Huw Irranca-Davies: Mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi pecyn integredig o gynigion ar gyfer Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru yn well, a chynllun i'n helpu i wireddu hynny. Credwn y gall ein cynigion ennyn cefnogaeth o leiaf y 40 Aelod sy'n angenrheidiol ar gyfer uwchfwyafrif yma yn y Senedd hon. Fel y dywedwn yn yr adroddiad, credwn yn gryf fod y diwygiadau hyn yn hanfodol a'u bod yn gyraeddadwy cyn 2026,...
Huw Irranca-Davies: Gan edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw, gadewch imi gloi drwy ddweud bod yr adroddiad hwn ymhell o ddiwedd y daith i ddiwygio'r Senedd. Bydd angen mynd i'r afael â Bil Llywodraeth Cymru i sicrhau bod newid yn digwydd yn ddi-oed. Yna, bydd gennym gyfleoedd pellach i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Ond, heddiw, rhaid inni gymryd y cam cyntaf. Heddiw, gallwn anfon mandad clir at...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Llywydd. Mae’n bleser dilyn sylwadau cytbwys ac adeiladol y Cwnsler Cyffredinol, ond a gaf fi hefyd ddiolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu heddiw, waeth beth yw’r farn a’r safbwyntiau gwahanol? Mae wedi bod yn ddadl fywiog—dadleuol ar adegau ac angerddol bob amser—a chredaf mai dyna yw pwrpas y lle hwn. Rwy'n meddwl ei bod yn debygol y gwelwn fwy o'r diwygiadau y...
Huw Irranca-Davies: Nid yw'n debyg fod gennyf amser, Alun, mae arnaf ofn, yn anffodus—rwy'n ymddiheuro'n llaes i'r Aelodau am hyn. Rydym wedi clywed yn gyson gan Aelodau Ceidwadol, ac yn gyson a chlir hefyd gan eu harweinyddiaeth hyd yn oed tra oedd y pwyllgor yn eistedd, mae'n rhaid i mi ddweud: dim mwy o Aelodau ac ati. Mae wedi cael ei ailadrodd drosodd a throsodd, a dyma ni heddiw. Yr hyn a grybwyllwyd...
Huw Irranca-Davies: 7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl Ogwr? OQ58193
Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu bod ymateb y Prif Weinidog yn disgrifio'n dda y tswnami sy'n effeithio ar bobl ledled Cymru bellach, o Ogwr, y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin, ac mae yn digwydd yn wirioneddol, ac nid yw wedi ei guddio—rydym mewn gwirionedd yn ei weld bob dydd bellach. Ond mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud. Mae llawer o'r mesurau, sef mesurau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u targedu'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Un o'r nodweddion sy'n diffinio llawer o'r cymorth a roddodd Llywodraeth Cymru hyd yma yw pa mor effeithiol yr anelwyd hwnnw at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, os ydym ni'n edrych ar y cynllun talebau tanwydd, y gronfa wres, y gronfa cychwyn iach, y gronfa newydd i ofalwyr, mae hynny'n mynd yn uniongyrchol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf nawr. Ni ellir dweud yr un...
Huw Irranca-Davies: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio cymoedd Garw, Ogwr, Llynfi a Gilfach?
Huw Irranca-Davies: Wrth i bawb fynd allan am yr haf i wneud y gorau o'r awyr agored sydd gennym yma yng Nghymru, a allem ni gael datganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol ac yn y dyfodol, i Adventure Smart Cymru? Mae'n wefan wych, yn llwyfan, yn bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ceisio hyrwyddo gweithgareddau awyr agored diogel ac iach—cerdded bryniau, beicio mynydd, padlfyrddio,...
Huw Irranca-Davies: Pa ymgysylltiad a gaiff y Gweinidog â sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru cyn ac yn ystod Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig COP 15 ym mis Hydref 2022?
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddwn eisiau siarad yn y ddadl hon, ond rwy’n falch iawn o gefnogi’r ddadl hon heddiw a chlywed eraill yn siarad, ac mae’n wych clywed y Gweinidog yn sôn am yr ymgysylltu â fu gyda chanolfan cydweithredol Cymru. A fyddai'n cydnabod bod llawer o’r cynnig yma heddiw, y cynnig trawsbleidiol hwn, yn adlewyrchiad teilwng o'r ymgyrchoedd...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn yn wir, a diolch i Llyr am gadeirio’r dystiolaeth a glywsom yn yr ymchwiliad hwn i CNC ac am gyflwyno’r adroddiad hwn, a hefyd i'n tîm clercio a’r rheini a roddodd dystiolaeth i ni. Ar yr un pryd â'n bod yn wynebu ergyd ddwbl yr argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur a bioamrywiaeth, mae ein hadroddiad yn nodi'n bendant fod taer angen aildrefnu cyllid a strategaeth...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn a'r datganiad heddiw yn fawr, gan ganolbwyntio fel y mae ar y rhai sy'n gadael gofal â'r incwm sylfaenol. Bydd yn ychwanegu, er gwaethaf rhai o'r amheuon heddiw, at y gronfa honno o dystiolaeth ryngwladol, o ran cynlluniau treialu incwm sylfaenol ond hefyd ar gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain tuag at fywyd annibynnol...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, rwy'n dechrau o'r rhagdybiaeth fy mod i eisiau i waith rhyng-weinidogol a rhynglywodraethol fod yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae er ein lles ni i gyd. Ond pe bai ymgais ar y cyd ac yn fwriadol i danseilio peirianwaith newydd y llywodraeth, byddai'n cynnwys diffyg cyfathrebu, diffyg rhannu gwybodaeth yn amserol ac ymgysylltu'n amserol â Llywodraethau datganoledig mewn ysbryd o...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, yn ddiweddar ymwelodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, a minnau â Hope Rescue ger Llanharan. Gwelsom y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud, ond roeddent yn dweud wrthym am y cynnydd enfawr yn nifer yr ymholiadau y maent yn eu cael gan berchnogion sy'n gofyn, 'Sut y gallaf fforddio cadw fy anifail anwes yn awr? Sut y gallaf ei fwydo? Sut y gallaf dalu ffioedd milfeddyg? Sut y gallaf...
Huw Irranca-Davies: Nid oeddwn wedi bwriadu codi, ond cofiaf, o ohebiaeth â’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, mai ar gyfer heddiw y trefnwyd ail gyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, ac un o’r eitemau—un o’r ddwy eitem—a oedd wedi'u hamserlennu, a diolchwn i'r Gweinidogion am eu tryloywder gyda'r Senedd ar hyn, oedd cysylltiadau rhynglywodraethol y DU yn wir. A gawn ni...
Huw Irranca-Davies: Mae'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi galluogi ein system trafnidiaeth gyhoeddus i ddod drwodd, er ei bod wedi'i tharo gan ddigwyddiadau, ond mae'n barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, a fydd yn cynnwys gwelliannau ac estyniadau i wasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys ar linell Maesteg, deddfu i...
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, rwyf i wedi eich herio chi a'r Cwnsler Cyffredinol o'r blaen i roi rhaglen i ni sy'n llawn deddfwriaeth wedi'i gwneud yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd gan y Senedd bresennol hon o 60 o Aelodau eu dwylo'n llawn yn y flwyddyn i ddod, rhaid i mi ddweud—mae digon yma i gael ein dannedd ynddo. Nid oes rhywbeth at ddant pawb, ond mae llawer yma. A byddwch chi'n falch o wybod na...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolchwn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad rhagarweiniol a hefyd am ychwanegu at raglen graffu brysur ein pwyllgor drwy gyflwyno'r Bil cydgrynhoi cyntaf hanesyddol hwn—mewn mwy na theitl yn unig—yng Nghymru. Nawr, mae dyfodiad y Bil cydgrynhoi Cymreig cyntaf hwn yn rhywbeth y bu rhai yn eiddgar ddisgwyl amdano, ac, mewn gwirionedd, fel yr ydym ni newydd...
Huw Irranca-Davies: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Bil Hawliau arfaethedig Llywodraeth y DU ar y fframwaith deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru? OQ58292