich bod yn gwybod am effaith y ceisiadau hyn ar farn teuluoedd sy'n ffermio yng Ngŵyr, gan fod un wedi'i wrthod yn ddiweddar iawn heb fod mor bell oddi wrthych. Nid yw pobl leol yn falch iawn fod yn rhaid iddynt neidio drwy gylchoedd amrywiol er mwyn cadw eu pobl ifanc yn yr ardal, lle mae rhai o'r ceisiadau datblygu Un Blaned hyn yn tueddu i ddod gan bobl sy'n byw y...