Canlyniadau 1241–1260 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelu Ynni (30 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi, drwy'r Dirprwy Weinidog, awgrymu wrth gyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadol yma nad yw'n rhy hwyr i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn technoleg forol a llanw yng Nghymru, gan gynnwys technoleg môr-lynnoedd? Diwrnod ofnadwy iawn i Gymru oedd yr un pan ddywedodd Charles Hendry, y mae gennyf lawer o barch tuag ato, fod buddsoddi yn y morlyn llanw yn Abertawe yn rhywbeth amlwg...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio' (30 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn o godi i siarad yn fyr yn y ddadl hon, a diolch hefyd i'r pwyllgor am eu gwaith ac am barhau â'u sylw i'r maes polisi cymdeithasol gwirioneddol bwysig hwn, oherwydd mae'n sicr yn wir—bron nad oes angen ei ddweud, ond rwy'n benderfynol o'i ddweud—os cawn y buddsoddiad yn iawn mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar, mewn system gydlynol, unedig o ddarpariaeth blynyddoedd...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio' (30 Maw 2022)

Huw Irranca-Davies: Ymyriad byr iawn. Yn syml, hoffwn ddweud bod yr holl brofiad rhyngwladol yn dangos, o oedran priodol—. O oedran ifanc iawn, o naw mis ymlaen, yr hyn sydd ei angen arnoch yw’r dull unedig hwnnw sy'n dod ag addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant ynghyd. Mae hynny’n cynnwys chwarae, ond mae’r dull unedig hwnnw’n allweddol i lwyddiant a chanlyniadau.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac fe wnaf gadw fy nghwestiwn yn fyr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, rydw i'n croesawu'r cynllun, oherwydd mae'n rhoi gobaith, yn enwedig gyda'r targedau, ond mae'n rhaid i'r rheini bellach fod nid yn unig yn gyraeddadwy ond maen rhaid iddyn nhw gael eu cyflawni hefyd. Oherwydd mae llawer ohonom ni sy'n credu'n gryf, hyd ddydd ein marwolaeth, yn y GIG yn gwybod bod yn...

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod ar 28 Mawrth ac adroddwyd ar y memorandwm ddoe. Nid ydym yn troi at faterion polisi; mae hynny wedi'i wneud yn fedrus gan fy nghyd-Gadeirydd Jenny Rathbone a'i phwyllgor, ond cytunaf â'r sylwadau yn y fan yna: pwy fyddai'n gwrthwynebu hyn?  Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond rydym yn gwneud...

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Rydyn ni wedi llunio tri adroddiad sy’n ymdrin â’r pedwar memoranda cydsynio a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. O ystyried mai dim ond ar ddechrau toriad y Pasg y gosodwyd memorandwm Rhif 4, gosodwyd ein trydydd adroddiad brynhawn ddoe, yn union ar ôl i ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod cyntaf y tymor newydd hwn.

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Ac rwy'n croesawu sylwadau fy nghyd-Gadeirydd yn y fan yna ar y mater o ddefnyddio'r dull hwn o gynnig LCMs ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Llywydd, byddaf yn datgan ar gyfer y cofnod y dylid darllen ein hadroddiad diweddaraf ar y cyd â'n hadroddiadau cynharach, rhai ohonyn nhw yn sôn am yr union faterion hyn. Yn ein hadroddiad diweddaraf a osodwyd ddoe ar femorandwm Rhif 4, rydym wedi nodi...

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol ail Fil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Daeth ein hadroddiad i bedwar casgliad a gwnaethom 18 argymhelliad.

12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (26 Ebr 2022)

Huw Irranca-Davies: Hoffwn i, yn fy sylwadau agoriadol, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y sylw y maen nhw wedi'i roi i'r Bil penodol hwn. Ond hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am drefnu cyfarfod gyda mi a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau perthnasol. Roeddem ni'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol ac yn adeiladol, ac rwy'n croesawu'n fawr, unwaith...

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Gweinidog, mae'r cyfan yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad chi heddiw yn adleisio profiadau teuluoedd sy'n gwahodd yn fy etholaeth i nawr. Mae rhai o'r rhain—. Maen nhw'n deuluoedd anhygoel. Maen nhw'n byw mewn tai teras yn fy etholaeth i, nid oes ganddyn nhw lawer o fodd eu hunain, ond maen nhw wedi agor eu cartrefi i deuluoedd o Wcráin, maen nhw'n awyddus iawn i ddod â nhw yma...

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar yr union bwynt yna. Un o'r egwyddorion sylfaenol y bydd hyd yn oed myfyriwr Safon Uwch yn ei ddysgu am hawliau dynol yw eu bod yn gyffredinol—does dim modd eu trafod, maen nhw'n gyffredinol, yn berthnasol i bawb. Sut felly mae'n dehongli signal Llywodraeth y DU, gan wrthod, fel mae'n ei ddweud yn gywir, yr hyn y maen nhw wedi'i glywed yn yr...

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar y pwynt yna?

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Yn syml, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ymyriad yna. Yn wir, mae Darren wedi hyrwyddo hynny ers tro byd. Os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen yn y modd hwnnw, ac yn naws yr ymyriad gan Darren, mae hynny'n ei gwneud yn eithaf diddorol, oherwydd gallem yn y pen draw gael cefnogaeth drawsbleidiol i ymgorffori'r egwyddorion hawliau dynol yn ein deddfwriaeth ni ein hunain yma yng Nghymru, ac...

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: [Anghlywadwy.]—tynnu'r gwelliant yn ôl. [Chwerthin.]

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser mawr i ddilyn Sioned.

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Cadeiriodd Sioned y grŵp hwnnw y bore yma, y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Roedd yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, gwrando ar y drafodaeth. A'r pwyntiau yr wyf i eisiau eu gwneud—fel arfer rwy'n ychydig yn bwyllog, Llywydd, wrth wneud y pwyntiau hyn, oherwydd fel arfer rwy'n sefyll fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac rwy'n sych iawn, ac ati....

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Gwnaf yn sicr, Darren.

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Wel, oherwydd nid fi yn unig sy'n eu dweud, Darren. Yn wir, nid fi—os fi oedd yn gyfrifol, byddwn i’n ei ddiystyru'n llwyr; dim ond yr Aelod Seneddol dros Ogwr ydw i. Ond, mewn gwirionedd, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei hun wedi edrych arno, ac nid ydyn nhw wedi gwrthwynebu'n llwyr, ond yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud yw—ac mae hwn yn ddyfyniad ganddyn nhw; rydych chi...

6. Dadl: Hawliau Dynol ( 3 Mai 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am ildio i ymyriad byr. Roedd adeg, a chyfeiriais at hyn yn flaenorol, yn sgil yr ail ryfel byd, pan oedd consensws trawsbleidiol cryf nid yn unig ar bwysigrwydd hawliau dynol, ond yn enwedig o ran ffoaduriaid. A bellach mae gennych chi Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod trosglwyddo 'ffoaduriaid a cheiswyr lloches i drydydd gwledydd yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.