David Melding: —ar dâl y comisiynydd dros dro.
David Melding: Nid oes unrhyw siaradwyr wedi dweud eu bod yn dymuno cael eu galw yn y ddadl hon, ac felly rwy'n tybio nad ydych eisiau siarad am y mater eto, Jayne. Fe ddywedaf felly mai'r cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Symudwn yn awr at eitem 7—dadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar dâl y comisiynydd safonau dros dro. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant, i gyflwyno'r cynnig.
David Melding: Unwaith eto, nid oes gennyf siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dawn Bowden.
David Melding: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw'r Llywydd wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett, na gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, er fy mod yn bwriadu galw ar y ddau Aelod i siarad yn y ddadl. Siân Gwenllian.
David Melding: Ymddengys bod gennym anawsterau technegol. A wnaiff y gweithredwr sain weld a allwn ailsefydlu cyswllt â Neil Hamilton?
David Melding: Do, mae'n ddrwg gennyf, Neil, roedd hi'n anodd eich clywed. Nid oedd y sain yn gweithio. Felly, rydym wedi'ch clywed hyd at funud a 34 eiliad, felly, yn amlwg, fe wnaf ganiatáu i chi gael yr amser angenrheidiol ar gyfer eich dadl.
David Melding: A wnaiff y gweithredwr sain geisio ailgysylltu eto â'r Aelod?
David Melding: Ie, rydych chi wedi cael toriad o tua 20 eiliad. Roeddech yn trafod y pwynt am amrywiaeth ymgeiswyr. Os gallwch ailddechrau o'r fan honno.
David Melding: Rhaid i chi ddod i ben. Mae hyn yn dechrau teimlo fel Everest heb ocsigen. Nawr gorffennwch os gwelwch yn dda.
David Melding: Galwaf ar y Llywydd yn awr.
David Melding: Galwaf ar Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
David Melding: Galwaf ar Dawn Bowden i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, ac felly gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Eitem 9 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
David Melding: Alun Davies.
David Melding: Alun, mae eich amser wedi hen orffen. Rwyf wedi bod yn hael iawn, yn enwedig pan oeddech yn rhoi'r geiriau canmoliaethus hynny i'ch cymydog, ond bydd yn rhaid i ni ei gadael yno. Caroline Jones.
David Melding: Huw Irranca-Davies.
David Melding: Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.